Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 ar 1 - 8 Awst 2015 ger Meifod, Powys. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi yn Y Drenewydd ar 5 Gorffennaf 2014[2].
Llywydd yr Ŵyl oedd R. Alun Evans o Gaerdydd, gweinidog a darlledwr a weithiodd gyda'r BBC am dros 30 mlynedd.
Yn y seremoni derbyn aelodau newydd i'r Orsedd fore Llun, fe alwodd yr Archdderwydd Christine James ar Gymru i "ddeffro" ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros "warchod ein gwlad" wedi i Gymru golli cynifer o gewri yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyfeiriodd at farwolaethau pobl amlwg gan gynnwys John Davies, Meredydd Evans, R. Geraint Gruffydd, Harri Pritchard Jones, Osi Osmond a John Rowlands a dywedodd fod "bwlch anferth" ar eu holau, sydd angen ei lenwi.
Prif gystadlaethau
golyguGwobr Goffa Daniel Owen
golyguEnillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Mari Lisa gyda chyfrol o'r enw Veritas.
Y Fedal Ryddiaith
golyguDyfarnwyd y Fedal Ryddiaith i Tony Bianchi ('Mab Afradlon') am nofel ar y thema 'Dwy' neu 'Dau'. Teitl y gyfrol fuddugol oedd Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands
Anrhydeddau'r Orsedd
golyguYmysg y rhai gafodd eu derbyn i Orsedd y Beirdd drwy anrhydedd oedd y cyflwynydd teledu, Alex Jones, llywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin, y gantores werin Siân James a'r cerddor a chynhyrchydd, Endaf Emlyn[3].
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod ym Maldwyn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ffigurau Ymwelwyr 2015. Eisteddfod Genedlaethol. Adalwyd ar 4 Awst 2016.
- ↑ "Gorymdaith i ddathlu cyhoeddi Eisteddfod 2015". BBC Cymru Fyw. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Cyhoeddi urddau'r Orsedd yn Eisteddfod 2015". Eisteddfod Genedlaethol. 2015-05-07. Unknown parameter
|published=
ignored (help)[dolen farw]
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Eisteddfod y BBC
- Llais y Maes Blog gan fyfyrwyr newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd