Fiorenza Cossotto

Cantores mezzo-soprano Eidalaidd

Mezzo-soprano Eidalaidd yw Fiorenza Cossotto (ganwyd 22 Ebrill 1935).

Fiorenza Cossotto
Cossoto efo ei gŵr Ivo Vinco yn Il Trovatore, 1967
Ganwyd22 Ebrill 1935 Edit this on Wikidata
Crescentino Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa golygu

Fe'i ganed ar 22 Ebrill, 1935, yn Crescentino,[1] Talaith Vercelli, yr Eidal, mynychodd Cossotto Academi Gerdd Turin ac astudio gyda Mercedes Llopart.[2] Gwnaeth ei ymddangosiad operatig cyntaf fel y Chwaer Matilde yn première y byd o Dialogues des Carmélites gan Poulenc ym 1957 yn La Scala ym Milan. Roedd ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ym 1958 yng Ngŵyl Wexford fel Giovanna Seymour yn opera Donizetti, Anna Bolena. Roedd ei ymddangosiad cyntaf yn Covent Garden ym 1959 fel Neris ym Médée gan Cherubini, gyda Maria Callas yn rôl y teitl. Arweiniodd perfformiad yn 1962 yn La favita yn La Scala at enwogrwydd ehangach a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn America yn yr un rôl ym 1964 yn yr Opera Lyric, Chicago ac fel Amneris yn yr Opera Metropolitan ym 1968.[3]

Rhwng tymhorau 1967-68 a 1988-89, rhoddodd Cossotto 148 o berfformiadau yn y Met (rolau arweiniol yn unig).[4] Fe’i hystyriwyd yn arbenigwr mewn portreadau o rolau mezzo / contralto fawr mewn opera Eidalaidd canol y 19eg ganrif fel Favorita (La favita), Amneris (Aida ), Azucena (Il trovatore), Eboli (Don Carlos), Preziosilla (La forza del destino), Maddalena (Maddalena), Ulrica (Un ballo in maschera) a Laura (La Gioconda). Fe wnaeth hi hefyd bortreadu Carmen, Cherubino Mozart, Urbain yn Les Huguenots gan Giacomo Meyerbeer, Romeo gan Vincenzo Bellini a Marfa yn Khovantschina.

Yn 2005, dathlodd Cossotto ei phen-blwydd yn 70 gyda pherfformiad o Suor Angelica yn y Théâtre Royal yn Liège, Gwlad Belg.

Roedd Cossotto yn briod â'r baswr Eidalaidd Ivo Vinco am dros 40 mlynedd (daeth y briodas i ben mewn ysgariad). Bu iddynt fab.

Yn ogystal â rolau mezzo ac alto, roedd Cossotto hefyd yn canu rolau soprano a ganwyd yn draddodiadol gan mezzos fel Santuzza (Cavalleria Rusticana) ac Adalgisa (Norma).

Canodd Adalgisa gyda Callas, Joan Sutherland, Montserrat Caballé, Leyla Gencer, ac Elinor Ross yn chware Norma [5]

Roedd ei repertoire yn y Met yn cynnwys Amneris, Eboli, Adalgisa, Santuzza, Azucena, Dalila, Carmen (dim ond ar daith ac mewn cyngherddau parc awyr agored), Principessa (Adriana Lecouvreur) a Mistress Quickly (a ychwanegodd ym 1985, gan ganu gyda Giuseppe Taddei fel Falstaff).

