Mae Dyffryn Lledr yn ddyffryn yn sir Conwy, gogledd Cymru. Rhed afon Lledr trwyddi o'i tharddle yn y mynyddoedd i'r gogledd-orllewin o Flaenau Ffestiniog i ymuno ag afon Conwy ger Betws-y-Coed.

Dyffryn Lledr
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.06°N 3.87°W Edit this on Wikidata
Map
Y Bont Rufeinig

Gorwedd Dyffryn Lledr rhwng mynyddoedd Moel Siabod a'r rhosdir uchel rhwng y mynydd hwnnw a'r Cnicht a'r Moelwynion i'r gorllewin, a'r bryniau coediog i'r dwyrain sy'n gorwedd rhynddo a Cwm Penmachno i'r dwyrain. Mae'n ardal mynyddig gyda golygfeydd trawiadol. Mae'r dyffryn tuag wyth milltir o hyd a rhyw bum milltir o led. Mae'n codi o'i waelod cul ger Betws i fyny i Fwlch y Gorddinan (Bwlch Crimea), 1262 troedfedd i fyny, yn y de.

Dolwyddelan yw'r unig bentref yn y dyffryn, a'i ganolfan naturiol. Cymuned fechan yw Pont y Pant, tua milltir a hanner i'r gogledd.

Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn mynd trwy'r dyffryn, gan gysylltu Blaenau Ffestiniog â Llandudno ar yr arfordir. Mae'r rheilffordd yn croesi'r afon, yn ogystal a'r briffordd, dros Bont Gethin, un o uchafbwyntiau peiriannyddol y lein, ger Pont y Pant. Ceir gorsafoedd rheilffordd ym mhentref Dolwyddelan gyda gorsafoedd llai ym Mhont y Pant a'r Bont Rufeinig. Rhed priffordd yr A470 trwy'r dyffryn; cafodd ei uwchraddio yn ddiweddar.

Mae hen ffordd Rufeinig Sarn Helen yn rhedeg ar hyd y dyffryn, yn cysylltu caerau Rhufeinig Caerhun a Tomen y Mur. Ym mhen gogleddol y dyffryn ceir y Bont Rufeinig, ond er gwaetha'r enw mae'r bont bresennol yn dyddio i ddechrau'r cyfnod modern.

Ganed Llywelyn Fawr yn Nyffryn Lledr, mewn hen gastell ger safle'r un presennol, yn ôl pob tebyg. Yn ddiweddarach cododd Llywelyn castell Dolwyddelan a ddaeth yn un o brif amddiffynfeydd Tywysogion Gwynedd. Roedd Dyffryn Lledr yn rhan o gwmwd Nant Conwy, un o gymydau cantref Arllechwedd. Roedd y trigolion yn adanbyddus am fod yn arbennig o gydnerth a thal. Roedd ganddynt eu Maes Campau mewn lle o'r enw Gelli'r Llan lle cynhelid chwaraeon ar ddydd Gwylmabsant y plwyf.

Heddiw mae twristiaeth yn elfen bwysig yn economi'r dyffryn.

Tai Hanesyddol golygu

  • Y Fedw Deg

O bapur Bro Yr Odyn Ebrill 1994: Mae'n werth mynd i'r Fedw Deg - Dyffryn Lledr islaw yn agor allan i Ddyffryn Conwy ac ucheldir Dolwyddelan a Chapel Curig yn codi o'ch blaen at Foel Siabod, gyda'r Wyddfa ar y naill ochr iddo a'r Carneddau ar yr ochr arall. Ond mae'r Fedw Deg yn bwysig hefyd am resymau eraill - gwerth pensaerniol yr hen dy a'i gysylltiad hir efo hanes a chwedloniaeth. Mae'r hen dy, y chwalwyd rhannau ohono i godi'r ty presennol, yn dyddio o'r 16g gydag olion adeilad hyn gerllaw. Un o'i nodweddion amlycaf yw'r fynedfa flaen o fwa llechfaen anferth wedi ei gosod ar ddwy golofn lydan, hefyd o lechfaen. Bron nad yw'n atgoffa rhywun o fynedfa i gromlech o'r cyn-oesau! Mae'r lle tan a choed y to gwreiddiol yn dal yno ac yn enghreifftiau gwych o bensaerniaeth cyfnod y Tuduriaid. Yn yr Oesoedd Canol ymddengys bod y Fedw Deg yn perthyn i dywysogion Gwynedd - yn un o'r hafotai a oedd yn cyflenwi Castell Dolwyddelan efallai. Erbyn y 19g roedd yn perthyn i Gruffydd ap Dafydd Goch, wyr i Dafydd arall, sef brawd Llywelyn ein Llyw Olaf. Disgynyddion i'r teulu hwn oedd Gethiniaid y Fedw Deg, y mae carreg fedd iddynt ym Mynwent Penmachno gyda'r dyddiad 1621 arni. Arferai arfbais y teulu o 'lew gwyn rampant ar gefndir coch' fod uwchben eu set yn Eglwys Penmachno tan ganol y ganrif ddiwethaf.

