Carw

(Ailgyfeiriad o Ceirw)
Ceirw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Is-urdd: Ruminantia
Teulu: Cervidae
Goldfuss, 1820
Is-deuluoedd

Capreolinae
Cervinae
Hydropotinae
Muntiacinae

Mamal sy'n perthyn i'r teulu Cervidae yw carw. Mae e'n byw mewn coedwigoedd a chaiff ei hela. Mae pâr o reiddiau gyda gwryw bron pob rhywogaeth.

Hyd at yr 16g parhâi'r carw coch (enw gwyddonol: Cervus elaphus) a'r iwrch (C. capreolus) yn gyffredin yn yr ucheldiroedd, ond yn sgîl clirio coedwigoedd a dyfodiad y gwn prinhaodd y ddau, gan ddiflannu o'r gwyllt ddechrau'r 18g. Cawsant loches mewn parciau stadau, o ble y dihangodd amryw o bryd i'w gilydd. Ceir cofnodion gwasgaredig o'r carw coch tra cynydda ac ymleda'r iwrch o'r dwyrain.

Enwau lleoedd: Cerrig yr Iwrch (Meirion), Llyn Carw (Brycheiniog).

Cyflwynwyd y danas (Dama dama) i Brydain gan y Normaniaid a daeth i barciau stadau yng Nghymru tua 1600. Dihangodd rhai, e.e. o'r Gelli Aur yn y 1950au a Nannau yn 1962 gan sefydlu'n llwyddiannus yn y gwyllt. Erbyn hyn fe'u ceir ym Meirion, Clwyd, y Gororau, Morgannwg a Chaerfyrddin.

Yn hanner ola'r 20g ymledodd y carw mwntjac (Muntiacus reevesi) i Gymru. Daeth i Barc Woburn o Tsieina yn nechrau'r 20g o ble y dihangodd ac ymledu'n gyflym.

Carw Coch Cervus elaphus

golygu

Y mwyaf o’r ceirw sy’n gynhenid neu sydd wedi eu cyflwyno i Brydain. Rhywogaeth Holarctig wedi ei ddosbarthu dros Ewrop, y rhan fwyaf o fynydd-dir Asia, Siberia, y Dwyrain Pell a Gogledd America. Wedi ei gyflwyno i Iwerddon, Chile, Ariannin, Awstralia a Seland Newydd. Yn Ewrop ymhobman ac eithrio gogledd Scandinafia, y Ffindir a rhai ynysoedd Môr y Canoldir. Mae’n ddiflanedig yn Albania.

Cynefin

golygu

Yn wreiddiol trigai mewn coetiroedd collddail ond heddiw mynycha amrywiol gynefinoedd o goedwigoedd, fforestydd mynydd neu weundir agored (yr Alban). Anifail nosol gan fwyaf, yn ymborthi trwy bori a brig-bori.

Ffordd o fyw

golygu

Rhywogaeth gymdeithasol, yn byw mewn gyrroedd, y ddau rhyw ar wahan am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Maint y libart yn amrywio yn ôl tymor a rhyw ac yn gallu ymestyn dros gannoedd o hectarau mewn dwysder o 5 i 45 unigolyn y cilomepdr sgwâr.[1]

Statws yng Nghymru

golygu

Mae hanes y carw coch yn cychwyn yn ar ôl enciliad olaf y rhew yn ôl tystiolaeth olion archaeolegol mewn mawndir. Nid oes poblogaeth hyfyw yma ers rhai canrifoedd ond mae’r cofnod hanesyddol canlynol yn awgrymog o’r anawsterau wrth geisio dirnad gwir statws y carw coch yn y cyfnod hanesyddol hyd y presennol. Cofnod yw gan ddyddiadurwr o’r enw Owen Edwards, Penmorfa, Sir Gaernarfon yn cychwyn yn y flwyddyn 1820:

Elin a minau yn mynd yn y Prydnhawn i Dy Mr. Owen Aberglaslyn yn gweled yno ddarn o asgwrn pen Carw a dau gorn y’nghlwm [sic] ynddo yn ddwy droedfedd o hyd a phedair Caingc [sic] ar bob un ac yn ddwyfodfeddarbymtheg a hanner o led o flaen i flaen wedi eu cael yn llyn Cerrigyrhwydwr wrth dynnu rhwyd ychydig o ddyddiau yn ôl gan Richd. William Tailiwr sydd yn byw yn Aberglaslyn. tebygyd ar yr olwg oedd arno ei fod yno er’s amryw flynyddau!!! Yn dyfod adref cyn naw o’r gloch.

Mae trafodaeth am arwyddocâd y cofnod hwn gan y daearegydd y Dr. Math Williams [2] yn amlygu’r anawsterau hyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Mitchell-Jones, A.J. ac eraill (1999) The Atlas of European Mammals (T. & A.D Poyser)
  2. [1]]Llyfrgell gwefan Llên Natur
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Chwiliwch am carw
yn Wiciadur.