Società Dante Alighieri
Mae'r Società Dante Alighieri ('Cymdeithas Dante Alighieri') yn gymdeithas sy'n hyrwyddo diwylliant yr Eidal a'r iaith Eidaleg ledled y byd. Heddiw mae'r gymdeithas hon yn bresennol mewn mwy na 60 o wledydd. Mae'r sefydliad yn aelod o European Union National Institutes for Culture.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad, archif |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1889 |
Isgwmni/au | Biblioteca della Società Dante Alighieri. Comitato di Bologna |
Pencadlys | Rhufain |
Enw brodorol | Società Dante Alighieri |
Gwladwriaeth | yr Eidal |
Rhanbarth | Rhufain |
Gwefan | https://ladante.it |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i ffurfiwyd yn yr Eidal ym mis Gorffennaf 1889. Enwyd y gymdeithas ar ôl Dante Alighieri (1265–1321), bardd cyn-Eidaleg y Dadeni o Fflorens ac awdur La Divina Commedia. Ystyrir Dante yn dad i'r iaith Eidaleg safonol. Mae pencadlys y gymdeithas yn Rhufain, yn Palazzo Firenze.
Ceir hefyd Istituto Italiano di Cultura, sydd yn sefydliad arall annibynnol o'r Società.
Rôl ddiwylliannol Dante Alighieri
golyguUnig ddiben Cymdeithas Dante Alighieri yw "hyrwyddo astudiaeth o'r iaith a'r diwylliant Eidalaidd ledled y byd ... pwrpas sy'n annibynnol ar ideolegau gwleidyddol, tarddiad cenedlaethol neu ethnig neu gredoau crefyddol, a bod y Gymdeithas yn gysylltiad rhydd o pobl – nid Eidalwyr yn unig – ond pawb ym mhobman sydd wedi'u huno gan eu cariad at ieithoedd a diwylliant yr Eidal ac ysbryd dyneiddiaeth gyffredinol y mae'r rhain yn ei gynrychioli".
Mae'r gymdeithas yn gweithredu ledled y byd, gyda changhennau o Awstralia i'r Unol Daleithiau.[1] Mae llawer o gymdeithasau yn cynnig cyrsiau iaith, yn amrywio o Eidaleg twristiaid a dechreuwyr i lenyddiaeth uwch, yn ogystal â'u gweithgareddau diwylliannol.
Hanes
golyguDyfeisiwyd a cynigiwyd y syniad o greu'r Gymdeithas ym Macerata ym 1888 gan yr irendentydd (ymgyrchydd dros uno holl diroedd hanesyddol siaradwyr Eidaleg) y gŵr o ddinas Trieste (oedd ar y pryd, ddim yn rhan o'r Eidal ond o Ymerodraeth Awstria-Hwngari, Giacomo Venezian. Roedd ar y pryd yn athro'r gyfraith yn mhrifysgol y ddinas honno ac yna'n wirfoddolwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf lle laddwyd. Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1889 gan grŵp o ddeallusion dan arweiniad Giosuè Carducci gyda'r "Maniffesto i'r Eidalwyr". Cododd y Gymdeithas yn ei statws gydag Archddyfarniad Brenhinol dyddiedig 18 Gorffennaf 1893, rhif 347, ac yna gyda archddyfarniad deddfwriaethol rhif 186 dyddiedig 27 Gorffennaf 2004 a arweiniodd i'r corff newydd gael ei gymathu yn rhan o strwythur a phwrpas i'r ONLUS.
Mae cysylltiad agos rhwng hanes y Gymdeithas a'r hunaniaeth Eidalaidd ac ysbryd cenedlaetholgar y cyfnod yn dilyn y Risorgimento. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf ochrodd y Società Dante yn frwd o blaid yr ymyrraeth ac yn yr ugain mlynedd symudodd i safbwyntiau gwleidyddol-ddiwylliannol ffasgiaeth, gan gydweithio'n agos â'r Sefydliadau Diwylliant Ffasgaidd. Dim ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd y bu i'r gymdeithas ysgwyd y cymynroddion hyn a mynd ati i hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Eidalaidd yn yr Eidal ac yn y byd.
Ym 1921 roedd y gymdeithas yn hyrwyddwr cyhoeddi cyfres o stampiau yn coffáu chwechanmlwyddiant marwolaeth Dante Alighieri.
Ei phrif bwrpas, fel y nodir yn erthygl 1 o'r Erthyglau Cymdeithasu, yw "amddiffyn a lledaenu'r iaith a'r diwylliant Eidalaidd yn y byd, gan adfywio cysylltiadau ysbrydol cydwladwyr dramor â'r famwlad a meithrin cariad ac addoliad ymhlith tramorwyr at Wareiddiad Eidalaidd".
Er mwyn cyflawni'r nodau hyn, mae Dante Alighieri yn dibynnu ar bron i 500 o bwyllgorau, y mae 400 ohonynt yn weithgar dramor.
Strwythur
golyguMae'r pwyllgorau'n trefnu cyrsiau Eidaleg a digwyddiadau diwylliannol o wahanol fathau, o gelf ffigurol i gerddoriaeth, o chwaraeon i sinema, o theatr i ffasiwn, hyd at lenyddiaeth. Ar ben hynny, trwy'r Pwyllgorau dramor, mae'r "Dante Alighieri" yn sefydlu ysgolion a llyfrgelloedd, yn lledaenu llyfrau a chyhoeddiadau, yn hyrwyddo cynadleddau, gwibdeithiau diwylliannol a digwyddiadau artistig a cherddorol, ac yn neilltuo gwobrau ac ysgoloriaethau.
Ym mis Hydref 1948 ailstrwythurwyd y gymdeithas mewn cyfarfod yn Fenis i roi ymreolaeth lwyr i bob pennod o Gymdeithas Dante fel y gallai pob un gynnal ei gweithgareddau yn annibynnol, o dan gyfarwyddyd ei swyddogion etholedig ei hun, mewn modd a oedd yn gweddu orau i anghenion lleol, hoffterau, a galluoedd tra'n cadw at egwyddorion sylfaenol y Gymdeithas.
Dysgu Eidaleg
golyguMae gan y Dante Alighieri ei Dystysgrif ei hun (y PLIDA) i ardystio gwybodaeth o'r iaith Eidaleg. Mae Tystysgrif PLIDA yn deitl swyddogol sy'n gwbl ddilys ledled y byd; mewn gwirionedd mae'n cael ei gydnabod gan Weinyddiaeth Materion Tramor yr Eidal ac mae ganddi gymeradwyaeth wyddonol Prifysgol La Sapienza. Mae Tystysgrif PLIDA yn seiliedig ar feini prawf yr Undeb Ewropeaidd ac wedi'i chynnwys yn y CEFR (Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd). Mae chwe lefel o PLIDA (o'r dechrau i'r mwyaf datblygedig): A1, A2, B1, B2, C1, C2.
Gwobrywo
golyguYn 2005, dyfarnwyd Gwobr Tywysog Asturias ar gyfer Cyfathrebu a'r Dyniaethau i Gymdeithas Dante Alighieri (ynghyd â'r Alliance française, y Cyngor Prydeinig, y Goethe-Institut, yr Instituto Camões a'r Instituto Cervantes.
Gweler hefyd
golyguSefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill
golyguMae'r Società Dante Alighieri yn debyg i sawl sefydliad gan genedl-wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dante Alighieri Society plans Columbus Day parade in Jersey City on Sunday". NJ.com. 2011-10-07. Cyrchwyd 2013-09-08.