Ond yn ôl at Gruffydd ap Dafydd Goch. Bu'n ymladd yn Ffrainc gyda'r Tywysog Du (ar ochr Lloegr!) yn ystod teyrnasiad Edward III. Gwelir delw ohono yn yr hen eglwys ym Metws-y-Coed yn gwisgo arfwisg milwr, ei draed yn gorwedd ar lew a'i ben ar aderyn a deilen dderw yn ei big gyda'r geiriau HIC IACET GRUFYD AP DAFYDD GOCH AGNUS DEI MISERE MEI - Yma y gorwedd Gruffydd ap Dafydd Goch, bydded Oen Duw yn drugarog wrthyf. Yn ôl y son roedd yn ddyn mawr iawn a chafwyd gryn drafferth i gludo ei gorff i lawr o'i gartref i'w gladdu yn y Betws ar hyd y llwybr serth tuag at Tanrallt, a elwid wedyn ar lafar gwlad yn lwybr Gruffydd ap Dafydd Goch. Cyfeiria Gethin Jones (1816- 1883) at Dafydd Goch Gethin o'r Fedw Deg gan ei gysylltu a chwedl gwiber y Wybrnant. Roedd yn wiber "anferth o faintioli . . . wedi magu esgyll ehedog". Codai ofn ar bawb a phopeth yn y cyffiniau, Yn ffodus daeth Dafydd Goch adref wedi bod yn rhyfela yn Ffrainc a lladdodd y wiber drwy ei saethu a bwa ac yna neidio i'r "llyn sy'n tare ar Ryd y Gynnen" ger Bont y Pandy dros afon Machno rhag ofn i'r wiber, rhwng byw a marw, syrthio ar ei ben a'i wenwyno. Tybiai y byddai llif y dŵr yn golchi unrhyw wenwyn ymaith! Ceir rhagor o gymysgfa o hanes a chwedloniaeth yn gysylltiedig a'r Fedw Deg gan Gethin. Dywed mai'r olaf o deulu'r Gethiniaid i fyw yno oedd Ffowc Gethin, tad i Barbara Ffowc Gethin "y farddones wych honno a syrthiodd mewn cariad a Dafydd Morris, Blaen-y-Cwm" (o Ddol Gam, Capel Curig, yn ol fersiwn R.M. Williams yn Seiri Cerdd Nant Conwy o'r chwedl) a oedd yn gweini yn fferm Glyn Lledr. Roedd Dafydd yn delynor gwych ond gwrthodai teulu Barbara iddi wneud dim ag o, ac fe'i danfon-wyd i Langelynnin ger Conwy lle y bu farw wedi torri ei chalon. Dyma fersiwn Gethin o ddau o'r penillion adnabyddus a ganodd Barbara i'w chariad: Telyn wen yn llawn o danau Wnaed yng Nghoed y Glyn yn rhywle Ac mae'n rhaid bod honno'n hwylus o waith dwylaw Daf'ydd Moryss Dafydd Morus a'i fwyn delyn Gwyn fy myd pe cawn dy ganlyn Ac yn y nos bod yn dy freichiau A dawnsio'r dydd lie canet tithau. Dywed Gethin i ddau frawd Barbara gael eu lladd yn ymladd "!yn rhyfel Yspaen" ac felly "darfu am hen linach wronaidd y Cethiniaid". Daeth stad y Fedw Deg yn eiddo i Dafydd Price, Pennant, Ysbyty Ifan o linach Elis Prys, y 'Doctor Coch'. Parhaodd ym meddiant y Priceiaid hyd at 1845 pan werthwyd y stad "o dyddyn i dyddyn", nes gwerthu'r olaf un, sef Tyddyn Gethin i Gethin Jones ei hun ym 1852 Gyda choed pinwydd o amgylch y Fedw Deg ers blynyddoedd bellach, prin fod bedwen i'w gweld ond yn sicr mae'r tegweh yno o hyd a rhyw rin arbennig sy'n tywys ein meddyliau'n ol dros y canrifoedd.[1]

Darllen pellach golygu

  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947). Gweler 'Dolwyddelan'.

Cyfeiriadau golygu

  1. O bapur Bro Yr Odyn, Ebrill 1994