Nofelydd, newyddiadurwr, ac ysgrifwr yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Ernesto Roque Sabato (sillefir yn aml Sábato; 24 Mehefin 191130 Ebrill 2011). Mae ei ffuglen yn nodedig am ei themâu athronyddol a seicolegol. Roedd yn un o brif lenorion y boom latinoamericano ac yn un o'r ffigurau pwysicaf yn llên yr Ariannin yn yr 20g.

Ernesto Sabato
GanwydErnesto Roque Sabato Edit this on Wikidata
24 Mehefin 1911 Edit this on Wikidata
Rojas Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 2011 Edit this on Wikidata
o broncitis Edit this on Wikidata
Santos Lugares Edit this on Wikidata
Man preswylSantos Lugares Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
AddysgDoethur Athroniaeth Ffiseg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidad Nacional de La Plata
  • Prifysgol Harvard
  • Rafael Hernández National College Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd, llenor, arlunydd, nofelydd, awdur ysgrifau, bardd, athro Edit this on Wikidata
Blodeuodd1932, 2004 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Buenos Aires
  • Universidad Nacional de La Plata Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEl Túnel, On Heroes and Tombs, Abaddón el exterminador Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, traethawd Edit this on Wikidata
PlantMario Sábato, Jorge Federico Sabato Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, honorary doctorate of the University of Murcia, Menéndez Pelayo International Prize, Gwobr Miguel de Cervantes, Gold Medal of the Círculo de Bellas Artes, Prif Anrhydedd y SADE, Q130852616 Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd Ernesto Roque Sabato ar 24 Mehefin 1911 yn Rojas, Talaith Buenos Aires, yr Ariannin. Mewnfudwyr Eidalaidd oedd ei rieni, ac er sillefir ei enw yn aml gydag acen ddyrchafedig ar y llafariad gyntaf, yn ôl yr orgraff Sbaeneg, ysgrifennodd Sabato ei hun ei enw yn y dull Eidaleg, heb yr acen.[1] Cafodd ei ddenu gan ddiwylliant deallusol y brifddinas Buenos Aires yn ystod ei ieuenctid. Astudiodd ffiseg a mathemateg ym Mhrifysgol Genedlaethol La Plata o 1929 i 1936.[2]

Daeth Sabato yn gyfarwydd â syniadau radicalaidd yr adain chwith yn gyntaf tra'r oedd yn fyfyriwr yn La Plata. Dygwyd comiwnyddiaeth a delfrydau Chwyldro Rwsia i'r Ariannin gan filoedd o fewnfudwyr Ewropeaidd yn y 1920au. Canolfan allforio'r diwydiant cig oedd La Plata, ac yno pigwyd cydwybod gymdeithasol Sabato gan amodau byw'r mewnfudwyr a'r ecsbloetiaeth yn erbyn llafurwyr y gweithfeydd pacio. Yn sgil chwyldro milwrol 1930, pan gipiwyd grym gan y cenedlaetholwyr adain-dde eithafol dan arweiniad y Cadfridog José Félix Uriburu, cychwynnodd y cyfnod yn hanes yr Ariannin a elwir Década Infame. Ymunodd Sabato â'r comiwnyddion a phenodwyd yn ysgrifennydd Ffederasiwn Ieuenctid Comiwnyddol yr Ariannin yn 1933. Cafodd Sabato ei bryderu gan newyddion o erledigaeth yn yr Undeb Sofietaidd. Cafodd ei ddewis i deithio i Foscfa, ond penderfynodd ffoi ar ei daith, ym Mrwsel, a threuliodd sawl mis ym Mharis er mwyn osgoi ei gymrodyr.[3]

Gyrfa wyddonol

golygu

Dychwelodd i'r Ariannin yn 1935 i orffen ei astudiaethau, a derbyniodd ei ddoethuriaeth mewn ffiseg yn 1937. Gwobrwywyd grant iddo wneud gwaith ymchwil yn Sefydliad Curie, Paris, yn 1938, a theithiodd i Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn Unol Daleithiau America yn 1939. Dychwelodd i'r Ariannin yn 1940, ac hyd at 1945 addysgodd ffiseg ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Genedlaethol La Plata ac mewn coleg athrawon yn Buenos Aires.

