Cernyweg
Mae Cernyweg (Kernewek, Kernowek, neu Curnoack[2]) yn iaith Geltaidd. Bu'r iaith farw ond mae wedi cael adfywiad dros y ganrif ddiwethaf ac mae tua mil o bobl yng Nghernyw yn siarad Cernyweg. Mae'n bosibl gwrando ar y newyddion yn Gernyweg ar BBC Radio Cornwall bob nos Sul. Mae'n hynod ddiddorol i siaradwyr Cymraeg wrando arno, gan ei bod ar adegau'n swnio fel Cymraeg.
Cernyweg | ||
---|---|---|
Kernewek, Kernowek | ||
Siaredir yn | Y Deyrnas Unedig | |
Rhanbarth | Cernyw | |
Cyfanswm siaradwyr | 2,000 rhugl[1] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
System ysgrifennu | Yr wyddor Ladin | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Dim | |
Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn | Y Deyrnas Unedig | |
Rheoleiddir gan | Partneriaeth yr Iaith Gernyweg (Cernyweg: Keskowethyans an Taves Kernewek) | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | kw | |
ISO 639-2 | cor | |
ISO 639-3 | cor | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Mae'n bosib dysgu'r iaith drwy'r rhyngrwyd, drwy ddefnyddio Kernewek Dre Lyther lle ceir nifer o wersi ar ffurf Adobe Acrobat. [angen ffynhonnell]
Hanes
golyguMae'r Gernyweg yn hanu o iaith Brythoniaid de-orllewin Prydain, a gafodd eu gwahanu o Frythoniaid y Gorllewin (y Cymry) wedi brwydr Deorham, ym 577. Aeth tiriogaeth y Brythoniaid yn y de-orllewin yn llai ac yn llai nes oddeutu 810, pan goncrwyd Dyfnaint gan y Sacsoniaid gan adael Cernyw yn unig yn nwylo'r Brythoniaid. Concrodd Athelstan, brenin y Sacsoniaid, Gernyw tua 920, ond ni wladychwyd y wlad gan Saeson fel y digwyddodd yn y rhan fwyaf o Loegr, ac Athelstan a wnaeth Afon Tamar yn ffin rhwng y Saeson yn Nyfnaint a'r Brythoniaid yng Nghernyw. Er hyn, parhaodd yr iaith i fyw hyd o leiaf y ddeunawfed ganrif, gan gyrraedd uchafbwynt o oddeutu 38,000 o siaradwyr (amcangyfrif Ken George) yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y 1700au gan yr ieithydd o Gymro, Edward Lhuyd. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn diflannu'n gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath, a fu farw ym 1777. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19g. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vednav kows Sowsnek!" — "dwi ddim isio siarad Saesneg!" — roedd hi'n gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676. Canrif yn ddiweddarach (1776), ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i'r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben — poble coath, pager egance blouth; Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk ("Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tre ni, sy'n gallu sgwrsio Cernyweg ar hyn o bryd — hen bobl, pedwar ugain blwydd; Cernyweg yw angofiedig yn hollol wrth y bobl ieuanc").
Adfywiad
golyguAr ddechrau'r ugeinfed ganrif, gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y dauddegau, sefydlwyd Gorsedh Kernow - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr Eisteddfod yng Nghymru. Ym 1967, sefydlwyd Kesva an Taves Kernewek — Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd cynorthwyo pobl Cernyw, ac eraill, i ddysgu a siarad y iaith. Ym 1979 sefydlwyd Kowethas an Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg) i gynrychioli y rhai sy'n siarad a dysgu yr iaith, i gyd a'i hybu mewn sefyllfaoedd pob dydd. Mae'r Gowethas yn gymdeithas agor i bawb o blaid y Gernyweg, a'i haelodau yn ffurfio etholaeth am y Gesva (Bwrdd yr Iaith).
Mae'r cofnod cynharaf yn y Gernyweg sydd wedi goroesi i'w ganfod mewn llawysgrif Lladin a luniwyd yn y 9g,[3] ond ni ddatblygodd orgraff safonol yn y Gernyweg fel ag a ddigwyddodd yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae pedair ffordd o ysgrifennu Cernyweg.
Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio "Kernewek Kemmyn", sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Cernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig.
Kernewek Unyes ("Cernyweg Unedig"), y ffurf a ddyfeisiwyd gan Robert Morton Nance yn bennaf, gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni, oedd y ffurf a ddefnyddiwyd dros y rhan fwyaf o'r 20g. Hyrwyddwyd y ffurf hon gan Agan Tavas.
Ym 1986 datblygodd Ken George, awdur Gerlyver Kernewek-Sawsnek Kernewek Kemmyn (yn llythrennol Cernyweg Cyffredin). Fe fabwysiadwyd y system gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg, ac mae hyd at 80% o ddysgwyr a siaradwyr Cernyweg yn ei ddefnyddio.
Yn y 90au datblygwyd ffurf adolygedig o Kernewek Unyes, UCR ("Unified Cornish Revised"), gan Nicholas Williams, wedi'i seilio ar destunau o gyfnod ychydig yn ddiweddarach yn yr 16g. Cyhoeddwyd geiriadur mewn UCR yn 2000.
Ac yn olaf, gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr 17eg a'r 18goedd. Dyma'r ffurf a adferwyd yn yr 80au o dan yr enw Curnoack Nowedga ("Cernyweg Modern") gan Richard Gendall ac eraill. Mae orgraff Cernyweg Diweddar yn edrych yn aml yn debycach i orgraff y Saesneg.
Mae'r Testament Newydd wedi'i gyfieithu i Kernewek Kemmyn, ac i UCR.
Mae'r dadlau sydd wedi bod rhwng cefnogwyr y ffurfiau gwahanol wedi'i ganoli yn helaeth ar y cwestiwn i ba raddau, wrth adfer iaith farw, y dylid glynu wrth orgraff y testunau ysgrifenedig sydd ar gael o'r cyfnod pan oedd yr iaith yn fyw, ac i ba raddau mae'n deg i sillafu geiriau er mwyn dangos eu seiniau tybiedig. Ar ôl cyfnod o ymgynghori, cyhoeddoedd Partneriaeth yr Iaith Gernyweg orgraff i gael ei defnyddio'n swyddogol o'r enw'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol yn 2008 ac fe'i hadolygwyd yn 2013.
Yn 2015 gosododd Cyngor Cernyw gynllun iaith ar gyfer y Gernyweg i "hybu a hyrwyddo'r iaith". Ond roedd ymgyrchwyr, fel Loveday Jenkin, am weld mwy o wario ar addysg yn yr iaith gan nodi nad oedd buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cernyweg.[4]
Enghreifftiau
golyguMae'r rhestr yma yn cymharu Cernyweg (mewn "Furv Scrifys Savonek" — "ffurflen ysgrifenedig safonol") gyda'r ddwy iaith Frythoneg arall, Cymraeg a Llydaweg.
Cernyweg (orgraff safonol) | Cymraeg | Llydaweg |
---|---|---|
Kernowek/Kernewek | Cernyweg | Kerneveureg |
gwenenen | gwenynen | gwenanenn |
kador | cadair | kador |
keus | caws | keuz |
yn-mes | mas, allan | er-maez |
kodha | cwympo, syrthio | kouezhañ |
gaver | gafr | gavr |
chi | tŷ | ti |
gweus | gwefus | gweuz |
aber | aber | aber |
niver | nifer, rhif | niver |
peren | peren, gellygen | perenn |
skol | ysgol | skol |
megi | mygu | mogediñ |
steren | seren | steredenn |
hedhyw | heddiw | hiziv |
hwibana | chwibanu | c'hwibanat |
Gramadeg
golyguTreigladau
golyguFel Llydaweg, mae gan yr iaith Gernyweg pedwar treiglad; y treiglad meddal (treylyans medhel), y treiglad caled (treylyans kales), y treiglad llaes (treylyans hwythys) ac y treiglad cymysg (treylyans kemmysk).