Disgyddiaeth stiwdio golygu

Blwyddyn Gwaith

Rôl
Arweinydd

Cyd berfformwyr
Label
1957 La sonnambula,

Teresa
Antonino Votto

Maria Callas

Nicola Monti
EMI Classics
1957 Andrea Chénier,

Bersi
Gianandrea Gavazzeni

Renata Tebaldi

Mario del Monaco
Decca
1958 Madama Butterfly,

Suzuki
Tullio Serafin

Renata Tebaldi

Carlo Bergonzi
Decca Records
1959 La Gioconda,

Laura
Antonino Votto

Maria Callas

Piero Cappuccilli
EMI Classics
1959 Le nozze di Figaro,

Cherubino
Carlo Maria Giulini

Giuseppe Taddei

Elisabeth Schwarzkopf
EMI Classics
1959 Requiem (Verdi),

Mezzo-soprano
Tullio Serafin

Boris Christoff

Eugenio Fernandi
Testament Records
1961 Don Carlos,

Eboli
Gabriele Santini

Boris Christoff

Antonietta Stella
Deutsche Grammophon
1963 Il trovatore,

Azucena
Tullio Serafin

Carlo Bergonzi

Antonietta Stella
Deutsche Grammophon
1964 Rigoletto,

Maddalena
Rafael Kubelík

Renata Scotto

Dietrich Fischer-Dieskau
Deutsche Grammophon
1965 Cavalleria rusticana,

Santuzza
Herbert von Karajan

Carlo Bergonzi

Giangiacomo Guelfi
Deutsche Grammophon
1967 Medea,

Neris
Lamberto Gardelli

Gwyneth Jones

Bruno Prevedi
Decca Records
1967 Requiem (Verdi),

Mezzo-soprano
Herbert von Karajan

Leontyne Price

Luciano Pavarotti
Deutsche Grammophon

(sain a fideo)
1968 Cavalleria rusticana,

Santuzza
Herbert von Karajan

Gianfranco Cecchele

Giangiacomo Guelfi
Deutsche Grammophon

(Ffilm)
1970 Requiem (Verdi),

Mezzo-soprano
Syr John Barbirolli

Montserrat Caballé

Jon Vickers
EMI Classics
1970 Il trovatore,

Azucena
Zubin Mehta

Leontyne Price

Plácido Domingo
RCA Records
1972 Norma,

Adalgisa
Carlo Felice Cillario

Montserrat Caballé

Plácido Domingo
RCA Records
1973 Suor Angelica,

La zia Principessa
Bruno Bartoletti

Katia Ricciarelli

Maria Grazia Allegri
RCA Records
1974 Un giorno di regno,

Marchesa del Poggio
Lamberto Gardelli

Jessye Norman

José Carreras
Philips Records
1974 Aida,

Amneris
Riccardo Muti

Montserrat Caballé

Plácido Domingo
EMI Classics
1974 La favorite,

Leonora
Richard Bonynge

Luciano Pavarotti

Gabriel Bacquier
Decca Records
1975 Un ballo in maschera,

Ulrica
Riccardo Muti

Martina Arroyo

Plácido Domingo
EMI Classics
1976 Macbeth,

Arglwyddes Macbeth
Riccardo Muti

Sherrill Milnes

José Carreras
EMI Classics
1976 La forza del destino,

Preziosilla
James Levine

Leontyne Price

Plácido Domingo
RCA Records
1978 Tancredi,

Tancredi
Gabriele Ferro

Lella Cuberli

Nicola Ghiuselev
Warner Fonit
1978 Arie di Verdi,

Abigaille (Nabucco)

Elvira (Ernani)

Medora(Il Corsaro)

Eboli (Don Carlo)

Amelia (Un ballo in maschera)
Nello Santi

Ivo Vinco
Warner Fonit

Ffilmiau teledu golygu

Yn ogystal â recordiadau mae Cossotto wedi serennu mewn nifer o ffilmiau o operâu a gynhyrchwyd ar gyfer eu darlledu ar y teledu mewn gwledydd Ewropeaidd (ar RAI Radiotelevisione Italiana yr Eidal yn bennaf) ac un ar gyfer y gyfres Americanaidd Live from the Metropolitan Opera [6]:

  • 1957 Hänsel e Gretel – Hänsel
  • 1966 Aida – Amneris
  • 1968 Cavalleria rusticana - Santuzza
  • 1971 La Favorita - Leonora
  • 1973 Aida - Amneris
  • 1976 Adriana Lecouvreur - Tywysoges de Bouillon
  • 1978 Il trovatore - Azucena, y sipsiwn
  • 1981 Aida - Amneris
  • 1985 Aida, Live from the Metropolitan Opera - Amneris
  • 1985 Il trovatore - Azcena
  • 1988 La Gioconda - Laura
  • 1989 Adriana Lecouvreur - Principessa di Bouillon

Cyfeiriadau golygu

https://www.allmusic.com/artist/fiorenza-cossotto-mn0000767314/biography