Ysgol y Creuddyn
Ysgol uwchradd Gymraeg yn sir Conwy yw Ysgol Y Creuddyn. Fe'i lleolir ar safle pwrpasol ar gyrion Bae Penrhyn, rhwng Llandudno a Bae Colwyn. Fe'i henwir ar ôl Y Creuddyn, enw hanesyddol yr ardal a chwmwd yn yr hen gantref Rhos.
Ysgol y Creuddyn | |
---|---|
Arwyddair | Dawn, Dysg, Daioni |
Sefydlwyd | 1981 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr. Trefor T. Jones |
Lleoliad | Ffordd Derwen, Bae Penrhyn, Llandudno, Conwy, Cymru, LL30 3LB |
AALl | Cyngor Sir Conwy |
Staff | tua 60 |
Disgyblion | 658[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Llysoedd | Bodysgallen, Gloddaeth, Penrhyn |
Lliwiau | Gwyrdd tywyll a melyn |
Cyhoeddiadau | "Mwy nag Addysg" - Ysgol y Creuddyn 1981-2006 |
Gwefan | [3] |
Roedd 658 o ddisgyblion yn Ysgol y Creuddyn yn 2015.[2] Daw 77% o’r disgyblion o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn brif iaith.[3]
Daw disgyblion yr ysgol o ddalgylch eang sy'n ymestyn cyn belled a Llanfairfechan ac Eglwysbach yn y gorllewin ac Abergele a Llansannan yn y dwyrain.
Hanes
golyguDaeth sefydlu Ysgol y Creuddyn wedi blynyddoedd o frwydro caled gan rieni, Cymdeithas yr Iaith ac eglwysi Cymraeg y dalgylch a Chymdeithas y Cymrodorion. Yn 1963 trefnwodd cell Bangor o'r Gymdeithas ddeiseb ac ymgyrch i gael dwy ysgol Gymraeg: y naill ym Mangor a'r llall yn ardal Llandudno. Gwrthwynebodd Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon y cynllun ar y sail nad oedd digon o ddisgyblion i gyfiawnhau ysgol ddwyieithog newydd yng nghyffiniau Llandudno. Parhaodd yr un agwedd yn nyddiau cynnar y Sir Gwynedd newydd wedi'r ad-drefnu ym 1974, ond parhaodd y rhieni i bwyso'n ddi-baid ar y Pwyllgor Addysg. Daeth datblygiad yn ffurf llythyr Cyfarwyddwr Addysg Clwyd at Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd, yn gofyn am ystyriaeth i godi ysgol ddwyieithog newydd ar y cyd, ar neu yn ymyl ffin y ddwy sir. Cytunodd Pwyllgor Addysg Gwynedd i'r gwahoddiad, a bu cydweithio rhyngddynt. Penderfynwyd fod Gwynedd i weinyddu'r ysgol a bod cost ei chynnal i'w dalu yn ôl nifer y plant o'r ddwy sir. Nid siroedd Caernarfon a Gwynedd yn unig a wrthwynebodd y gofynion am ysgol ddwyieithog newydd. Roedd rhai unigolion lleol hefyd yn dymuno gohirio neu ddiddymu agor yr ysgol ar y sail nad oedd digon o ddisgyblion a theuluoedd Cymraeg yn y cyffiniau, a gwell byddai ychwanegu at ysgolion uwchradd lleol megis Ysgol John Bright yn Llandudno ac Ysgol Aberconwy yng Nghonwy.
Agorodd yr ysgol ddydd Mercher 2 Medi 1981 i 218 o ddisgyblion tra fo'r adeiladu'n parhau. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol Hydref 17, 1984 gan y cynghorydd O. M. Roberts; un o'r amlycaf o'r ymgyrchwyr a sicrhaodd fodolaeth yr ysgol a hefyd Cadeirydd cyntaf y Corff Llywodraethol.
Logo
golyguDaw dyluniad a siap logo'r ysgol o amlinelliad to neuadd ddrama'r ysgol.
Dathliadau Chwarter Canrif Ysgol Y Creuddyn 2006
golygu-
Mwy Nag Addysg - llyfr gyhoeddwyd ar gyfer dathlu 25 mlynedd Ysgol Y Creuddyn.
-
Mr Geraint Williams,Y Cyfarwyddwr Addysg, Dr Meirion Davies a Mr Arfon Williams gyda'r bws mini newydd a brynwyd yn ystod y dathlu.
-
Dr Meirion Davies, Y Pennaeth, gyda Mr Arfon Williams, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr.
-
Seremoni o gyflwyno copi o'r llyfr i Mr Roland Jones a blodau i Mrs Jill Jones. O'r chwith: Dr Meirion Davies, Mrs Jill Jones, Mr Roland Jones, Mr Arfon Williams a Mr Emyr Williams
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Ysgol y Creuddyn. Llywodraeth Cymru (2016).
- ↑ [1][dolen farw] Fy Ysgol Leol
- ↑ [2][dolen farw] Adroddiad Estyn Ysgol Y Creuddyn 2016