Heb dreiglad | Meddal | Caled | Llaes | Cymysg |
---|---|---|---|---|
b | v | p | - | f |
d | dh | t | - | t |
g | diflannith/w | k | - | h/hw |
gw | w | kw | - | hw |
p | b | - | f | - |
t | d | - | th | - |
k | g | - | h | - |
m | v | - | - | f |
ch | j | - | - | - |
Beth yw'r gair am (yn yr orgraff safonol)
golygu- Bore da — Myttin da
- P'nawn da — Dohajydh da
- Noswaith dda — Gorthugher da
- Nos da — Nos da
- Sut wyt ti? — Fatla genes? (Sut gennyt ti?)
- Iawn diolch — Yn poynt da, meur ras (Ym mhwynt da, gras mawr)
- Diolch — Meur ras (Gras mawr)
- Os gwelwch yn dda — Mar pleg (Os boddlonith/Os boddith)
- Iawn boi? — Hou sos?
- Pwy wyt ti? — Piw os ta?
- Aled ydw i — Aled ov vy
- Rydw i'n dda iawn, diolch, a ti? — Yn poynt da ov vy meur ras, ha ty? (Ym mhwynt da ydw i, gras mawr, a ti?)
- Ble wyt ti'n byw? — Ple a drig'ta? (Ble a drigi di?)
- Rydw i'n byw yng Nghaerdydd — My a drig yn Kerdydh (Mi a drig yng Nghaerdydd)
- Rydw i'n hoffi — Da yw genev vy (Da yw gennyf i)
- Hoffwn i — My a vynnsa (Mi a fynnai)
- A elli di? — A yll'ta?
- Gallaf i — My a yll (Mi a all)
- Allaf i ddim — Ny allav vy
- Mae rhaid i fi — Res yw dhymm (Rhaid yw i fi/i mi)
- Beth ydy/yw? — Pyth yw?
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 'South West:TeachingEnglish:British Council:BBC , BBC/Gwefan y Cyngor Prydeinig, BBC. Cyrchwyd ar 9 Chwefror 2010.
- ↑ Rhagair i eiriadur Nicholas Williams: Saesneg-Cernyweg; golygydd: Michael Everson; adalwyd 27 Awst 2012.
- ↑ Copi o De Consolatione Philosophiae gan Boethius yw'r llawysgrif. Mae'r nodyn Cernyweg ud rochashaas i'w weld uwchben y Lladin y mae'n ei gyfieithu. Gweler: Sims-Williams, P. 'A New Brittonic Gloss on Boethius: ud rocashaas', Cambrian Medieval Celtic Studies 50 (Winter 2005), 77-86.
- ↑ "Kowsva Resrudh - Cornwall Council adopts a Cornish Language Plan". Newyddion S4C ar Youtube. 7 Tachwedd 2015.
Dolenni allanol
golygu- Ferdinand, Siarl (2013). Brief History of the Cornish language, its Revival and its Current Situation. E-Keltoi, Vol. 2, 2 Dec. pp. 199-227
- Geiriadur Cernyweg
- Partneriaeth yr Iaith Gernyweg Archifwyd 2017-01-12 yn y Peiriant Wayback
- Cymdeithas yr Iaith Gernyweg (Cernyweg/Saesneg).
- Kernewek dre Lyther (Cwrs Cernyweg drwy'r We)
- Bwrdd yr Iaith Gernyweg (yn Saesneg)[dolen farw]
- Cyfieithiad o'r Beibl yn Gernyweg
- Geiriadur ar lein Archifwyd 2017-01-27 yn y Peiriant Wayback
- Newyddion yn Gernyweg (o'r BBC)
- Newyddion yn Gernyweg
- Testunau Hanesyddol Archifwyd 2008-05-14 yn y Peiriant Wayback
- Anthem yn Gernyweg gyda tiwn adnabyddus
- "Y Gernyweg: tranc iaith": Traethodydd - - Cyf. Ref. CXI (XXIV) (478-481) - 1956 CXI (XXIV) (478-481) - 1956
Cyswllt
golyguv · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |