Wicipedia:Tudalennau amheus/Archif2

Tŷ Newydd (Sarn Mellteyrn) - Hunan gyhoeddusrwydd? golygu

Mae'r un defnyddiwr anhysbys wedi creu erthyglau am label Sbrigyn Ymborth. Digwydd bod, yr un person sy'n gyfrifol am y dafarn a'r label! Dw i'n meddwl ei fod yn ddigon teg cadw erthygl y label, ond dw i ddim yn meddwl bod gan y dafarn ddigon o amlygrwydd. Mae gwefannau tebyg i Curiad yn rhestru lleoliadau presenol cerddoriaeth Cymraeg.--Ben Bore 09:12, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Does dim gen i farn cryf amdani, er bod rhai ohonym ni wedi gweithio arni tipyn bach. Alan 10:54, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Roeddwn i'n amau'n gryf mai tipyn o hunangyhoeddusrwydd oedd hyn yn y bôn. Dwi wedi colli cysylltiad efo'r sîn roc byw erbyn hyn, felly dwi ddim yn gwybod os oes gan y lle ddigon o hanes fel llwyfan gerddorol, fel y mae gan rai llefydd sy'n ddigon di-nod fel arall, neu ddim. Dyna'r unig reswm dros gadw'r erthygl. H.y. oes 'na ddigon i ddweud yma ar wahân i'r ffaith fod bandiau yn chwarae yno? Os nad oes, ffarwel iddi! Anatiomaros 17:32, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Mae gigs yn cael eu cynnal yno'n gymharol rheolaidd (un neu ddau y mis efallai) ers y 2-3 blynedd diwethaf wedi i berson newydd ddod yn reolwr/tenant y lle, ond mae'r un peth yn wir am dafarnadai ar hyd a lled y wlad. Dw i'n cynnig eu dileu. --Ben Bore 08:06, 6 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Dwi wedi symud y cynnwys (dwy linell!) i'r erthygl am y pentre, a cheisio cael gwared â'r elfen o gyhoeddusrwydd, ac rwan dwi am ailgyfeirio'r hen erthygl i Sarn Mellteyrn (gwell na'i dileu, mae'n debyg). Anatiomaros 16:41, 6 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Cyfaddawd teg.--Ben Bore 08:00, 7 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Canlyniad: ail-gyfeiriwyd

Mae ganddi hi botensial i ddod yn erthygl dda, ond yn ei ffurf bresennol mae'r erthygl yn ofnadwy. Rwy'n gobeithio bydd hyn yn annog rhwyun i'w gwella, ond os na fydd, basai'n well ei dileu. Alan 07:33, 1 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Gwell ei diwygio na'i dileu, mae'n debyg. Mae'n chwerthinllyd o annigonol fel y mae hi rwan, wrth gwrs. Anatiomaros 16:57, 2 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Wrth gwrs mae'n well diwygio na dileu, ond hyn yw'r broblem: mae'n hawdd i bobl greu tudalen newydd hollol ofnadwy ond am rai bwnc sy'n haeddu erthygl (e.e. hon neu hon). Wedyn gorfodir i ddefnyddiwr eraill dreulio amser i ddiwygio'r erthyglo honno, jyst er mwyn i gael gwared o'r rwts, yn hytrach na dewis yn rydd i ysgrifennu am bynciau eraill sy'n fwy ddiddorol iddyn nhw fel gwirfoddolwyr. Dwi'n gwybod bod nifer o'n herthyglau ni wedi dechrau fel fandaliaeth, ond os wyt ti'n teimlo dyled i newid rwts i erthygl go iawn bob tro, mae hon yn golygu mai'r fandaliaid penderfynai pa erthyglau sy'n cael eu creu, yn hytrach na'r defnyddwyr fel ti sy'n eu hysgrifennu. Dwi'm yn meddwl bod hynny'n dderbyniol, a dyma pam gadawais i y neges hon. Yn fy marn i, os mae erthygl mor ddrwg fel yw hi'n chwerthinllyd, a nid oes pobl sydd â diddordeb i'w diwygio cyn hir, ddylwn ni ddim boeni ei dileu, hyd yn oed os mae'r pwnc eu hunan yn haeddu erthygl. Wel, dim ond fy nwy geiniog. Alan 21:01, 2 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Er mod innau hefyd ddim am weld erthyglau am bwnc defnyddiol yn cael eu dileu, dw i hefyd yn cytuno ag Alan ei fod yn ffordd gwbl ddigwilydd o gaele erthyglau newydd. Ond yn hytrach na chael rhyw bolisi am y peth, beth am ei adae at discretion yr Gweinyddwyr - os ydyan ni am fynd i'r drafferth o'i addasu iawn, os ddim dylem ei ddileu os dymunwn? Fel arall rydym mewn sefyllfa ble mae rhwyun arall yn penderfynnu am beth rydym ni'n creu erthyglau amdanaynt.--Ben Bore 09:12, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n meddwl basai nodyn fel y canlynol yn ddefnyddiol. Wna i ei ysgrifennu yn Saesneg yma dros gyflymder, ond dylai'r testun bod yn Gymraeg wrth gwrs.
Warning: Although this page contains some useful content, it is below the very minimum standard for an article. If the article is not improved within one week of placing this notice, it may be deleted. Feel free to remove this notice, but only after significantly improving the article.

Administrators: before deleting, please check the history, and copy to the talk page any content which may assist with creating a future article.


When not to use this template:

  • Pages with clearly no useful content whatsoever — please just delete the page (admins), or request deletion by blanking the page (non-admins).
  • More complex situations requiring discussion — please see Wicipedia:Tudalennau amheus instead.
Be' chi'n meddwl? Alan 11:38, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n meddwl bod y nodyn yn syniad da, Alan. Dwi'n cytuno wrth gwrs fod y bobl 'ma sy'n creu "eginau" (os haeddent yr enw!) pitw, gan amlaf mewn iaith garbwl, yn b***i niwsans, a deud y lleia, ond dwi ddim yn meddwl fod angen polisi (mae 'na gyn lleied ohonom ni, yn un peth). Gwell ei adael i'r cyfranwyr a'r gweinyddwyr benderfynu, gyda'r nodyn (a chategori efallai i fynd efo fo) i dynnu sylw at y dudalen. Anatiomaros 17:12, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
All rhywun gyfieithi'r nodyn os gwelwch yn dda? Alla i ei wneud fy hunan, ond baswn i'n gosod nifer o gamgymeiriadau ynddi hi, siwr o fod (yn arbennig ar ôl gwydred o win heno). Beth am Nodyn:gwella neu ddileu fel teitl? Alan 21:52, 6 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Yr unig beth nodedig wela i am y person yma yw mai fo ydy'r ieuengaf i'w urddo i'r orsedd. Edrych fel tudalen hunan gyhoeddusrwydd.--Ben Bore 09:14, 12 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Dwi wedi meddwl hynny o'r cychwyn cyntaf. Wnes i ddiwygio rhywfaint ar y testun - ar frys - i gael gwared o'r elfennau amlycaf o hunan-gyhoeddusrwydd, ond os cofiaf yn iawn roedd rhywun yn mynegi'r farn ei fod yn haeddu erthygl ac roeddwn i wedi anghofio amdani ar ôl hynny tan rwan. Cytunaf gyda Ben. Anatiomaros 23:12, 12 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Beth am roi ychydig o ddyddiau (wythnos) i hwn, rhag ofn bod rhywun eisiau esbonio amlygrwydd y person?--Ben Bore 08:52, 13 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Canlyniad: dileu

Mae'r pynciau'n bwysig, ond mae'r erthyglau'n fyr iawn ac mae problemau ieithyddol efo'r teitlau.

Gallen ni gywiro'r teitlau yn syml, ond dwi'n awgrymu:

Yn y dyfodol, gall bod erthyglau gwahanol Rhwydwaith ardal leol a Rhwydwaith ardal eang, os mae pobl am ysgrifennu mwy nag egin bychain amdanynt.

Ydych chi'n cytuno? Alan 11:47, 14 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Cytuno ei fod yn bwnc pwysig a dylid bod ag erthyglau amdanynt. Yn bendant mae angen cael gwared a RAL a RAE, ond dw i ddim yn 100% pa mor addas yw'r acronym RhAL a RhAE.--Ben Bore 13:16, 14 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mae'n ymddangos bod Thaf wedi troi'r erthyglau yn egin derbynniol -- diolch yn fawr iddi hi. Dydyn nhw ddim yn "amheus" rwan felly. Des i o hyd i ddwy ddogfen sy'n cynnwys "RhAL" a "RhAE" ([1] a [2], trwy [3]) ond dydy hynny ddim yn profi unrhyw beth. Alan 13:39, 14 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mae Thaf yn symud yn sydyn weithiau! Ond, Alan: sut wyddost mai merch ydyw Thaf? ('diolch yn fawr iddi') medde ti. :) Llywelyn2000 08:20, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Canlyniad: crewyd egin newydd, ac ail-gyfeiriwyd y talfyriadau atynt

"Cyfieithiad" annealladwy gan ryw beiriant cyfieithu neu'i gilydd. Amhosibl cywirio heb weld y testun gwreiddiol. Y peth gorau i'w wneud efo hyn yw ei dileu (ar unwaith!). Anatiomaros 15:36, 10 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Efallai petai'r person wedi trafferthu rhoi rhyngwici arno, gallwn fod wedi mynd i'r draffertho weld oes werth ei 'dacluso'. I'r bin a fo.--Ben Bore 09:00, 11 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
It has been translated, and broadcast on S4C under it's original title of Code Lyoko (original French version here). Definately needs clean-up from the machine translation (translated from here). Paul-L 13:24, 11 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Although I've never seen either the Ffrangeg, Saesneg or Cymraeg versions, I've cleaned up the article, and added an infobox. Most of what had been computer translated was unneccesary for our article. Paul-L 23:33, 17 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Canlyniad: Glanhawyd

Hyd yn oed os oes 'na le o'r enw dydi hyn ddim yn haeddu erthygl. Anatiomaros 19:44, 29 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Cytuno a thi. Llywelyn2000 22:36, 29 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am yr ymateb, Llywelyn. Mater o ffurfioldeb yn unig oedd rhoi hyn yma, mae'n debyg, felly dwi am ei dileu. Anatiomaros 16:39, 31 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Canlyniad: dilewyd

Hawlfraint amheus. Cymharwch â http://www.earthcare.com.au/images/betel_leaves.jpg Alan 09:29, 14 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

P.S. Dyma lun o ddail dan y drwydded GFDL os wyt ti am geisio eto, Rhys. Mi ddes i o hyd iddo fe trwy chwilio ar y wici Saesneg yn hytrach na Google Images... Alan 09:35, 14 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Canlyniad: deleted, and replacement image created. Diolch i Rhys.

Does dim byd "amheus" am y pwnc ei hun, wrth gwrs, ond mae'n amlwg fod y cyfrannwr IP wedi copïo'r cyfan o'r testun am Shelter Cymru, sef 80% o'r erthygl, o wefan y mudiad hwnnw. Anatiomaros 20:58, 19 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Pe taent yn rhoi sêl eu bendith, gawn ni wedyn ei gynnwys? Os na, yna mi wna i ei ail sgwennu yn fy ngeiriau fy hun os wyt ti'n cytuno.Llywelyn2000 23:46, 19 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Fel arfer pan fo rhywun yn cyfrannu ar ran rhyw sefydliad neu'i gilydd - sy'n digwydd weithiau - maent yn creu cyfrif yma yn gyntaf. Cafodd hyn ei chreu gan cyfranwr IP felly does dim modd cysylltu trwy ebost, er y basai'n bosibl sgwennu a gofyn Shelter Cymru, mae'n debyg. Mae angen ei ail-sgwennu yn drwyadl beth bynnag a dyna ydy'r peth hawsaf, mae'n debyg. Sgen i ddim amser heno, ond mae croeso i ti wneud rywbryd, os oes gen ti'r amser... Anatiomaros 23:55, 19 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
O'i ddarllen yn gyflym, tydi'r erthygl yn dweud dim am ddigartrefedd yng Nghymru, dim ond sôn am beth mae Shelter Cymru a CASH yn wneud. Mae digartrefedd (cyffredinol ac yng Nghymru) yn bwnc pwysic ac yn haedduar erthygl ond byddia'n rhaid dechrau o sctratch. Dw i'n gweld dim o'r le ar gael erthygl am Shelter/Shelter Cymru chwaith. Croeso i unrhywun yma ei addasu/splitio - fel arall, byddwm i'n awgrymmu ei ddileu ymhen wythnos.--Ben Bore 10:00, 20 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi gwneud awgrymiad ynglŷn â hyn ac ag erthyglau tebyg - gwelwch Sgwrs Wicipedia:Gwireddu hawlfraint. Diolch. Alan 21:21, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Diolch Alan, mi adawaf sylw yn y man ar y dudalen sgwrs - mae'n edrych yn ddigon cynhwyfawr a chlir, mond ambell newid ar yr iaith i dermau anghyffredin. O ran yr erthygl dan sylw yma, mae Digartrefedd yng Nghymru nawr yn cyfeirio at dudalen newydd o'r enw Digartrefedd sy'n gyfeithiad chwithig braidd o'r Saesnesg, hefyd dw i wedi creu erthygl newydd o'r enw Shelter Cymru, sydd eto'n gyfeithiad o'r wici Saesneg, yn hytrach na bod yn air-am-air o wefan yr elusen dan sylw.--Ben Bore 22:26, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Diolch am yr erthygl newydd. Dwi wedi dileu'r fersiynau cynt. Alan 13:16, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Canlyniad: crewyd erthygl newydd, a dilewyd y fersiynau sy'n torri hawlfraint

