William Llewelyn Williams
Roedd W Llewelyn Williams (10 Mawrth 1867-22 Ebrill 1922), yn newyddiadurwr, bargyfreithiwr a llenor o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1906 a 1918[1]
William Llewelyn Williams | |
---|---|
W Llewelyn Williams (1906) | |
Ganwyd | 10 Mawrth 1867 Llansadwrn |
Bu farw | 22 Ebrill 1922 |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bargyfreithiwr, llenor, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd personol
golyguGanwyd Williams yn Brownhill, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin yn ail fab i Morgan Williams a Sarah (née Davies) ei wraig.
Roedd ei deulu yn un oedd wedi bod yn flaenllaw yn achos enwad Cristionogol yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd tad-cu Williams, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac, Llandeilo. Roedd y Parchedigion John Williams (1819-1869) gweinidog Annibynnol Llangadog, Castellnewydd Emlyn a Chapel Iwan a Benjamin Williams (1830-1886) a fu'n gwasanaethu yn Nowlais, Dinbych ac Abertawe yn ewythrod iddo.
Addysgwyd Williams yng Ngholeg Llanymddyfri a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen. Yn Rhydychen, bu yn un o aelodau cynnar Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, cymdeithas Cymraeg i fyfyrwyr prifysgolion y ddinas. Ymysg ei gyd aelodau o'r gymdeithas bu O. M. Edwards, John Morris-Jones, Edward Anwyl, John Puleston Jones a Daniel Lleufer Thomas[2]
Ar 30 Rhagfyr 1891 ymbriododd ag Elinor (Nelly) Jenkins, Glansawdde, merch James Jenkins, un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Caerfyrddin.[3] Canodd Syr John Morris Jones Cywydd i ddathlu'r briodas.[4]
Gwybodaeth
golygu- Golygydd cyntaf The South Wales Post, papur newydd Radicalaidd yn Abertawe, ydoedd, ond rhoes y gorau i newyddiaduraeth a throi at y gyfraith yn 1897.
- Diddordebau: hanes, cenedlaetholdeb Cymreig, gwleidyddiaeth Rhyddfrydol.
- Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caerfyrddin 1906-1918
- Bargyfreithiwr (1912) ac arweinydd cylchdaith De Cymru. Gofiadur Abertawe (1914-15) a Chaerdydd (1915-22).
- Fel gohebydd brwydrai yn erbyn barnwyr uniaith Saesneg a bu’n gynhaliwr brwd dros ddatgysylltu’r Eglwys a Hunanlywodraeth.
Heddychwr ond cefnogodd y Rhyfel yn 1914. Ond torrodd pob cysylltiad â David Lloyd George a’r Blaid Ryddfrydol. Safodd yn erbyn y Rhyddfrydwyr yn 1921.
Gwaith llenyddol
golygu- Gwilym a Benni Bach (1894)
- Gŵr y Dolau (1899)
- Slawer Dydd (1918) (poblogaidd iawn ar ffurf cyfres yn y cylchgrawn Y Beirniad).
- Ysgrifau ar y Tuduriaid yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a chasglwyd yn y gyfrol The Making of Modern Wales (1919)
Gw. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t.640
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur adalwyd 16 Rhagfyr 2017
- ↑ Kenneth O. Morgan Rebirth of a Nation: Wales, 1880-1980, History of Wales cyf. 6 (Oxford University Press, 1981), t.100
- ↑ Cardiff Times 2 Ionawr 1892 Marriage of Mr W. Llewelyn Williams
- ↑ Cywydd Priodas W. Llewelyn Williams: Jones-Morris, John; Caniadau; Rhydychen; Fox Jones, Kemp Hall; 1907
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Alfred Davies |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1906 – 1918 |
Olynydd: diddymwyd yr etholaeth |