Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Siartiaeth

WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Siartiaeth


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Radicaliaeth a Phrotest
HWB
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg
Cyfarfod o'r Siartwyr yn Kennington Common, Llundain yn 1848

Mudiad a hawliai wellianau yn amodau byw a hawliau dinesig y gweithiwr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd Siartiaeth neu Fudiad y Siartwyr. Roedd y mudiad yn weithgar yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei sefydlu gan 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838.

Roedd yn ei anterth yn 1839, 1842, a 1848 a chyflwynwyd deiseb i Dŷ'r Cyffredin yn hawlio newid. Ar y cyfan, defnyddiwyd dulliau cwbwl ddi-drais fel cyfarfodydd a deisebion. Yr ardaloedd mwyaf gweithgar oedd ardaloedd glo De Cymru, Gogledd Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Ardal y Crochendai, Stafford a'r Black Country, sef bwrdeistrefi Dudley, Sandwell a Walsall.


Cefndir golygu

Roedd Siartaeth yn un o’r mudiadau dosbarth gweithiol torfol gyntaf mewn hanes. Y prif reswm dros ffurfio mudiad y Siartwyr oedd oherwydd siom a dicter rhai o’r dosbarth canol gyda Deddf Diwygio 1832 ac anhapusrwydd y dosbarth gweithiol nad oedden nhw wedi cael y bleidlais o gwbl.  Roedd y diffyg grym gwleidyddol i ddosbarth gweithiol Cymru wedi cynyddu poblogrwydd Siartaeth yng Nghymru, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol newydd y wlad. Cynyddodd hyn y galwad am newidiadau i’r system wleidyddol yng Nghymru. Roedd problemau eraill yn poeni’r dosbarth gweithiol hefyd, fel amodau byw a gwaith gwael, system atgas y tlotai a basiwyd gan Ddeddf Newydd y Tlodion yn 1834, agwedd y Llywodraeth tuag at y dosbarth gweithiol a’r undebau.  Roedd y cosbau llym a roddwyd gan y Llywodraeth i Ferthyron Tolpuddle yn dangos eu gwrthwynebiad i’r gweithwyr yn ymuno gyda’r undebau.  Roedd anhegwch mawr yn dal i fodoli yn y sustem bleidleisio gan fod dim pleidlais i’r dosbarth gweithiol yn golygu na allent wella eu hamgylchiadau byw a gwaith. Os nad oeddent yn medru lleisio eu barn gwleidyddol drwy gael y bleidlais byddent yn methu chwilio datrysiad i’r problemau cymdeithasol eraill oedd yn eu hwynebu yn eu bywyd bob dydd.

Lluniodd cefnogwyr Siartiaeth ddogfen o’r enw Siartr y Bobl a gafodd ei gyhoeddi yn 1838. Roedd y chwech pwynt yn dangos dylanwad clir y Radicaliaid:

1.     Pleidlais i bob dyn yn 21 oed.

2.     Pleidlais gudd er mwyn diogelu’r etholwr.

3.     Dim cymwysterau eiddo i Aelodau Seneddol fel y gallai etholwyr ethol dyn a ddewiswyd ganddynt, boed yn ddyn cyfoethog neu’n ddyn tlawd.

4.     Talu Aelodau Seneddol fel y gallai dynion gweithiol cyffredin fforddio cynrychioli eu hetholaeth.

5.     Etholaethau cyfartal er mwyn sicrhau’r un gynrychiolaeth am yr un nifer o etholwyr.

6.     Etholiadau blynyddol.  Credai’r Siartwyr y byddai hyn yn atal llwgrwobrwyo a llygredd yn ystod y broses etholiadol yn ogystal a gwneud Aelodau Seneddol yn fwy atebol i’r bobl.

Roedd agwedd y Llywodraeth tuag at gwynion y dosbarth gweithiol wedi cael eu ddangos yn y ffordd roedd Merthyron Tolpuddle wedi cael eu trin. Roedd y protestwyr hynny eisiau cryfhau awdurdod yr undebau llafur ond cosbwyd hwy yn llym gan y Llwyodraeth. [1]

Yn yr ardaloedd diwydiannol o Gymru achosodd y Chwyldro Diwydiannol amrywiaeth o broblemau ym mywyd bob dydd ac ym mywyd gwaith bobl. Cododd gweithwyr haearn Merthyr mewn terfysg ym Mehefin 1831 oherwydd yr amodau byw afiach, gor-boblog a’r epidemigau o Golera oedd yn dod yn sgil hynny oherwydd diffyg cyflenwadau dŵr glan. Roedd yr amodau gwaith yn y gweithfeydd yn beryglus a thrwy’r System Dryc’ roedd gafael haearnaidd y meistri haearn yn cryfhau ar y gweithwyr. Yn ychwanegol at hynny doedd dim pleidlais gan y gweithwyr i fynegi eu cwynion am eu hamgylchiadau.

Yn ôl yn 1839 roedd yn rhaid pleidleisio yn agored, unai drwy godi llaw mewn torf neu drwy weiddi enw’r dyn roeddech eisiau pleidleisio drosto. Roedd hyn yn creu problem. Gallai pobl gael eu bygwth a llwgrwobrwyo i bleidleisio dros rai ymgeiswyr. Cafwyd achosion lle collodd rhai eu cartrefi oherwydd eu bod wedi pleidleisio yn erbyn eu landlord. Credai’r Siartwyr y dylai pob dyn dros 21 gael yr hawl i bleidleisio yn gudd, ac y dylai aelodau seneddol gael tâl.             

Maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng Nghaerfyrddin, y Siartydd mwyaf amlwg oedd Hugh Williams, a oedd yn frawd yng nghyfraith i Richard Cobden, y gwleidydd radicalaidd. Yn Llanelli yr oedd David Rees golygydd Y Diwygiwr yn ffigwr amlwg. Ym Merthyr Tudful, roedd Morgan Williams; yr enwog Dr Willliam Price o Lantrisant; a John Frost yn Sir Fynwy. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn Neuadd y Sir, Trefynwy i'w crogi a'u chwarteru.


Cyfeiriadau golygu

  1. "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC.
  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.