Andalucía

un o gymunedau ymreolaethol Sbaen
(Ailgyfeiriad o Andalusia)

Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, a'r mwyaf ohonynt o ran poblogaeth, yw Andalucía (hefyd Andalwsia). Fe'i lleolir yn ne'r wlad, yn ffinio â Phortiwgal i'r gorllewin. Saif y cymunedau ymreolaethol Extremadura, Castilla-La Mancha a Murcia i'r gogledd, Môr y Canoldir i'r de-ddwyrain a Chefnfor yr Iwerydd i'r de-orllewin.

Andalucía
MathCymunedau ymreolaethol Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasSevilla Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,476,718, 8,476,718 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1835 (1833 territorial division of Spain) Edit this on Wikidata
AnthemLa bandera blanca y verde Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJuan Manuel Moreno Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBuenos Aires Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd87,268 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,478 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaExtremadura, Castilla-La Mancha, Murcia (cymuned ymreolaethol), Gibraltar Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.405°N 5.9875°W Edit this on Wikidata
Cod postAN Edit this on Wikidata
ES-AN Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolConsejo de Gobierno de la Junta de Andalucía Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Andalucía Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Llywydd Cynulliad Andalucía Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJuan Manuel Moreno Edit this on Wikidata
Map
Andalucía yn Sbaen

Daw'r gair "Andalucía" o'r Arabeg Al-Andalus. Bu'r rhan yma o Sbaen dan reolaeth y Mwslemiaid am gyfnod hirach nag unrhyw ran arall, o 711 hyd 1492. Mae'n cynnwys mynyddoedd uchaf Sbaen yn y Sierra Nevada, yn enwedig Mulhacén (3478 m.) a Veleta (3392 m.). Yr afon bwysicaf yw'r Guadalquivir.

Prif ddinasoedd Andalucía yw Sevilla, Málaga, Cádiz, Almería, Córdoba, Jaén, Huelva a Granada. Mae'n enwog am ddawns y flamenco ac am bensaernïaeth wych o'r cyfnod Islamaidd, yn enwedig yr Alhambra byd-enwog yn Granada.

Taleithiau golygu

Mae gan Andalucía wyth talaith. Sefydlwyd y taleithiau gan Javier de Burgos yn 1833. Enwir pob un o’r taleithiau hyn ar ôl ei phrifddinas.

Talaith Prifddinas Poblogaeth
(2021)[1]
Bwrdeistrefi
Almería Almería 730,430 102
Cádiz Cádiz 1,249,873 44
Córdoba Córdoba 777,622 75
Granada Granada 925,046 170
Huelva Huelva 527,254 79
Jaén Jaén 627,568 97
Málaga Málaga 1,696,955 102
Sevilla Sevilla 1,950,056 105

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 21 Medi 2023