Bwrdeisdrefi Aberteifi (etholaeth seneddol)
Roedd Bwrdeisdrefi Aberteifi yn etholaeth fwrdeistrefol a oedd yn ethol aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin ers ei chreu ym 1542 hyd iddi gael ei diddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1885.
Math o gyfrwng | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Daeth i ben | 18 Tachwedd 1885 |
Dechrau/Sefydlu | 1801 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Cymru |
Roedd yr etholfraint yn cynnwys rhydd-ddeiliaid bwrdeistrefi Aberteifi, Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Adpar. Diddymwyd yr etholaeth ym 1885 gan uno'r etholaeth ag etholaeth sirol Ceredigion
Aelodau Seneddol
golygu- 1542 - 1545 anhysbys
- 1545 - 1547 Jenkin ap Rhys
- 1547 - 1552 ansicr John Cotton neu Gruffudd Done
- 1553 Edward ap Hywel
- 1553 John Gwyn
- 1554 John Powell
- 1554 - 1555 ansicr John Powell neu John Gwyn
- 1555 -1559 Thomas Phaer
- 1562- 1567 John Gwyn
- 1571 - 1583 Edward Davies
- 1584 - 1587 Francis Cheyne
- 1588 -1593 Alban Stepneth
- 1593 - 1597 Syr Ferdinando Gorges
- 1597 - 1601 Thomas Rawlins
- 1601 William Aubrey
- 1601 – 1604 ansicr Richard Delabere o bosib
- 1604 1614 William Bradshaw
- 1614 - 1620 Robert Wolverstone
- 1620 – 1624 Walter Overbury
- 1624 - 1625 Rowland Pugh
- 1626 - 1628 Walter Overbury
- 1628 - 1645 John Vaughan
- 1645 – 1646 Dim cynrychiolaeth
- 1646 - 1653 Thomas Wogan
- 1653 – 6859 Dim cynrychiolaeth
- Ionawr 1659 y Cyrnol Rowland Dawkins
- Mai 1659 – 1660 Dim cynrychiolaeth
- 1660 - 1663 James Philipps
- 1663 - 1679 Syr Charles Cotterell
- 1679 - 1693 Hector Phillips
- 1693 - 1698 John Lewis
- 1698 - 1701 Syr Charles Lloyd
- 1701 - 1705 Henry Lloyd
- 1705 – 1710 Lewis Pryse
- Chwefror – Hydref 1710 Simon Harcourt (Tori)
- 1710 - 1712 John Meyrick
- 1712 - 1713 Owen Brigstocke
- 1713 -1715 Syr George Barlow
- 1715 – 1725 Stephen Parry
- 1725 – 1727 Thomas Powell
- 1727 – 1729 Francis Cornwallis
- 1729 - 1741 Richard Lloyd
- 1741 - 1746 Thomas Pryse
- 1746 - 1761 John Symmons
- 1761 - 1768 Syr Herbert Lloyd
- 1768 - 1769 Pryse Campbell
- 1769 - 1774 Ralph Congreve
- 1774 - 1775 Syr Robert Smyth
- 1775 - 1782 Thomas Johnes
- 1782 - 1796 John Campbell
- 1796 - 1818 John Vaughan
- 1818 - 1849 Pryse Pryse (Rhyddfrydwr)
- 1849 - 1855 Pryse Loveden (Rhyddfrydwr)
- 1855 - 1857 John Lloyd Davies (Ceidwadwr)
- 1857 - 1868 Edward Lewis Pryse (Rhyddfrydwr)
- 1868 - 1874 Syr Thomas Davies Lloyd (Rhyddfrydwr)
- 1874 - 1885 David Davies (Rhyddfrydwr )
1885 Diddymu'r etholaeth
Etholiadau
golyguEtholiad 1812
golyguEtholiad cyffredinol 1812: Aberteifi | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
dim | Yr Anrhydeddus John Vaughan | 588 | 53.6 | ||
dim | Yr Uwchgapten Herbert Evans | 508 | 46.4 | ||
Mwyafrif | 80 |
Ni fu etholiad cystadleuol arall yn yr etholaeth hyd 1841.
Etholiadau yn y 1840au
golyguEtholiad cyffredinol 1841: Aberteifi
Nifer pleidleiswyr 832 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Pryse Pryse | 305 | 51.7 | ||
Ceidwadwyr | John Scandrett Harford | 285 | 48.3 | ||
Mwyafrif | 20 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Yn wreiddiol cyhoeddwyd bod Harford, y Ceidwadwr wedi ennill o 226 i 163 cyn canfod bod llyfrau pôl Aberystwyth wedi eu colli neu (yn ôl rai) wedi cael eu dwyn gan gefnogwyr yr ymgeisydd Ceidwadol. Fel prawf eu bod ill ddau yn derbyn mae amryfusedd oedd yn gyfrifol talodd y ddau ymgeisydd rhyngddynt am bâr o sbectol newydd i faer Aberteifi, i sicrhau ei fod yn gallu gweld lleoliad pob llyfr pôl yn y dyfodol [1]
Ail etholwyd Pryse Pryse yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1847 ond bu farw ym 1849 a chynhaliwyd isetholiad ym 1849 a gystadlwyd gan ei fab Pryse Pryse, a newidiodd ei enw yn fuan wedi'r etholiad i Pryse Loveden. Er mwyn gwahaniaethu defnyddir ei enw newydd yn y blwch etholiadol isod a'r rhestr ASau uchod.
isetholiad Bwrdeistrefi Aberteifi 1849 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Pryse Loveden | 299 | 50.7 | ||
Ceidwadwyr | John Scandret Harford | 291 | 49.3 | ||
Mwyafrif | 8 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiadau yn y 1850au
golyguEtholiad cyffredinol 1852: Aberteifi [2]
Nifer pleidleiswyr 849 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Pryse Loveden | 299 | 51.5 | ||
Ceidwadwyr | John Inglis Jones | 282 | 48.6 | ||
Mwyafrif | 17 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Bu farw Pryse Loveden ar 1 Chwefror 1855 [3] a chynhaliwyd isetholiad ar 24 Chwefror 1855.
Isetholiad Bwrdeistrefi Aberteifi 1855 [4]
nifer etholwyr = 849 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | John Lloyd Davies | 298 | 51.1 | ||
Rhyddfrydol | John Evans | 286 | 48.9 | ||
Mwyafrif | 12 | ||||
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1859: Aberteifi | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Edward Lewis Pryse | diwrthwynebiad | |||
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr | Gogwydd |
0'r 1860au hyd diddymu'r sedd
golyguIsetholiad 1855 oedd yr etholiad cystadleuol olaf i'w cynnal yn yr etholaeth. Cafodd Edward Pryse ei ail ethol yn ddiwrthwynebiad ym 1865; fe'i olynwyd gan Syr Thomas Davies Lloyd ar ran y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1868. Cafodd David Davies ei ethol ar ran y Rhyddfrydwyr ym 1874 a 1880, diddymwyd y sedd ar adeg etholiad cyffredinol 1885.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Notitle - The Cambrian". T. Jenkins. 1841-11-06. Cyrchwyd 2019-11-20.
- ↑ Seren Cymru 22 Gorffennaf 1852 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3160984/ART40 adalwyd Ion 7 2014
- ↑ Deaths of Note yn y Monmouthshire Merlin 16 Chwefror 1855 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3396266/ART14 adalwyd 7 Ion 2014
- ↑ Cardigan Election yn Pembrokeshire Herald and General Advertiser 2 Mawrth 1855 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3054378/ART48 adalwyd 7 Ion 2014