Betws-yn-Rhos

pentref ym Mwrdeisdref Sirol Conwy
(Ailgyfeiriad oddi wrth Betws yn Rhos)

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym Conwy, mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Betws-yn-Rhos[1][2] (hefyd Betws yn Rhos). Fe'i lleolir yn ardal Rhos ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Betws-yn-Rhos
Eglwys Mhihangel Sant - St Michael's Church, Betws yn Rhos, Conwy, North Wales, Gogledd Cymru 23.JPG
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.247°N 3.639°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000107 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).
Y pentref tua 1885

DaearyddiaethGolygu

Fe'i lleolir yng nghefn gwlad Rhos tua 5 milltir i'r de o drefi arfordirol Abergele a Bae Colwyn. Rhed y ffordd B5821 trwy'r pentref, gan ei gysylltu â Llanelwy i'r dwyrain a Llansantffraid Glan Conwy i'r gorllewin. Mae gan y gymuned boblogaeth o 1923 (Cyfrifiad 2001).

Gorwedd mewn ardal o fryniau isel rhwng afon Dulas ac afon Elwy.

HynafiaethauGolygu

Dwy filltir i'r gogledd o'r pentref ceir bryngaer hynafol Pen y Corddyn.


Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Betws-yn-Rhos (pob oed) (1,052)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws-yn-Rhos) (473)
  
46.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws-yn-Rhos) (676)
  
64.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Betws-yn-Rhos) (137)
  
31.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Fetws-yn-RhosGolygu

  • Thomas Gwynn Jones. Ganed y llenor ac ysgolhaig yn Y Gwyndy Uchaf ym mhlwyf Betws yn Rhos, ond symudodd y teulu i fyw yn Llaneilian-yn-Rhos lle treuliodd ei lencyndod. Ceir atgofion y bardd am yr ardal ym mhennof gyntaf ei gyfrol hunangofiannol Brithgofion (Llyfrau'r Dryw, 1941).

OrielGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.