Roedd Wendy Wood (enw tystysgrif geni - Gwendoline Emily Meacham, cyfenw priodasol Cuthbert) (29 Hydref 1892 - 30 Mehefin 1981) yn arlunydd, llenor, cerflunydd a darlledwr a oedd yn gefnogwr brwd i achos cenedlaethol yr Alban.[1]

Wendy Wood
Teulu Meacham, Wendy yw'r un yng nghanol yr ail reng o'r cefn
Ganwyd29 Hydref 1892 Edit this on Wikidata
Maidstone Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 1981 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, llenor, darlledwr, cerflunydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Wood yn Maidstone, Swydd Caint yn un o dair o ferched Charles Stephen Meacham, gwyddonydd, a Florence (née Wood) ei wraig. Roedd ei thras Albanaidd ar ochr ei mam. O ochr ei fam hefyd daeth ei chariad at gelfyddyd. Roedd ei mam yn arlunydd bywyd llonydd, ei thaid Samuel Wood yn gerflunydd a'i hen ewyrth Thomas Peploe Wood yn arlunydd tirluniau amlwg.

Ym 1899 cafodd ei thad swydd gan gwmni bragu yn Ne Affrica a bu i'r teulu mudo yno.

Ym 1902 cafodd Wood ei danfon yn ôl i Loegr i fynychu ysgol Hamilton House, Tunbridge Wells. Wedi'r ysgol cafodd gwersi arlunio gan Walter Sickert yn Chelsea cyn mynychu Ysgol Arlunio Westminster lle graddiodd gyda thystysgrif Y Gymdeithas Dylunio Frenhinol ym 1909.

Priodas

golygu

Ym 1913 priododd Wendy â Walter Robertson Cuthbert, cynhyrchydd esgidiau. Aeth y cwpl ar fis mêl i Basutoland (Lesotho, bellach), lle fu Tom, brawd y merthyr cenedlaethol Gwyddelig Syr Robert Casement, yn dywysydd iddynt. Bu iddynt dwy ferch. Doedd ei gwr ddim yn gwerthfawrogi ei gwaith yn y celfyddydau ac roedd yn gwrthwynebu ei ymwneud ag achosion gwleidyddol. Bu i'r ddau ymwahanu ac yna ysgaru[2].

Gyrfa yn y celfyddydau

golygu

Bu tad Wood yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Artistiaid De Affrica a chafodd gwaith ei ferch ei arddangos gyntaf yn y drefedigaeth o dan nawdd y gymdeithas. Ym 1918 aeth i Lundain i geisio gwaith yn y byd actio ond heb fawr o lwyddiant. Symudodd i Dundee yn gynnar yn y 1920au lle fu'n gweithio fel athrawes arlunio bu hefyd yn gweithio fel dylunydd ar gyfer y cylchgrawn gomic Little Dots[3] un o'r nifer o gylchgronau o'r fath oedd yn cael eu cyhoeddi yn y ddinas.

Ym 1923 cafodd swydd gan y BBC (a oedd yn darlledu ar y radio yn unig ar y pryd, cyn dyfod teledu) fel trefnydd merched gan fod yn gyfrifol am gyfraniad yr Alban i raglenni Children's Hour a Woman's Hour. O 1926 bu'n ymddangos ar Children's Hour fel Anti Gwen gan ddarllen storïau plant. Bu ddarllen yn gyhoeddus yn un o'i ddoniau. Yn ogystal â darllen ar y radio bu yn ddarllenydd rheolaidd yn Llyfrgelloedd Caeredin a hyd y 1970 bu yn un o ddarllenwyr rheolaidd ar gyfres darllen stori boblogaidd teledu'r BBC Jackanory.

Yn ogystal â bod yn artist gweledol a chlywedol bu Wood hefyd yn awdures a gyhoeddodd nifer o lyfrau am len gwerin, ffordd o fyw, taith, barddoniaeth a hunangofiannau. Cafodd nifer ei llyfrau hefyd eu dylunio ganddi.

Llyfryddiaeth

golygu
  • 1930: The Secret of Spey. Caeredin: Robert Grant & Son.
  • 1938: I Like Life. Caeredin, Llundain: The Moray Press.
  • 1946: Mac's croft. Llundain: F. Muller, Ltd.
  • 1950: Moidart and Morar. Caeredin: The Moray Press.
  • 1952: Tales of the Western Isles. Llundain: Oliver and Boyd.
  • 1952: From a Highland croft. Caeredin: Oliver & Boyd.
  • 1970: Yours sincerely for Scotland. Llundain: Barker.
  • 1973: Legends of the Borders. Aberdeen: Impulse Books.
  • 1980: Silver Chanter. Llundain: Chatto & Windus.
  • 1985: Astronauts and tinklers. Caeredin: Heritage Society of Scotland.

Cyfraniad i achos cenedlaethol yr Alban

golygu

Cyfraniad cynnar

golygu

Ar ôl ei phriodas bu Wood yn byw, yn bennaf, yn yr Alban gyda'i gwr. Yn gefnogol i achos y swffragetiaid ymunodd a'r Gwirfoddolwyr Benywaidd, mudiad oedd yn rhoi cefnogaeth i achos hunan lywodraeth yn yr Iwerddon a gwledydd eraill oedd am hawlio annibyniaeth, gan eu bod yn credu pe bai merched yn chware ran mewn brwydrau dros ryddid cenedlaethol, byddai'n debygol o arwain ar ryddid i ferched yn y gwledydd rhydd newydd. Ymunodd hefyd a'r Blaid Ryddfrydol gan gefnogi'r rhai o fewn y blaid megis aelodau Cymru Fydd oedd am roi hunain Lywodraeth i'r gwledydd Celtaidd.

Yn ei hunan bywgraffiad, Yours Sincerely for Scotland mae'n dweud ei fod wedi cael profiad trawsnewidiol cenedlaethol wrth ymweld â chofgolofn William Wallace ym 1913[4]. Ym 1927 ymunodd ag Ymgyrch Genedlaethol yr Alban ac ym 1928 a'r Blaid Genedlaethol Albanaidd (NPS), a oedd newydd ei ffurfio.

 
Castell Stirling

Newydd ymwahanu a'i gwr dechreuodd defnyddio enw morwynol ei mam "Wood" ar gyfer ei gwaith creadigol a gwleidyddol. Penderfynodd ceisio codi ymwybyddiaeth genedlaethol trwy gynnal ac annerch cyfarfodydd cyhoeddus parhaus. Bu'n cynnal, ar gyfartaledd, 32 cyfarfod pob blwyddyn; ym 1957 cynhaliodd 73 o'r fath gyfarfodydd.

Ym 1931 sefydlodd Wood mudiad ieuenctid o'r enw Scottish Watch, mudiad ieuenctid a oedd ar un adeg a fwy o aelodau na'r sgowtiaid.

Ym1932, yn rali coffa Bannockburn, arweiniodd Wood grŵp o genedlaetholwyr i mewn i Gastell Stirling i dynnu Jac yr Undeb i lawr a chodi Baner Llew'r Alban yn ei lle[5]. Fe achosodd gweithredu uniongyrchol o'r fath rhwyg rhyngddi a rhai o aelodau'r Blaid Genedlaethol Albanaidd a oedd am gadw at ymgyrchoedd etholiadol a chyfansoddiadol i ennill ymreolaeth. Er hynny bu'n rhan o'r trafodaethau rhwng yr NPS a'r Blaid Albanaidd (The Scottish Party) a arweiniodd at eu huno i ffurfio Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) ym 1934.

Safodd fel ymgeisydd yr SNP ddwywaith i geisio am sedd ar Gyngor Tref Caeredin yn aflwyddiannus.

Gyda sïon yn codi am y posibilrwydd o ryfel newydd yn Ewrop sefydlodd Wood grŵp i wrthwynebu unrhyw orfodaeth filwrol. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd symudodd i fyw ar grofft (tyddyn) yn Gleann Ùige, pentref bach arfordirol yn ardal Lochaber o ucheldiroedd yr Alban lle fu'n byw hyd i'r rhyfel dod i ben.

Ym 1946 safodd fel ymgeisydd yr SNP mewn isetholiad yn etholaeth Glasgow Bridgeton gan ddod yn bedwaredd gyda 14% o'r bleidlais

Anufudd-dod sifil

golygu

Fel ei chydoeswr a chyd lenor Hugh MacDiarmid, roedd hi'n cael hi'n anodd ildio i gyfyngderau disgyblaeth bleidiol. Dechreuodd ymbellhau o'r SNP[6] gan sefydlu mudiad y Scottish Patriots. Corff oedd yn rhoi pwyslais ar agweddau diwylliannol cenedlaetholdeb, rhywbeth roedd hi'n teimlo bod pwyslais yr SNP ar genedlaetholdeb sifil yn ei esgeuluso.