Mae un o weinyddwyr y wicipedia Iseldireg wedi codi amheuon am hyn fel hunan-gyhoeddusrwydd. Gweler Sgwrs yr erthygl. Anatiomaros 16:39, 31 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Ymddengys mai "cadw" yw'r farn ar y mwyafrif o'r wicipediau eraill (gw. Sgwrs yr erthygl am sylwadau ychwanegol). Dwi'n gweld dim niwed mewn cadw hyn felly dwi am dynnu o oddi ar y rhestr heddiw, oni bai fod rhywun yn anghytuno. Anatiomaros 17:21, 5 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Mae 'na beth lot gwaeth yma!--Ben Bore 21:47, 5 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Mae hynny'n wir, Ben! Dwi wedi tynnu'r erthygl o'r rhestr. Anatiomaros 00:05, 6 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Dydy hyn ddim am fynd i ffwrdd. Mae un o'r cyfranwyr ar y dudalen Sgwrs yn "bwped" sydd wedi cael ei flocio ac mae'r erthyglau ar tua deg o wicis eraill wedi cael eu dileu (gw. Sgwrs a Hanes y dudalen) fel "sbam hyrwyddo traws-wici". Anatiomaros 21:11, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Ydym ni'n barod i benderfynu i gadw'r erthygl hon, neu ydy'r mater am "bwped" yn newid unrhywbeth? Alan 13:30, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Tynnwyd y nodyn Amheus. Anatiomaros 16:48, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Braidd dim cynnwys, mond rhest o enwau'r creadur mewn ieithoedd eraill.--Ben Bore 12:23, 20 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Yr erthygl yn eginyn derbyniol rwan ac wedi'i thynnu o'r rhestr. Anatiomaros 20:28, 19 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Cadwyd yr erthygl. Anatiomaros 16:53, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Mae hon yn ymddangos yn ddilys. Beth ydy barn y gweddill ohonoch? Llywelyn2000 08:30, 12 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Mae wedi bodoli ar y Wiki Saesneg ers amser maith (os ydy hynny'n unrhyw ffon mesur!) a does dim gwrthwynebiad i'w weld yno - na dim byd yn y dudalen sgwrs, sy'n beth rhyfedd. Felly cytunaf ei bod yn ymddangos yn ddilys.--Ben Bore 08:59, 12 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno fod y pwnc ei hun yn ddilys, mae'n ymddangos, ond wn i ddim am y testun sydd gennym ni, sy'n smonach. Be ydy ystyr hyn, er enghraifft: "Mae hi'n iaith unigyn, hynny yw, does dim perthynas hanesyddol wedi'i phrofi rhyngddi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol â ieithoedd megis y Basgeg a’r Cawcasws wedi cael eu hawgrymu"? Gan ei bod yn iaith artiffisial a luniwyd megis ddoe, sut allai "perthynas hanesyddol" fodoli o gwbl?! Rhyfeddol yw'r honiad " er bod rhai cysylltiadau dadleuol â ieithoedd megis y Basgeg a’r Cawcasws wedi cael eu hawgrymu" hefyd. Dwi ddim yn deall llawer o Fasgeg ond fedra'i ddim gweld unrhyw berthynas rhwng yr enghraifft o "Arahaw" - Gweddi'r Arglwydd - a'r iaith honno: ar ben hynny mae'n debyg mai'r ateb yw gofyn i'r boi a ddyfeisiodd yr iaith gwbl anymarferol hon (sy'n dipyn o stynt, yn fy marn i). Anatiomaros 17:26, 12 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Oes mae cwestiynau dilys ynghlyn a'r hi, ond os ydy hi'n bodoli yna mae'n haeddu ei lle ar Wici, onid yw? Mater arall, gwahanol ydy tacluso'r cynnwys. Ond tydw i ddim yn teimlo'n gryf y naill ffordd neu'r llall! Llywelyn2000 23:09, 12 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Cadwyd yr erthygl ar ôl ei diwygio'n drwyadl. Anatiomaros 16:50, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

'Offeryn mesur' (gauge) yw meidrydd, yn ôl y geiriadur. Dyna'r cwbl dwi'n gwybod. Yn sicr does dim pwynt mewn cadw hyn fel y mae! Dwi ddim yn teimlo fel sgwennu amdano fy hun rwan hyn a dydi'r "erthygl" (cwestiwn gan rywun yn unig!) ddim yn werth ei chadw fel hyn, yn amlwg. Anatiomaros 22:10, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Ti bia'r siswrn finiocaf, Anatiomaros! - torrer ef ymaith! I fod yn ddifrifol, perthyn i eiriadur Wici mae hwn, yn te, os oes 'na un Cymraeg. Llywelyn2000 00:16, 31 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Mae 'na erthygl 'Gauge (engineering)' ("any of a variety of measuring instruments") ar en: a phethau tebyg, ond dwi ddim yn bwriadu sgwennu amdanynt am fod gen i bethau rheitiach o lawer i wneud - a go brin bydd llawer o bobl yn chwilio amdano ar y wici! I'r bin â hi felly, gan fod neb arall wedi ymateb... :-) Anatiomaros 00:26, 31 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Testun Saesneg o'r wici Saesneg wedi cael ei dympio yma - yn cynnwys y categoriau Saesneg hyd yn oed! - gan ddisgwyl i NI ei gyfieithu. Dwi'n dechrau colli amynedd efo pobl sy'n gwneud hynny. Dydy o ddim llai na fandaliaeth mewn ffordd. Hyd yn oed os ydy'r boi 'ma yn haeddu erthygl - ac mae 'na fwy nag awgrym o hunangyhoeddusrwydd ar yr erthygl Saesneg - pam ddylem ni dderbyn hyn? Bu bron iawn i mi ddileu hyn ar unwaith. Dwi'n meddwl ein bod yn gwahodd testunau tebyg yn y dyfodol trwy ei gyfieithu a'i gadw ac am y rheswm hynny dwi'n awgrymu "binio" hyn. Anatiomaros 21:51, 12 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Petai'r holl erthygl yn Saesneg, baswn i'n cytuno. Ond achos bod yr awdur wedi dechrau i'w gyfieithu ac wedi ysgrifennu "Dan adailadu", dwi'n barod i gredu bod ganddo fwriad i orffen y cyfieithad ei hun os rhown ni dipyn o amser iddo. Serch hynny, dwi'n cytuno am yr hunangyhoeddusrwydd... Alan 22:16, 12 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Wel, rwyt ti'n rhy garedig braidd, Alan. Cafodd ei greu oriau yn ôl a dydy o/hi ddim wedi bod yn ôl eto. Mae o/hi wedi cyfieithu tua hanner dwsin o eiriau i ryw lun ar Gymraeg ond beth am y gweddill? Be fydda'r ymateb ar y wici Saesneg pe bai rhywun anhysbys yn gwneud yr un peth efo testun Cymraeg neu beth bynnag a'i adael o gyda neges "under konstruktion"? 'Mond gofyn dwi, fel ti'n gwybod erbyn hyn.... :-) Anatiomaros 23:19, 12 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Er tegwch y tro yma, roedd cryn dipyn wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg yn y ferwn cyntaf gan y defnyddiwr anhysbys. O ran hunan gyhoeddusrwydd, does dim ffordd o brofi'r naill fordd (er mai dyna faswn i'n dueddol o amau hefyd). Ond wedi dweud hynny, ar ôl Gwglo ychydig, dw i'n meddlw ei fod yn deilwng o erthygl.--Ben Bore 12:29, 13 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi cyfieithu rhyw ychydig; gwelaf fod Thaf, hefyd, wrthi'n ei lanhau a'i dacluso; felly tynnwyd y tag "amheus". (Llywelyn2000

Digon teg, efallai roeddwn i'n ddiamynedd braidd neithiwr, ond dwi'n dal i feddwl fod hyn yn ffordd dda o gael erthygl reit swmpus gyda'r lleiaf o drafferth gan adael y rhan fwyaf o'r gwaith i ni (a ninnau gyda digon i'w wneud yn barod, mae'n siwr). A beth bynnag, dydi rhoi testun Saesneg mewn erthygl a'i adael yno ddim yn dderbyniol. Anatiomaros 15:16, 13 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno'n llwyr. Gant y cant. Llywelyn2000 15:32, 13 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
A beth bynnag, dydi rhoi testun Saesneg mewn erthygl a'i adael yno ddim yn dderbyniol.
Ti'n iawn, a fel ti'n dweud byddai ddim yn para'n hir iawn ar y Wiki Saeseng (nid bod rhaid dilyn nhw). Os ti'n teimlo'n gryf am y peth - a dw i'n teimlo yr un fath a ti - os yw'n digwydd eto, beth am gopio cynnwys y dudalen, ei allwng ar dudalen sgwrs y defnyddiwr (anhysbys fel arfer) gyda nodyn byr, a dileu'r erthygl. Efallai gellir cynnig eu bod yn parhau a'r cyfieithu yn y fan honno ac yna creu erthygl wedi iddynt orffen. Os digwydd i olygwyr eraill mwy goddefgar/gwirion (jôc!) fel Thaf a Llywelyn weld erthygl o'r fath o dy flaen a'i dacluso, does dim problem, eu dewis nhw ydy o. Fyddai unrhyw un yn gwrthwynebu i fi gymryd y camau uchod?--Ben Bore 15:36, 13 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Dim o gwbl. Mae hynny'n gyfaddawd teg sy'n gwneud lot o synnwyr. Yr unig broblem yn achos cyfeiriadau IP ydy'r ffaith fod llawer o ni'n cael un dros dro am y sesiwn rhyngwici rhyngrwyd yna yn unig, felly mae 'na siawns na fydd y cyfranwr yn gweld y testun. Ond ta waeth am hynny. Mae'n fater o ddewis, wrth gwrs. Yn bendant does dim esgus dros adael testun Saesneg yma. Dewis arall: os ydy hanner y testun wedi'i gyfieithu'n weddol safonol gellid cuddio gweddill y testun dros dro. Cyn belled ag mae'r erthygl yma yn y cwestiwn, dwi'n amau'n gryf mai'r artist ei hun neu un o'i ffrindiau greodd hi. Diolch am yr ymateb. Anatiomaros 16:24, 13 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Cadwyd yr erthygl. Anatiomaros 16:52, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Nodwyd gan Rhodri (gw. Sgwrs:Plwmp (cwmni).

Copïo fy ymateb i fan 'ma:

Does gennym ni ddim rheolau pendant ond mae cnewyllyn y ddadl i'w gael ar Wicipedia:Amlygrwydd (mae angen gwaith arno!). Fel rwyt ti'n deud, maint y cwmni a'i ddylanwad ayyb sy'n bwysig. Mae pawb wedi clywed am McDonalds a Coke ac felly maen nhw'n haeddu erthygl am eu bod o ddiddordeb cyffredinol ac yn chwarae rhan bwysig ym mywyd pobl. Dwi ddim yn siwr fod hynny'n wir am y cwmni 'Plwmp'. Ar ben hynny does dim byd o gwbl yn yr "erthygl" fel y mae i awgrymu pam ei fod yn haeddu sylw; gall cwmni bychan arbenigol haeddu lle am iddynt wneud cyfraniad arbennig mewn maes arbennig neu am eu bod yn y newyddion ac ati, ond dwi'n methu gweld fod hyn yn wir yma. Os ydyw cwmni neu fand ac ati yn methu'r 'prawf amlygrwydd' dydyn nhw ddim yn haeddu erthygl: fel arall byddai Wicipedia fel YellowPages ac yn troi'n ffordd i gael hysbyseb am ddim. Anatiomaros 20:26, 19 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Mae Ben Bore yn cynnig ei dileu (gw. Sgwrs:Plwmp (cwmni)) a dyna fy nheimlad i hefyd. Dwi'n bwriadu gwneud hynny erbyn yr amser yma fory os nad oes wrthwynebiad. Anatiomaros 21:21, 20 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno. Maen nhw wedi cael cyfle bellach i ehangu ar yr erthygl ac esbonio'u hamlygrwydd fel cwmni felly bant a fe!! Rhodri77 17:47, 21 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dileuwyd. Anatiomaros 21:02, 21 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Erthygl llawn rwtsh Babelfish (cyfieithu ar-lein). Dim byd amleusus, ac mae'n siwr bod o'n babpur reit pwysig, ond gyda chymiant o bethau Cymraeg a Chymrieg angen eu creu/cyfieithu, dw i didm yn mynd i drafferthu gyda fo. RHoi wythnos iddo fo (ers iddo gael ei greu) ac yna ei ddileu?--Ben Bore 10:24, 30 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Mae'r erthygl wedi cael ei chyfieithu o'r newydd ac felly dwi wedi tynnu'r nodyn. Ond dwi'n cytuno gant y cant gyda Ben Bore, fel dwi wedi nodi ar dudalen Sgwrs yr erthygl hefyd. Mae hyn yn digwydd yn rhy aml ac mae'n gwbl ddigywilydd, yn enwedig gan mai erthyglau am bethau neu bobl o ddiddordeb ymylol ydyn nhw fel rheol. Dyna pam wnes i roi'r nodyn amheus (bu bron iawn i mi ei dileu yn y lle cyntaf...) gan feddwl "pam ddiawl dyla i wastraffu fy amser efo hyn rwan?" Anatiomaros 16:11, 30 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Go dda hogia! Llywelyn2000 23:20, 30 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Mae'r erthygl wedi'i diwygio ac mae'n dderbynnol rwan ac felly ceiff aros, ond dwi'n dal i feddwl fod dympio erthyglau wedi'u camgyfieithu fel hyn yn goblyn o nec. Beth am gael polisi ar hyn? Anatiomaros 17:31, 23 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Edrychwch ar Defnyddiwr:Alan012/Peiriannau cyfieithu‎ dwi newydd ei chreu - ac, os ydych yn cytuno, ceir ei chopio (neu symud) i Wicipedia:Peiriannau cyfieithu (neu deitl tebyg), ac yn creu dolen ati oddi ar MediaWici:Newarticletext, (â thestun y dolen yn Saesneg o leiaf). Gyda llaw, rhaid gwirio fy nghyfieithiadau ar y 'dudalen honno, yn enwedig yr Almaeneg... Alan 20:58, 23 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i ti, Alan. Byddai hynny'n gaffaeliad. Darllennaf hi yn fwy manwl yn nes ymlaen - dwi ar ganol beth neu ddau rwan! Anatiomaros 21:09, 23 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Anodd gwneud synnwyr o hyn (ai dyma'r term Cymraeg, er enghraifft?). Hanner dwsin o eiriau. Cwbl ddiwerth fel y mae. Cynnig ei dileu oni bai fod rhywun yn teimlo ei fod yn ddigon pwysig i gyfiawnhau treulio amser yn ei ehangu. Anatiomaros 22:55, 8 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Mae'n siwr fod o'n erthygl sydd ei angen, ond mae'n gwbl diwerth fel y mae a does gyda fi ddim mynedd ei wella. Gdael o am wuthns rhag ofn i rhywun arall ei wella (neu gwell fyth y sawl a'i greeodd). --Ben Bore 07:37, 9 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Dileu

Cyfieithiad Google Translate dw i'n meddwl. Dw i'n meddwl dylid dileu o ran egwyddor! --Ben Bore 07:37, 9 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Mae Rhodri wedi'i gwella erbyn hyn. Alan 09:00, 23 Medi 2009 (UTC)[ateb]
O dudalen sgwrs yr erthygl ar y Wici Saesneg:
PerV has discovered (documented in Danish Wikipedia) that all articles on this poet on all wikis (except for en-wiki and simple-wiki) has been created from ip 123.243.62.14, who also by the way has been used for editing on the user page for the Swedish user Wadih Saadeh. The ip-user and the user of the same name have not been contributing to any other articles in any of the wikis on which the Wadih Saadeh-article exist. I will suggest the article for deletion. --Amjaabc (talk) 22:05, 14 October 2009 (UTC)
Dw i am ei ddileu os nad oes gwrthwynebiad. --Ben Bore 08:39, 21 Hydref 2009 (UTC)[ateb]
Dim gwrthwynebiad, Ben. Yr un testun yn union sydd ar bob wici arall ar y rhestr hefyd, dwi'n meddwl. Nodais fy amheuon ar dudalen sgwrs yr erthygl dros fis yn ôl; fydd o fawr o golled os ydy hyn yn mynd. Anatiomaros 17:26, 21 Hydref 2009 (UTC)[ateb]
ON Gellid blocio'r cyfeiriad IP mae'n defnyddio bob tro hefyd, sef 123.243.62.14. Anatiomaros 17:30, 21 Hydref 2009 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Dileu

