Agor y brif ddewislen

Pentref bychan a phlwyf ym Mhowys yw Pilalau (Saesneg: Pilleth). Saif i'r de-orllewin o Drefyclawdd ac i'r de o'r briffordd A488, gyda Afon Llugwy yn llifo gerllaw.

Pilalau
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.3063°N 3.0905°W Edit this on Wikidata
Eglwys Pilalau

Ychydig i'r gorllewin o'r pentref saif bryn o'r enw Bryn Glas. Hwn oedd safle Brwydr Bryn Glas, neu Frwydr Pilleth yn Saesneg, ar 22 Mehefin 1402, pan orchfygodd Owain Glyndŵr fyddin Seisnig fwy niferus dan Edmund Mortimer. Saif eglwys y plwyf, Eglwys y Santes Fair, ar y bryn yma yn hytrach nag yng nghanol y pentref. Credir fod y sefydliad yn un cynnar, ac roedd ffynnon santaidd yma. Dyddia'r eglwys bresennol o'r 13g yn bennaf, a'r tŵr o'r 14g.

Yn y 19g cafwyd hyd i lawer o esgyrn heb fod ymhell o'r eglwys, lladdedigion y frwydr yn ôl pob tebyg, a phlannwyd coed Wellingtonia i nodi'r fan. Mae'n rhain yn awr yn nodwedd amlwg.