Yn y 1931 cafodd ei harestio a'i chaethiwo dros dro ddwywaith am geisio tarddu ar ralïau gan y mudiad Ffasgaidd Y Crysau Duon yng Nghaeredin[7][8]. Cafodd ei charcharu ar ddau achlysur. Ym mis Ebrill 1951 cafodd hi ei harestio am ddefnyddio iaith sarhaus a rhwystro'r heddlu wrth geisio annog y dorf ar Sgwâr Trafalgar, Llundain ar ddiwrnod gêm pêl-droed rhwng Lloegr a'r Alban. Roedd hi'n cynnal protest yn galw am i Faen Sgàin cael aros yn yr Alban yn hytrach na chael ei ddanfon yn ôl i Abaty Westminster ar ôl i griw o fyfyrwyr ei ryddhau'r flwyddyn cynt. Cafodd dirwyon a chostau o £9 a 4 swllt  ond gan iddi wrthod talu cafodd ei charcharu am bythefnos [9]. Ym mis Hydref 1951 cafodd pythefnos arall dan glo am wrthod talu dirwyon cafodd am beidio â thalu Yswiriant Cenedlaethol fel rhan o ymgyrch o beidio cydweithredu a'r sefydliad Prydeinig.

Cyfraniad diweddarach

golygu

Bu Wood yn ymgyrchu mewn nifer o ymgyrchoedd rhyngwladol, ar gyfer achos cenedlaethol Iwerddon; i gofio gwersylloedd crynhoi Prydain yn ystod Ail Ryfel y Böer, a laddodd filoedd; i gefnogi mudiad annibyniaeth India ac i gefnogi Gwlad yr Iâ yn ystod y Rhyfel Penfras (anghydfod yn y 1970au rhwng Gwlad yr Iâ a Phrydain am hawliau pysgota).

Ym 1961 bu Wood yn annerch Cynulliad Cyffredinol Eglwys yr Alban, yn dilyn ei hanerchiad mabwysiadodd yr eglwys polisi o gefnogi hunan lywodraeth.

Ym mis Rhagfyr 1972, aeth Wood ar streic newyn i brotestio diffyg llywodraeth San Steffan i gadw addewidion parthed hunain reolaeth. Gwnaeth Jim Sillars (AS Llafur ar y pryd) defnyddio'r teledu i erfyn arni'n bersonol i orffen y streic. Daeth y streic i ben wedi i'r ysgrifennydd gwladol, Gordon Campbell addewid y byddai papur gwyrdd ar ddatganoli yn cael ei gyhoeddi 'wedi i'r Comisiwn Brenhinol adrodd'.

Marwolaeth

golygu

Bu farw ym 1981 yn y Western General Hospital, Caeredin yn 88 mlwydd oed. Mae yna blac coffa iddi ar wal ogleddol mynwent Old Calton, Caeredin[10].

Cyfeiriadau

golygu
  1. Murray G. H. Meacham; married name Cuthbert; Gwendoline Emily pseud: Wendy Wood" Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 2 Ebrill 2018
  2. Biographical Dictionary of ScottishWomen; gol Elizabeth L. Ewan, Sue Innes, Sian Reynolds, Rose Pipes Edinburgh University Press, 2007 tudalen 380 "Wendy Woods
  3. Wendy Wood 1892-1981 Scottish Nationalist adalwyd 2 Ebrill 2018
  4. "Scots women of History.2 -Wendy Wood". Designing Woman. Cyrchwyd 03 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  5. "A Stirling Incident. Union Jack hauled down. Scottish standard hoisted in castle. Exploit by nationalist demonstrators". The Glasgow Herald. 27 Mehefin 1932. t. 11. Cyrchwyd 03 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. 'Glasgow Herald SNP Snub for Wendy Wood adalwyd 03/04/2018
  7. Dundee Courier, 03 Mai 1937 Wendy Wood Arrested
  8. Dundee Courier, 21 Mehefin 1937 Wendy Wood Arrested Again
  9. Falkirk Herald 18 Ebrill 1951 WENDY WOOD ARRESTED
  10. Women of Scotland Memorials – Wendy Wood Archifwyd 2021-09-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 03/04/2018