Symud i'r Wiciadur? Ond mae'n ddiwerth fel y mae. Gair llafar: un 'p', clipen (De) / clipan (Gog.) y dylai fod, nid clippen (bnth. S. clip). Anatiomaros 18:25, 25 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Dwi wedi dileu'r "erthygl"; dim gwybodaeth o werth symud i'r Wiciadur, mewn gwirionedd. Anatiomaros 16:34, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Most of article was copyvio; non-notable PPC. Paul-L 15:06, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Definitely copied from the website. If Defnyddiwr:Bonheddwr can prove he has permission, which seems likely, it would still need editing for NPOV. As for notability, that depends. If the candidate is likely to win in the ?May elections that may be an argument for keeping the article. For a PPC to be notable I'd say they would have to be so for some other reason than being chosen to stand in an election - already well-known in politics or because of their career etc - and I'm not sure that's the case here. Anatiomaros 16:29, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
(Dwi'n gweld fod y POV wedi cael ei ddileu yn barod gan Ben Bore a Thaf.) Anatiomaros 16:31, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Redirected for duration of general election campaign; then transfered as a subpage of Bonheddwr's user page when not elected, and for future use if elected to a position of notability. The full discussion can be found here.

Canlyniad

Ailgyfeirio

Cyfieithiad Google a hysbys (mae'r sawl o bostiodd yr erthyl yn Swyddog Marchnata i'r cwmni!). Ei honiad ar y wici Saseneg yw bod yn haeddu erthuygl gan mai dyma'r cmwni cyntaf i werthu dodrefn tros y we. Dileu yn fy marn i.--Ben Bore 15:17, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno. Hysbysiad ydy hwn. Anatiomaros 16:24, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Yn anhygoel braidd, mae'r erthygl yno o hyd ar yr Anglopedia. Ond hysbysiad digywilydd ydy o ac yn waeth na hynny mae'r erthygl ar ein Wici ni yn gyfieithiad peiriant ac mae'r safon yn warthus. Dyma Ben a minnau o blaid ei dileu a neb yn erbyn - dwi'n cynnig ei dileu. Gwnaf hynny heno os na cheir wrthwynebiad. Anatiomaros 17:06, 14 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Dileu

Rhag ofn iddi ddiflannu i grombil y wici dwi wedi rhoi'r nodyn "tudalen amheus" ar yr erthygl hon. Dau bwynt am yr eglwys ei hun: 1. Beth yn union ydy hi, a ble mae hi? 2. Ydy hi'n haeddu erthygl? (gw. y dudalen Sgwrs hefyd). Anatiomaros 21:51, 12 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Dwi wedi darganfod yr ateb i'r cwestiwn cyntaf, ond heb farn cryf am yr ail gwestiwn. Amser penderfynu? Alan 13:21, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Mae'r erthygl ar 'en' yn bur sylweddol erbyn hyn. Ychwanegais lun a chymenu'r eginyn. Cadwer hi felly. Anatiomaros 19:20, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Cadw