Ers iddo ddychwelyd i'r Ariannin, nid oedd Sabato yn fodlon â threulio'i oes ym myd gwyddoniaeth. Dymunodd Sabato fod yn llenor, a bu'n gyfnod anodd wrth iddo gychwyn ar ei yrfa academaidd ac ysgrifennu yn ystod ei amser rhydd. Cyfrannodd at adran lenyddol y papur newydd La Nación. Ysgrifennodd erthyglau yn beirniadu llywodraeth Juan Perón, ac o ganlyniad cafodd ei ddiswyddo o'r brifysgol a'r coleg yn 1945.

Gyrfa lenyddol

golygu

Llyfr cyntaf Sabato oedd Uno y el universo (1945), cyfrol o ysgrifau a gwirebau am bob math o bynciau. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, El Túnel, yn 1947, a chanmolwyd dirfodaeth y gwaith hwnnw gan Albert Camus a Jean-Paul Sartre. Mae'r ddwy gyfrol o ysgrifau Hombres y engranajes (1951) ac Heterodoxia (1953) yn ymdrin â myth "Cynnydd" a methiant datblygiadau technolegol i ddatrys problemau'r gwareiddiad. Daeth Sabato yn gysylltiedig â'r cylchgrawn llenyddol Sur a chriw o lenorion o'r Ariannin, gan gynnwys Victoria Ocampo, Silvina Ocampo, Adolfo Bioy Casares, a Jorge Luis Borges. Bu ffrae rhwng Sabato a Borges yn sgil chwyldro 1955 a chwymp Perón. Er i Sabato golli ei swydd o ganlyniad i'w feirniadaeth o Perón, ymddangosodd yn aml ar y radio i amddiffyn y deallusion Peronaidd a gawsant eu targedu gan yr unbennaeth filwrol newydd. Ysgrifennodd gyfrol sy'n ymdrin â chyd-destun hanesyddol a gwleidyddol oes Perón, El otro rostro del peronismo (1956), a hefyd yr ysgrif El caso Sábato (1956) sy'n dadlau dros gymod rhwng y Peronyddion a'r gwrth-Peronyddion. Ar y llaw arall, roedd Borges yn wrthwynebydd llwyr i Perón a'i ideoleg. Bu'r ddau lenor yn ailgymod blynyddoedd yn ddiweddarach.[3]

Penodwyd Sabato yn Gyfarwyddwr Cyffredinol dros Gysylltiadau Diwylliannol yn y Weinyddiaeth Dramor yn 1958, er iddo wasanaethu yn y swydd honno am lai na blwyddyn.[4] Cyhoeddodd ei ail nofel, Sobre héroes y tumbas, yn 1961, a chyfrol o feirniadaeth lenyddol, Tres aproximaciones a la literatura de nuestro tiempo (1968), sy'n cynnwys ysgrifau am waith Alain Robbe-Grillet, Borges, a Sartre. Ei nofel olaf oedd Abaddón el exterminador (1974).

Cyfnod y jwnta a CONADEP

golygu

Dychwelodd Juan Perón i'r arlywyddiaeth yn 1973, ac wedi ei farwolaeth yn 1974 bu ei weddw Isabel Martínez de Perón yn arlywydd y wlad. Cipiwyd grym oddi arni gan y fyddin yn 1976, a sefydlwyd jwnta filwrol i reoli'r wlad. Ar 19 Mai 1976, aeth Sabato, Borges, a dau lenor arall am ginio gyda'r Cadfridog Jorge Rafael Videla, arlywydd newydd y wlad. Wedi'r cyfarfod, datganodd Sabato i'w wasg taw dyn "diwylliedig" oedd Videla. Yn 1978, meddai Sabato i'r cylchgrawn Almaenig Geo bod y fyddin wedi llwyddo i rwystro terfysgwyr adain-chwith yn yr Ariannin a bod trwch y boblogaeth yn cefnogi'r jwnta. Yn ôl yr hanesydd a newyddiadur Osvaldo Bayer, mae croesddywediadau Sabato ynglŷn â'r unbennaeth filwrol yn nodweddiadol o'r "rhagrith Archentaidd".[5]

Yn ddiweddarach, trodd Sabato yn erbyn y jwnta. Cynhaliwyd cyfarfod o lenorion o'r Ariannin yn 1981, ac yno cynorthwyodd Sabato wrth lunio datganiad i wrthdystio'n erbyn diflaniadau yn ystod ymgyrch gwrth-derfysgol y fyddin.[6]

Yn sgil cwymp y jwnta filwrol yn 1983, sefydlwyd comisiwn gan y llywodraeth ddemocrataidd newydd i archwilio'r miloedd o achosion o bobl a "ddiflanwyd" ers i'r fyddin ddod i rym yn 1976, yn yr hyn a elwir y Rhyfel Brwnt. Ar gais yr Arlywydd Raúl Alfonsín, penodwyd Sabato yn llywydd ar y Comisiwn Cenedlaethol dros Bobl Ddiflanedig (CONADEP; 1983–4). Ysgrifennodd Sabato ragair yr adroddiad, dan y teitl Nunca Más, sy'n ddatganiad o bwysigrwydd hawliau dynol. Cyhoeddodd y comisiwn bod mwy na 9000 o bobl wedi eu llofruddio gan y llywodraeth, a chafodd achosion llys eu dwyn yn erbyn arweinwyr y jwnta o ganlyniad.

Gwaith diweddarach

golygu

Yn ei flynyddoedd olaf, bu'n dioddef o ddallineb, megis ei hen gyfaill Borges, o ganlyniad i nam ar ei retina. Yn niwedd y 1970au, cafodd ei gynghori gan ei feddyg i beidio ag ysgrifennu na darllen rhagor. Yn ei yrfa ddiweddarach, felly, mynegodd ei hunan drwy gyfweliadau, a ni ysgrifennodd llawer, er iddo barhau i beintio.[4]

Yn ogystal â'i bwysigrwydd yn llên America Ladin, enillodd Sabato enw fel awdurdod moesol yn sgil ei waith i CONADEP. Derbyniodd Gwobr Cervantes, y wobr uchaf ei bri yn llenyddiaeth Sbaeneg, yn 1984, a Gwobr Ryngwladol Menéndez Pelayo yn 1997.[4] Urddwyd yn Commandeur Légion d'honneur yn 1987.[7] Nodir ei ysgrifau diweddarach gan besimitiaeth ynglŷn â dyfodol y ddynolryw.

Bywyd personol

golygu

Priododd Matilde Kusminsky-Richter (1916–98) yn 1936. Cawsant dau fab, Jorge (bu farw mewn damwain car yn 1995), a Mario, sy'n gweithio fel sgriptiwr a chyfarwyddwr ffilmiau. Ei gymar yn ei flynyddoedd olaf oedd Elvira González Fraga.[7]

Bu farw Ernesto Sabato ar 30 Ebrill 2011 yn Buenos Aires yn 99 oed o gymhlethdodau o ganlyniad i lid y frest.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Sbaeneg) "¿Sábato o Sabato?", Fundéu BBVA, 24 Chwefror 2011. Adalwyd 10 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) Ernesto Sábato. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ebrill 2019.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Nick Caistor, "Ernesto Sábato obituary", The Guardian 1 Mai 2011. Adalwyd 10 Ebrill 2019.
  4. 4.0 4.1 4.2 (Sbaeneg) "Ernesto Sabato. Biografía", Instituto Cervantes. Adalwyd 10 Ebrill 2019.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) Alexei Barrionuevo, "Ernesto Sábato, Argentina’s Conscience, Is Dead at 99", The New York Times, 1 Mai 2011. Adalwyd 10 Ebrill 2019.
  6. (Saesneg) Edward Schumacher, "For Argentine young, an aged literary hero", The New York Times, 15 Tachwedd 1981. Adalwyd 10 Ebrill 2019.
  7. 7.0 7.1 (Saesneg) "Obituary: Ernesto Sábato", The Daily Telegraph, 10 Mai 2011. Adalwyd 10 Ebrill 2019.