Anatomeg
Anatomeg (o'r Groeg ἀνατομία (anatomia) sef 'gwahanu a thorri i fyny') yw astudiaeth, adeiladwaith a threfniant organebau byw. Astudiaeth anatomeg anifeiliaid yw sŵtomeg, ac astudiaeth anatomeg planhigion yw ffytonomeg.
Enghraifft o'r canlynol | cangen o fywydeg |
---|---|
Math | bywydeg |
Y gwrthwyneb | pseudoanatomy |
Rhan o | bywydeg, meddygaeth |
Yn cynnwys | Swtomeg, anatomeg planhigion, esgyrneg, Neuroanatomi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Canghennau pwysicaf anatomeg ydy anatomeg gymharol ac anatomeg ddynol. Mae'r gair anatomi fodd bynnag yn cyfeirio at rannau o'r corff dynol yn hytrach na'r pwnc.
Anatomeg ddynol
golyguYr astudiaeth wyddonol o sut mae'r corff dynol yn gweithio ydy anatomeg ddynol (hefyd 'anatomi dynol'). Mae dwy ran i'r asudiaeth hon:
- anatomi topograffig: yr astudiaeth o strwythurau y gellir eu gweld gyda'r llygad noeth
- anatomi microscopig: yr astudiaeth o strwythurau'r corff gyda chymorth microsgop ac offer tebyg, ac sy'n cynnwys histoleg, sef yr astudiaeth o'r meinweoedd.
Dros y blynyddoedd mae anatomeg wedi datblygu drwy disectio, cofnodi a llunio cronfa o wybodaeth am yr organau. Defnyddiwyd a defnyddir heddiw hefyd gyrff anifeiliaid a chyrff marw dynol i ychwanegu at y wybodaeth hon. Ni ddylid, fodd bynnag, gymysgu anatomeg gyda anatomeg patholegol neu histopatholeg sef asudio meinweoedd microscopic organau wedi'u heintio.
Anatomeg wyneb y corff
golyguAr wyneb y corff ceir nifer o wrthrychau hawdd eu hadnabod, fel cerrig milltir ar draws y corff cyfan. Mae lawfeddygon a milfeddygon yn defnyddio'r wybodaeth hon o wyneb y corff fel canllaw pwysig i wybod beth sydd o dan y croen.
Anatomeg gymharol
golyguCymharu'r gwahanol strwythurau o fewn gwahanol anifeiliaid y mae anatomeg gymharol. Roedd Syr Richard Owen (1804 - 1892), sefydlydd yr Amgueddfa Brydeinig yn un o brif arbenigwyr Ewrop ar y pwnc.
Anatomegau eraill
golyguCymharu gwahanol genedligrwydd a hil bodau dynol y mae Anatomeg anthropolegol.
Astudiaeth artistig o'r anatomi (dynol ac anifail) ydyw Anatomeg artistig.
Hanes anatomeg
golyguO'r Groeg y tardd y gair 'anatomeg' neu 'anatomi': ἀνατομή anatomē "dyrannu" (Saesneg: dissection) (o ἀνατέμνω anatémnō "torri fyny" a ddaw o'r gair ἀνά aná "fyny", a τέμνω témnō "torri"),[1]. Yn yr 2g y mwyaf nodedig, a thad anatomeg, efallai, yw rhannodd Claudius Galenus, a enwir yn ddiweddar yn 'Galen') [2] neu 'Galen o Bergamon', Twrci heddiw. Rhannodd y corff dynol yn sawl maes gan gynnwys anatomeg, ffisioleg, patholeg, fferylliaeth a niwroleg - yn ogystal ag athroniaeth a rhesymeg. Anifeiliaid a ddyranwyd gan mwyaf yn y cyfnod hwn.[3]
Ystyrir y De Humani Corporis Fabrica, llyfr yn yr iaith Ladin am ffisioleg gan Andreas Vesalius (1543) yn garreg filltir bwysig yn hanes anatomeg. Rhennir y gyfrol yn saith 'llyfr':
- Llyfr 1 (40 o benodau): yr esgyrn a'r cartilag
- Llyfr 2 (62 o benodau): y tennynnau a'r cyhyrau
- Llyfr 3 (15 o benodau): y gwythiennau a'r rhydwelïau
- Llyfr 4 (17 o benodau): y nerfau
- Llyfr 5 (19 o benodau): yr organau treulio a'r organau cenhedlu
- Llyfr 6 (16 o benodau): y galon ac organau eraill y thoracs
- Llyfr 7 (19 o benodau): yr ymennydd
Yn Alexandria yr Henfyd y gwnaed y gwaith o gofnodi'r corff fwyaf trylwyr, gyda Herophilus ac Erasistratus (3g) yn gynhyrchiol iawn. Dyma'r ddau a ddechreuodd ddyranu'r corff er mwyn ei astudio'n wyddonol; Erasistratus a Praxagoras a sylweddolodd fod gwahaniaeth rhwng gwythienau (veins)a'r Rhydweliau (arteries).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ O.D.E. Ail rifyn 2005
- ↑ "Galen" - Collins English Dictionary, HarperCollins Publishers, 1998.
- ↑ Brock, Arthur John (translator) Galen. On the Natural Faculties. Caeredin, 1916. Cyflwyniad, tt xxxiii.
Anatomeg · Biocemeg · Bioffiseg · Botaneg · Bioleg cell · Bioleg cadwraeth · Bioleg datblygiad · Ecoleg · Epidemioleg · Bioleg esblygiadol · Geneteg · Genomeg · Bioleg dynol · Imiwnoleg · Bioleg morol · Microbioleg · Bioleg foleciwlaidd · Paleontoleg · Patholeg · Ffisioleg · Bioleg systemau · Swoleg