Does dim canllaw ar gyfer bandiau wedi eu cytuno arnynt eto, (er cynigodd Llofiwr rhai sbel yn ôl), ond tydi ennill cystadleuaet brwydr y bandiau ddim cweit digon dw i ddim yn meddwl i fod mewn gwydoniadur!--Ben Bore 15:08, 31 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Ond eto, does dim byd amheus am yr erthygl. Di-nod yn dy feddwl di; ond pwy yden ni i sensro pethau 'dibwys' (sy'n ddibwys i ni, ond nid i eraill, efallai). Dwi newydd sgwennu erthygl ar y perinewm - dyna iti wrthrych llawer mwy dibwys a di-nod (am wn i!). Ac ar ddiwedd y dydd, onid oes lle i bopeth ar Wici? Pob person, pob criw, pob lle, pob ardal, pob gwrthrych, popeth? Lle mae cyfyngiadau gwyddoniaduron confensiynol yn methu (maint y papur a'r gyfrol, golyddydd / sensor unochrog, y noddwr / y sefydliad ayb.) mae Wici'n llwyddo: ehangder di-ben-draw, dim sensor unllygeidiog, gwrthrychedd ayb. Gwnewch y pethau bychain...
Llywelyn2000 21:25, 31 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn un anodd. Dwi'n meddwl bod ni'n eitha goddefgar yn barod cyn belled â mae pobl a phethau Cymraeg/Cymreig yn y cwestiwn, ac mae'n wir hefyd fod gennym fwy o le i fod yn gynhwysfawr na gwyddoniaduron eraill, ond ar y llaw arall fedrem ni ddim - a ddylem ni ddim - gynnwys pawb a phopeth, yn llythrennol. Mae "perinewm" yn ymylol braidd efallai, ond mae'n bod ac mi fydd yn bod yn y dyfodol. Efallai bydd Chwarter call hefyd, ond ar y llaw arall mae'n rhaid gofyn pa mor bell i lawr y lein ydym ni i fynd yn achos bandiau un record (oes ganddyn nhw record?) a "selebs-dros-dro" hefyd. Wedi dweud hynny, mae nifer uchel o 2 filiwn erthygl bondigrybwyll y wici Saesneg yn bethau mor chwerthinllyd o ymylol beth bynnag (dyfarnwyr pêl-droed 3edd Adran o Norwy, cymeriad sy'n ymddangos mewn cartŵn Siapaneaidd does neb heb law llond llaw o anoracs yn Siapan wedi clywed amdano, ac ati...). Anatiomaros 21:50, 31 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Na, tydio ddim yn amheus, a dylwn wedi nodi mai ei ystyried yn ddi-nod ydw i - dyma'r lle gorau i nodi pethau fel hyn am rwan dw i'n credu. Ti'n iawn Llywelyn mai nid fy lle i ydy penderfynnu beth sy'n ddiddorol a'i peidio i eraill, ond eto rhaid bod yna rhyw fath o cut-off point i beth sy'n mynd i gael ei gynnwys yma. Tydy'r ffaith nad oes gyda ni gyfyniad lle (hyd y gwyddwn i) ddim yn reswm i'w lenwi gyda pob math o bethau di-nod. Ymddengys nad yw'r band mewn cwestiwn ddim wedi rhyddhau dim byd, dim ond wedi ennill cystadleuaeth a noddwyd gan Sbarc (prosiect celf i bobl ifanc ardal Caernarfon).--Ben Bore 13:10, 1 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Re: cut-off point, I did mention something similiar two years ago, but I think the criteria for inclusion here should be:
  • Either had a single on Siart C2 OR
  • Had a hit single (top 75) on the UK singles chart OR
  • Released an album through an established record company,
or will we have lots of bands using Wicipedia to promote themselves. Paul-L 14:29, 2 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Fi ysgrifennodd yr erthygl, a rydw i'n dilyn y band. Dwi'n dallt eich 'concern' fel petai, ond wnes i gwned hyn ar ol mis da iawn i'r band. Mae ei proffil yn tyfu. O'i demo cyntaf, mae un can wedi gael ei ddarlledu ar Radio Cymru, ar raglen Magi Dodd yn reit reolaidd, ers mis gorfennaf, ar ol ymddangos fel band 'Gwyliwch y Gofod', rhan o'r sioe sydd yn rhoi sylw i bandiau newydd. Yna, dywedodd ar ei sioe ar Hydref 21, 2008, fod "Chwarter Call fydd band..2009, nhw fydd yn headlinio Maes B yn 2009". Ar ol hyna, ar raglen 'Bandit', wythnos dwytha' (Dydd Iau 30 o Hydref), darlledir cyfweliad a'r band. Gwobr am ennill y cystadleaeth Battle of The Bands 'sbarc', gai ychwanegu, yw sesiwn acwstig ar C2, sydd heb ei recordio eto, ond fe wneith yn yr wythnosau nesaf. Mae'r band ar fin ryddhau EP, a felly, oherwydd fod proffil y band wedi ehangu dros yr wythnosau diwethaf, fe penderfynnais fod ysgrifennu erthygl amdanant yn rhywbeth digon resymol, ac yn perthnasol i sîn cerddoriaeth sydd yn datblygu yn sydyn iawn. --84.13.26.27 02:46, 4 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mae'r tag amheus wedi ei dynnu i ffwrdd o'r erthygl (gan awdur yr erthygl). Er,chwarae teg teg does dim pellach wedi ei drafod yma ers wythnos, ond dw i eto i'n argyhoeddi. Y cwbl mae'r band yma wedi ei wenud yw creu demo. Mae nhw'n bwriadu cyhoeddi EP. Mae meini prawf Paul yn swnio'n reit rhesymol a dw i'n cynnig y dyliwn eu mabwysiadu yn swyddogol.
Hefyd dw i'n gweld hi braidd yn 'amheus' bod defnyddiwr di-enw yn gwybod cymaint am fwriad y band!--Ben Bore 09:14, 12 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Dim penderfyniad ar hyn ers Tachwedd 2008! Hen bryd i ni benderfynu os ydym am ei chadw neu ddim. Fel y nodais uchod, dwi'n cloffi rhwng dau feddwl am hyn. Gadawaf y penderfyniad i rywun sy'n gwybod mwy am y pwnc (Ben?). Anatiomaros 16:47, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Reit, mae Anatiomaros wedi fy atgoffa am hwn, ac wedi cynnig mai fy call i ydy o (yn enwedig gan mi fi osododd nhw yma yn y lle cyntaf!). Gan bod ni ddim wedi gwneud dim byd ynglyn a gweithredu ffôn fesur ar gyfer bandiau (er bod Paul wedi cynnig un rhesymol uchod), dw i ddim eisiau dileu'r erthygl. Hefyd, yn y cyfamser mae erthygl am fand Yr Angen wedi cael ei greu yn ddiweddar, ond ac nid gan ddefnyddiwr di-enw fel sydd fel arfer yn digwydd, a dw i'n teimlo os yw Chwarter Call yn mynd, yna byddai rhaid trin Yr Angen yr un fath. Dw i'n deall nad ydy hi'n foddhaol bod erthygl yn aros ar restr Tudalennau amheus am gyhyd, felly dylwn ei dynnu oddi ar y rhestr 'sbo.--Ben Bore 20:39, 11 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Diolch Ben. Dwi'n meddwl fod hynny'n ddigon teg. A rwan does dim rhaid i mi ofyn "oes angen Yr Angen?" felly! Oes, mae angen canllaw am bobl a phethau cyfoes fel hyn, ond bydd yna wastad enghreiffriau sy'n ymylol a bydd dim dewis ond eu trafod fel hyn, fel sy'n digwydd ar y wicis eraill hefyd. Anatiomaros 21:48, 11 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Canlyniad

Cadw

Sbam draws-wiki, mae'n debyg -- tynnodd rhywun sylw at en:Wikipedia:Articles_for_deletion/Curdy. Chwiliais i ei enw ar Amazon, a des i o hyd i lyfrau yn Sbaeneg yn unig. Ond beth basai teitl "cyfieithad Cymraeg o 'the Monarch Stone'"? Chwiliais i ei enw ar Google ynghyd â "maen" neu "carreg" / "garreg" heb gael canlyniadau o ddiddordeb. Alan 08:51, 23 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno. Mae'r botiau wrthi yn tynnu dolenni rhyngwici yn gyflym. Dwi'n methu cael hyd i unrhyw lyfr ganddo yn Gymraeg hefyd, fel ti. Triais '"Artur Balder"+llyfr' a '"Arturo, Balder"+llyfr' ayyb, a basech chi'n disgwyl i hynny weithio, ond does dim byd yn dod i fynny. Nodir 5 o lyfrau plant Sbaeneg wedi'u cyhoeddi ers 2004 ar yr erthygl Esperanto, ond mae'r erthygl ar y wici Sbaeneg wedi mynd a dylen nhw wybod eu pethau: os nad yw'n ddigon amlwg i aros ar es: go brin ei fod yn haeddu aros yma. Dim dewis ond ei dileu, yn fy marn i. Gwnaf hynny yn nes ymlaen os nad oes wrthwynebiad. Anatiomaros 17:29, 23 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Dileuwyd. Dim ond eginau sbam ar rai wicis llai. Cafwyd trafodaeth ar 'en': gweler Wikipedia:Articles for deletion/Curdy. Anatiomaros 19:25, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]


Canlyniad

Dileu

Cyfieithaid gan beiriant. Luke 19:05, 24 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Mae nodyn 'Gwella iaith' ar yr erthygl ers tro byd. Dim mor ddrwg â hynny ond mae angen deg munud o waith gan rywun. Dwi wedi tynnu'r nodyn Tudalennau amheus felly. Anatiomaros 21:01, 11 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Cadw

Hunan-gyhoeddusrwydd? Iaith wallus. Diffyg amlygrwydd (dim byd amdano ar en a chyfeiriadau at ei oriel yw'r rhan fwyaf o'r ychydig gyfeiriadau ar y we). Awgrymaf ei dileu. Anatiomaros 18:25, 25 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Cytunaf. Dileu. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:13, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Mwy na digon o amser wedi mynd heibio. Doedd dim erthygl ar 'en'. Dileuwyd. Anatiomaros 19:16, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Cyfieithiad peiriant eto. Gan nad yw'r pwnc yn un o bwys tragwyddol dwi'n awgrymu ei dileu. Does gen i ddim amser nac amynedd i wastraffu fy amser yn ceisio ailsgwennu hyn ond mae croeso i rywun arall wneud hynny. Anatiomaros 20:54, 11 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Cytunaf. Dileu. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:15, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Tri mis a dim sylw arall na gwelliant i'r eginyn. Os ydy rhywun yn meddwl am gyfieithu paragraff o 'en' yn lle'r gobyldigwc sydd yno, rwan ydy'r amser achos dwi'n mynd i ddileu hyn yn nes ymlaen. Anatiomaros 19:12, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Wedi dechrau arni. Digon am nawr. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:31, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Dwyt ti ddim isio i mi ddileu o, felly? :-) Anatiomaros 00:17, 8 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Na, mae'n iawn am y funud, ha. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 02:44, 8 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

