Gŵyl y Gelli, 2016

Cynhaliwyd Gŵyl Lenyddol y Gelli am y nawfed tro ar hugain o 26 Mai hyd 5 Mehefin 2016. Cynhaliwyd mwy na 600 o ddigwyddiadau yn 2016, ychydig yn llai na'r flwyddyn gynt, gan gynnwys anerchiadau a darlithoedd, cyfweliadau, sgyrsiau a dadleuon, recordiadau o raglenni radio, teledu a phodlediadau, perfformiadau cerddorol, dawns a chomedi, a gweithdai. Bu ychydig o ddigwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Dechreuodd bardd cenedlaethol newydd Cymru, Ifor ap Glyn, yn ei swydd yn ystod yr ŵyl.[1]

Gŵyl y Gelli, 2016
Mynedfa'r safle
Sgwrs rhwng awduron, gan gynnwys Salman Rushdie (canol).

Ymhlith y llenorion i siarad ar lwyfanau'r ŵyl oedd Salman Rushdie, Marlon James, Edna O'Brien, Fay Weldon, James Runcie, Joanne Harris, Melvyn Bragg, Thomas Keneally, Peter Carey, Mark Haddon, Jonathan Coe, Alain de Botton, a Svetlana Alexievich. Roedd Shakespeare yn destun i nifer o'r sgyrsiau, i nodi pedwar can mlynedd ers ei farwolaeth.[2] Bu Simon Schama, Germaine Greer, Gillian Clarke, Howard Jacobson, a Jeanette Winterson i gyd yn trafod agweddau o waith Shakespeare.[3] Mewn partneriaeth gyda'r BBC, y Cyngor Prydeinig a Chwmni Brenhinol Shakespeare fe grewyd Shakespeare Lives, gŵyl ar-lein o ffilmiau, operâu, a dawnsiau bale am chwe mis. Cyhoeddwyd hefyd cyfrol dan y teitl Lunatics, Lovers and Poets i ddathlu Shakespeare a Cervantes, y llenor Sbaeneg fu farw'r un diwrnod â Shakespeare, gyda rhagymadrodd gan Salman Rushdie.[4] Prif thema'r flwyddyn hon yng ngŵyl y plant oedd canmlwyddiant geni'r awdur Roald Dahl. Daeth yr awduron plant Julia Donaldson, Jacqueline Wilson, Malorie Blackman, Chris Riddell, Michael Morpurgo, a Cressida Cowell i'r ŵyl.

Mynychwyr yr ŵyl yn darllen ar y gwair.

Yn yr anerchiadau a thrafodaethau gwleidyddol, Brexit a Trump oedd pynciau'r pythefnos.[5] Ymhlith yr enwau o fyd gwleidyddiaeth a materion cyfoes oedd y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown, cyn-weinidog cyllid Gwlad Groeg Yanis Varoufakis, cyn-Lywodraethwr Banc Lloegr Mervyn King, cyn-ddirprwy bennaeth NATO Richard Shirreff, cyn-bennaeth y CIA a'r NSA Michael V. Hayden, a'r gyfreithwraig hawliau dynol Shirin Ebadi. Cynhaliwyd dadl ar etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau rhwng Larry Sanders (brawd Bernie Sanders), Sarah Churchwell (Prifysgol Llundain), yr hanesydd Niall Ferguson, a Jan Halper Hayes (cadeirydd Republicans Overseas UK).

O'r byd adloniant, roedd Sam Mendes, Russell T. Davies, Andrew Davies, Jojo Moyes, Brian Blessed, a Michael Palin. Ymddangosodd y canwr Syr Tom Jones ychydig o wythnosau wedi marwolaeth ei wraig. Bu'n trafod ei fywyd personol a'i yrfa gerddorol gyda Dylan Jones, golygydd cylchgrawn GQ.[6] Roedd yr actores Tippi Hedren am drafod ei hunangofiant, ond bu rhaid canslo'i chyfweliad wedi iddi gwympo a chael dolur yn ei chartref yng Nghaliffornia ychydig dyddiau cyn iddi ddisgwyl teithio i Gymru.[7]

Cafwyd perfformiadau gan y digrifwyr Sarah Millican, Marcus Brigstocke, Dara Ó Briain, Sara Pascoe, ac Isy Suttie, y sioe gerdd fyrfyfyr Showstoppers, a'r cerddorion Suzanne Vega, Billy Bragg, Laura Marling, K T Tunstall, Turin Brakes, a Baaba Maal. Bryn Terfel a Rebecca Evans oedd sêr y gyngerdd derfynol, a chanant unawdau a deuawdau gan Purcell, Mozart, a Meirion Williams. Dychwelodd y sioe Letters Live i'r Gelli am y drydedd flwyddyn, gyda Maxine Peake, Olivia Colman, Benedict Cumberbatch, Toby Jones, Mark Strong, a Tom Hollander.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gŵyl Lenyddol y Gelli Gandryll yn agor, BBC (26 Mai 2016). Adalwyd ar 26 Chwefror 2017.
  2. (Saesneg) Shakespeare dominates Hay festival during anniversary year, The Guardian (5 Mehefin 2016). Adalwyd ar 26 Chwefror 2017.
  3. (Saesneg) Hay Festival celebrates Shakespeare with help from stars like Benedict Cumberbatch and Judi Dench, Wales Online (23 Ebrill 2016). Adalwyd ar 26 Chwefror 2017.
  4. (Saesneg) How Wales is marking 400 years since Shakespeare's death, Wales Online (23 Ebrill 2016). Adalwyd ar 26 Chwefror 2017.
  5. (Saesneg) Stay? Go? UK's brainy Hay Festival abuzz with Brexit anxiety Archifwyd 2016-06-02 yn y Peiriant Wayback., The Economic Times o'r Associated Press (2 Mehefin 2016). Adalwyd ar 26 Chwefror 2017.
  6. (Saesneg) Sir Tom's tears for his beloved wife Linda, Wales Online (5 Mehefin, 2016). Adalwyd ar 26 Chwefror 2017.
  7. (Saesneg) Hitchcock star Tippi Hedren has pulled out of the Hay Festival after suffering 'a fall', Wales Online (27 Mai 2016). Adalwyd ar 26 Chwefror 2017.
  8. (Saesneg) Letters Live at Hay Festival 2016. Adalwyd ar 26 Chwefror 2017.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: