Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006 rhwng 5 a 12 Awst 2006 ar hen safle Gwaith Dur Felindre, Sir Abertawe. ychydig oddi ar draffordd yr M4. Ymhlith pynciau llosg yr Eisteddfod oedd y penderfyniad i ddileu seremoni'r Cymru a'r Byd a bu cryn dipyn o feirniadu hefyd ar wyneb carregog y maes. Roedd y pafiliwn yn un pinc llachar yn wahanol i'r un arferol o streipiau glas a melyn. Roedd wedi ei gynllunio ar gyfer un o ymgyrchoedd elusen Gofal Cancr y Fron a chytunodd yr Eisteddfod i'w gael yn lle'r un arferol.
← Blaenorol | Nesaf → | |
Lleoliad | hen safle Gwaith Dur Felindre | |
---|---|---|
Cynhaliwyd | 5-12 Awst 2006 | |
Archdderwydd | Selwyn Iolen | |
Daliwr y cleddyf | Ray o'r Mynydd | |
Cadeirydd | Heini Gruffudd | |
Llywydd | Prys Morgan | |
Nifer yr ymwelwyr | 155,441 | |
Enillydd y Goron | Eigra Lewis Roberts | |
Enillydd y Gadair | Gwynfor ab Ifor | |
Gwobr Daniel Owen | Gwen Pritchard Jones | |
Gwobr Goffa David Ellis | Aled Wyn Davies | |
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn | Medwen Parry | |
Gwobr Goffa Osborne Roberts | Rhian Lois | |
Gwobr Richard Burton | Enfys Gwawr Loader | |
Y Fedal Ryddiaith | Fflur Dafydd | |
Medal T.H. Parry-Williams | Marilyn Lewis | |
Dysgwr y Flwyddyn | Stuart Imm | |
Tlws y Cerddor | Euron J. Walters | |
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts | Katherine Allen | |
Medal Aur am Gelfyddyd Gain | Aled Rhys Hughes | |
Medal Aur am Grefft a Dylunio | Carol Gwizdak | |
Gwobr Ifor Davies | André Stitt | |
Gwobr Dewis y Bobl | Sara Moorhouse | |
Medal Aur mewn Pensaernïaeth | Partneriaeth Richard Rogers | |
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg | Eirwen Gwynn |
Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol Archesgob Caergaint Y Parchedicaf Dr Rowan Williams a anerchodd y gynulleidfa yng ngwasanaeth agoriadol yr Eisteddfod fore Sul. Mae Rowan Williams yn hannu o Abertawe.
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Tonnau | "Gwenno" | Gwynfor ab Ifor |
Y Goron | Fflam | "Gwyfyn" | Eigra Lewis Roberts |
Y Fedal Ryddiaith | Atyniad | "Matigari" | Fflur Dafydd |
Gwobr Goffa Daniel Owen | Dygwyl Eneidiau | "Ebolion" | Gwen Pritchard Jones |
Tlws y Cerddor | Dadeni | "Johannes" | Euron J. Walters |
Enillydd y gadair oedd Gwynfor ab Ifor o Sling ger Tregarth a sgwennodd awdl ar y thema 'Tonnau'. Derbyniodd gadair a gwobr ariannol o £750.00. Dyluniwyd y gadair gan Elonwy Riley o Lansawel, Llandeilo ac fe'i gwnaethpwyd gan Tony Graham a Paul Norrington yng Ngholeg Sir Gâr.
Enillydd y goron oedd Eigra Lewis Roberts am ei gwaith 'Y Ffarwel Perffaith' a oedd am fywyd cythryblus Sylvia Plath. Y beirniaid oedd Menna Elfyn, Damian Walford Davies a Gwyneth Lewis. Roedd y goron wedi ei chyflwyno er cof am y cyn-Archdderwydd, Dafydd Rowlands. Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Fflur Dafydd o Gaerfyrddin am ei gwaith Atyniad. Y beirniaid oedd Derec Llwyd Morgan, Jane Aaron a Grahame Davies. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Gwen Pritchard Jones o Bant Glas. Dyma ei nofel gyntaf i oedolion. Enillydd Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn oedd Stuart Imm o Gwmbrân, sydd bellach yn diwtor Cymraeg. Enillydd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg oedd Eirwen Gwynn o Dal-y-bont.
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Abertawe
Ffynonellau
golygu- Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006, ISBN 1-84323-765-2
- Gwefan swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Archifwyd 2016-01-09 yn y Peiriant Wayback
- Tudalen Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006 ar wefan y BBC