  Cwblhawyd

Canlyniad

Cadw

Beth yn y byd yw "Syberband"? 'Seibrfand' efallai? Fy awgrym: Dileu. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:50, 28 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Dim barn gen i, ond rhaid cadw'r drafodaeth yn un lle. Mae dy sylw uchod, ac un arall ar y dudalen sgwrs. Nain Nain Nain 17:53, 28 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Dileu am ddiffyg amlygrwydd? Mond fath o ddolen sbam ydy o ar hyn o bryd. Anatiomaros 19:08, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Cer amdani, Anat. 19:23, 7 Tachwedd 2010 (UTC)
Cei di wneud o os wyt ti isio, Glenn. Pam lai?! Anatiomaros 19:25, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Dilëwyd. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:38, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

welsh - to cheat by dodging payments or not carrying out an obligation !!!!! Alba gu brath !Caimbeul1314 20:41, 11 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

"Racist comment" - a derogatory and hateful reference to a nation or people etc. Most unworthy of a Scotsman, if that is indeed what you are. This stub article was deleted for not being sufficiently notable and lacking any worthwhile information. No other wikipedia has an article on this - including Wikipedia na Gàidhlig - and the only online material seems to be stuff posted on Youtube and similar sites. You are welcome to make positive contributions here, but if you post another comment of this nature you will be blocked from editing. Anatiomaros 21:22, 11 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

This is not a "racialist comment", it is merely a dictionary definition (Chambers Pocket dictionary). The article included a link to a website that is the product of many years hard work and more significantly to a review of one of our songs in a respected Argentinian magazine. I am Scottish on both sides for generations,I was born in Scotland, my name is aboriginal to Scotland and Ireland and, in recent history, some of my ancestors fought against the clearances in the Crofters War. Ironically some of our videos have had more views than any contemporary welsh language band, but hey I'll bow to your better judgement and your right to decide what gets 'official' recognition. Galiza Ceibe !Caimbeul1314 22:56, 12 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Dwi gwybod fel dwi di bod yn sgweni yn saesneg yma ond dwi di sefydlu linc mewn sianel fi i dudalen hon a dwi eisiau bod dealladwy i gymaint o bobl fel posib. A bod yn onest dwi ddim yn ffraeth yng Nghymraeg ond achos Celt iw fi a dwi byw yng Nghymru roedd amser pryd roeddwn i eisiau dysgu'r iaith. Caimbeul1314 00:02, 13 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Racist or not, the comment had nothing to do with the discussion and was obviously intended to provoke and offend. As Anatiomaros said, any more comments of this nature will lead to your account being blocked. Pwyll 12:19, 13 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Dileu

Dwi'n methu gweld unrhyw werth gwyddoniadurol mewn eginau fel hyn, sy'n deud dim byd o werth (a hynny mewn Cymraeg wallus). Dim ond llinell neu ddwy sy gennym am Nintendo DS ei hun. Awgrymaf ei hailgyfeirio at y teclyn. Sgen i ddim diddordeb nac amser i weld os oes erthygl ar 'en' a sgwennu amdano fy hun ond mae croeso i rywun arall ei wneud, wrth gwrs. Anatiomaros 19:06, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Yn fy marn i, dylem ni ei dileu. Fel dywedaist, nid oes dim byd o werth yno. Dwi'n meddwl bod erthygl gan en. Nid N64 y gwir enw, ta waith, felly fe fydd yn rhaid newid yr enw, wedyn y cynnwys, wedyn gwella'r cynnwys. F'awgrym: Dileu. Oes nodyn gennym sy'n rhybuddio am ddefnyddio peiriant cyfieithu? Dwi'n siŵr fy mod i wedi gweld un yn rhywle! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:26, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Oes, ond Duw a wyr lle. Un o'r rhai sydd ag enw 'da chi byth yn medru cofio! Anatiomaros 19:33, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Dileuwyd (gan fod 'N64' yn anghywir fel enw'r gêm doedd dim pwynt mewn ailgyfeirio). Anatiomaros 19:46, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Dileu

(Note: Originally tagged by Anatiomaros)
Self-promotion. Most of his videos have less than 1,000 views, making the "most popular YouTuber in the world" claim wildly inaccurate. Paul-L 17:51, 17 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Diolch Paul. I'd forgotten about this. I agree it's spam and even though the anon IP added "o Cymru" (sic) to the claim today it doesn't change much. Awgrymaf ei dileu. Anatiomaros 23:11, 17 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Deleted. On a grammatical point, am I right in thinking it should have been "yr Youtuber" instead of "y Youtuber", due to "Y" being a vowel? Paul-L 14:54, 18 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Mae hynny'n wir, Paul, ar lafar o leia. In spoken Welsh you'd tend to say "yr Iwtiwbyr" and the same is correct for the written language, though I doubt if anybody would take you to task for it. Perhaps the word 'Iwtiwbwr' needs coining in written Welsh to join things like 'gwglo'? Anatiomaros 20:14, 18 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
I was refering to how it had been written - you'd noticed 'o Cymru', and I'd seen he'd written 'y Youtuber', which I think was also grammatically incorrect. I'd already deleted the article before you made you the above reply, so you may have been unsure what I was refering to. Paul-L 20:03, 9 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]
Yes, wires crossed! Anatiomaros 20:22, 9 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Dileu

Amheuaf bod testun yr erthygl hon yn ddigon adnabyddus i haeddu ei le ar Wicipedia. Dilewyd yr erthygl ar en am y rheswm: biography unreferenced for over 3 years. —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:37, 2 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Byddai'n dileu'r erthygl os nad oes unrhyw wrthwynebiad o fewn y 24 awr nesaf. —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:53, 8 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Sdim gwrthwynebiad yma. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:51, 8 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Wedi ei dileu. —Adam (sgwrscyfraniadau) 17:58, 12 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Dileu

Cynhelir Ras yr Iaith am y tro cyntaf ar ddydd Gwener 20 Mehefin 2014.

Dw i'n mawr edrych ymlaen am y Ras hon, ond all gwyddoniadur ddim cynnwys rhywbeth sydd heb ddigwydd eto. Dwi'n cynnig ein bod dileu'r erthygl, ond dw i hefyd wedi copio ac addasu'r cynnys ai osod yma: https://cy.wikipedia.org/wiki/Defnyddiwr:Stefanik/Ras_yr_Iaith fel y gellir ei symud i'r prif barth unwaith i'r digwyddiad ddigwydd.--Rhyswynne (sgwrs) 20:34, 25 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Addaswyd yr erthygl.

Canlyniad

Cadw

Tydy hyn ddim mwy na ahysbysb ar gyfer digwyddiad sydd i'w ddod. Yn yr un modd mae Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2013 yn ddim mwy na rhaglen y dydd. Dw i'n cynnig dileu'r ddau, yn arbennig gan bod yr un defnyddiwr hefyd wedi creu Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth sydd cael a chael yn ddigon i gyfiawnhau erthygl. Os digwyddodd rhywbeth arbennig yn 2013 (ac yna 2014) gellir cynnwys hyn yno.--Rhyswynne (sgwrs) 09:56, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

(wedi symud y ddau sylw nesaf o dudalen Sgwrs Defnyddiwr:Stefanik)

Nid lle i hysbysebu pethau yw Wicipedia, gan mai gwydodniadur yw e. Mae llawer o lefydd i hysbysebu yn Gymraeg ar lein, maes-e.com (sy'n ddal i fynd!), lleol.net, ffrwti.com (newydd sbon), @poblaberystwyth, neu bath am i'r Parêd greu gwefan eu huanain?--Rhyswynne (sgwrs) 10:06, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Eh? Nid hysbyseb yw e - mae'n gofnod hanesyddol o rhywbeth ddigwyddodd. Byddaf yn creu gwefan maes o law. Mae digwyddiad 2014 i'w ddiweddaru. Mae'n gofnod yn yr un modd ag y mae cofnodion am gemau cup final FA neu gemau ryngwladol Cymru neu cyngerdd grwp pop. (sylw gan Defnyddiwr:Stefanik)
Mae'n wir bod tudalennau ungigol ar gyfer digwyddidau unigol, megis rownd derfynol Cwpan Lloegr a gemau rhyngwladol, ond baswn i'n dadlau eu bod yn wahanol gan eu bod yn cynnwys ffeithiau ac ystagegau (canlyniad, sgorwyr, ymddangosiadau chwaraewyr ayyb) sydd o bwys ehangach (h.y bod canyliad un gêm yn effeithio ar dabl terfynol). Os wyt ti'n credu bod eisiau cofnodi pa gôr ganodd a ffeithiau am y rhai a gymerodd ran bob blwyddyn, falle dilyd cynnwys manylion cryno (wedi iddynt ddigwydd) am bob blwyddyn yn yr arddull canlynol ar yr erthygl Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth:
Gorymdaith 2013
Twysydd:John Jones
Côr:Côr Bois y Botel
Manylyn arall: Enw
Tra dan ni'n ceisio rhoi ysytyriaeth i fod mor 'gynhwysol' a phosib i bethau Cymraeg/Cymreig yma, dwi'n dal o'r farn nad oes cyfiawnhad erthygl unigol i bob blwyddyn. Efallai bydd eraill yn anghytuno a bydda i ddim yn gwenud dim mwy i'r erthyglau nes cael sylw mwy o bobl yma.--Rhyswynne (sgwrs) 11:21, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2013

Gweler sylwadau uchod am Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2014. --Rhyswynne (sgwrs) 10:08, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Uno'r ddwy dudalen 2013 a 2014 a lleihau'r cynnwys

Canlyniad

Uno

Smonach o dudalen sy'n amlwg yn dod o destun o rywle ('en:' efallai?) wedi'i gyfieithu gan beiriant Google-de-gook. Dwi'n meddwl mai'r sant Gwrddelw yw hyn i fod, ond o ble daw'r holl fanylion amheus (dyddiad geni - go brin!) dwi ddim yn gwybod. Mae'r cofnod amdano yn The Book of Welsh Saints yn fyr iawn: mab Caw o'r Hen Ogledd, cysylltiad gyda Llanddewi Brefi a Chaerleon, gwylmabsant. Os daw hyn o'r wici S. gyda'i ddiofalwch arferol ynglŷn â defnyddio ffynonellau hynafiaethol (fel Wm. Owen Pughe druan, dan ddylanwad Iolo ac eraill!) mae lle i amau'n gryf dilysrwydd llawer o'r wybodaeth a geir yma. Cynnig ei dileu neu ei symud i Gwrddelw (dim erthygl eto - gwaith 2 funud i greu tudalen amdano cyn lleied yw'r ffeithiau dibynadwy!). Anatiomaros (sgwrs) 23:55, 1 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Cytuno. Felly hefyd: Castle Hill, Awstralia‎, Parramatta, Tathyw a Tathan (Sain). Llywelyn2000 (sgwrs) 07:24, 13 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Wedi dileu holl gyfraniadau'r defnyddiwr hwn sydd i gyd yn amlwg yn gynnyrch peiriant cyfieithu. —Adam (sgwrscyfraniadau) 12:57, 13 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Diolch. Fel y gwelwch, mae Gwrddelw yma rwan yn lle "Cwrddlew". Anatiomaros (sgwrs) 22:43, 13 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Canlyniad
Dileu

Cynnig dileu oherwydd nad geiriadur mo Wici. Gosodais Nodyn:Amheus ar y cyntaf ym Mehefin ac ni chafwyd amddiffyniad dros ei chadw. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:24, 30 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Amdani. Bechod mewn ffordd gan bod rhywun wedi mynd i feddwl am y peth, ond dwi ddim yn meddwl bod o'n addas ar gyfer proseict arall chwaith.--Rhyswynne (sgwrs) 15:36, 30 Medi 2014 (UTC)[ateb]
Canlyniad
Dileu

Hannah Mae Collins golygu

Sbam efallai? Dim yn cwrdd a gofynion amlygrwydd y Wici. Anatiomaros (sgwrs) 02:49, 26 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

  Cytuno Fel y dywed Anatiomaros: diffyg amlygrwydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:09, 26 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Cynnig ei dileu ar y penwythnos os na cheir gwrthwynebiad. Anatiomaros (sgwrs) 00:04, 5 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

  Cwblhawyd

Llywelyn2000 (sgwrs) 08:20, 7 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Penderfyniad
Dileu

Eddie Jones golygu

Dwi ddim wedi rhoi hyn yn y categori 'Amheus' achos mae'r ffeithiau'n iawn, ond fedra' i ddim gweld sut mae'n cwrdd â gofynion amlygrwydd Wicipedia, oni bai ei fod yn adnabyddus am rheswm arall yn ogystal â bod yn brifathro mawr ei barch. (Gyda llaw, mae rhoi'r nodyn:Amlygrwydd ar dudalen yn fod i roi'r dudalen honno yn Categori:Amlygrwydd, ond dydy o ddim.) Anatiomaros (sgwrs) 00:03, 5 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Mi driais fy ngorau i ddarganfod ffeithiau a fyddai'n ei gynnwys yn dosbarth derbyniol, o ran amlygrwydd. Ond doedd fawr o ddim ar y we. Cytuno i'w dileu oni bai ei bod yn cynnwys rheiny. Ar y pwynt Nodyn:Amlygrwydd; oes mae angen ei wella! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:37, 5 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

  Cwblhawyd

Llywelyn2000 (sgwrs) 08:20, 7 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Penderfyniad
Dileu
Atolwg! Roeddwn i ar fin dileu'r dudalen pan sylwais ar rybydd fod sawl tudalen yn cysylltu: gweler Arbennig:WhatLinksHere/Eddie_Jones. Tybed ai'r un Eddie Jones, awdur llyfrau am ddawnsiau Cymreig? Anatiomaros (sgwrs) 01:50, 18 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

  Cwblhawyd

Wedi dileu - person arfeol - ddim yn haeddu lle ar y Wici; crëwyd gan gyfeiriad IP anhysbys. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:50, 28 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Javad Ramezani golygu

Dim ond mewn dwy iaith arall mae erthygl; sawl iaith wedi dileu tudalennau. Oes rhywun yn siarad Arabeg i chwilio am gyfeiriadau eraill? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:19, 9 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Mae'n edrych fel enghraifft glasurol o "sbam rhyngwici" i mi. Fawr o golled os ydy'n mynd, felly dwi'n cynnig ei dileu. (Na, dwi ddim yn siarad Perseg heblaw am ddeall ambell air, gwaetha'r modd a dim ond ychydig o Arabeg llafar a phytiau o'r iaith lenyddol - ond Perseg sydd ei angen yma beth bynnag...). Anatiomaros (sgwrs) 01:01, 10 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Penderfyniad
Dileu

Jose Rafael Cordero Sanchez golygu

"Ymgyrchydd mwyaf llwyddianus y ganrif"? Hmmm. Go brin. Dyma'i broffeil ar wefan LinkedIn. Anatiomaros (sgwrs) 00:37, 3 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]

Penderfyniad
Dileu