George Hamilton-Gordon, 4ydd Iarll Aberdeen

Gwleidydd a diplomydd Albanaidd oedd George Hamilton-Gordon, 4ydd Iarll Aberdeen (28 Ionawr 178414 Rhagfyr 1860) a wasanaethodd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o 1852 i 1855. Yn ystod ei lywodraeth, ymunodd y Deyrnas Unedig â Rhyfel y Crimea (1853–56).

George Hamilton-Gordon, 4ydd Iarll Aberdeen
Llun o George Hamilton-Gordon, 4ydd Iarll Aberdeen (1 Gorffennaf 1860).
Ganwyd28 Ionawr 1784 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw14 Rhagfyr 1860 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Teyrnas Prydain Fawr Teyrnas Prydain Fawr (1784–1800)
Baner Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon (1801–60)
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel a'r Trefedigaethau, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, ambassador of the United Kingdom to Austria, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Y Swyddfa Dramor Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPeelite Edit this on Wikidata
TadGeorge Gordon, Lord Haddo Edit this on Wikidata
MamCharlotte Baird Edit this on Wikidata
PriodHarriet Hamilton Gordon, Countess of Aberdeen, Catherine Hamilton Edit this on Wikidata
PlantGeorge Hamilton-Gordon, 5th Earl of Aberdeen, Arthur Hamilton-Gordon, 1st Baron Stanmore, Lady Jane Hamilton-Gordon, Lady Charlotte Hamilton-Gordon, Lady Alice Hamilton-Gordon, unnamed Gordon, Lord Haddo, Alexander Hamilton-Gordon, Frances Hamilton-Gordon, Douglas Hamilton-Gordon Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, Fellow of the Society of Antiquaries of Scotland, Urdd y Gardas Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed George Gordon yng Nghaeredin, yr Alban, yng nghyfnod Teyrnas Prydain Fawr, yn fab i George Gordon, yr Arglwydd Haddo, a'i wraig Charlotte Baird. Bu farw ei dad ym 1791, ac felly cymerodd George yr ieuengaf deitl yr Arglwydd Haddo. Wedi marwolaeth ei fam ym 1795, amddifadwyd ef yn 11 oed, a châi ei fagu gan ei warcheidwaid, y gwleidyddion William Pitt yr Ieuengaf (a fu'n Ganghellor y Trysorlys ar y pryd) ac Henry Dundas. Yn 17 oed, etifeddodd efe Iarllaeth Aberdeen a'r teitlau cysylltiedig oddi ar ei dad-cu, George Gordon, 3ydd Iarll Aberdeen, a fu farw ar 13 Awst 1801. Aeth yn ddisgybl i ysgol fonedd Harrow, a pherffeithiodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Ym 1806, etholwyd ef yn un o bendefigion cynrychioladol yr Alban, a chymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel Tori.[1] Yn wahanol i nifer o bendefigion eraill, ni aeth i fwrw prentisiaeth yn Nhŷ'r Cyffredin cyn gwasanaethu yn Nhŷ'r Arglwyddi am iddo etifeddu ei urdd yn ifanc.[2]

Anfonwyd ef, ar orchymyn yr Ysgrifennydd Tramor Is-iarll Castlereagh, yn llysgennad Prydeinig arbennig i lys Awstria ym 1813. Cafodd penodiad dyn mor las a diffyg ei brofiad diplomyddol i genhadaeth cyn bwysiced â Fienna ei feirniadu'n hallt gan rai, yn enwedig pan lwyddai'r Tywysog Metternich, prif wladweinydd Awstria, ennill y blaen ar Aberdeen yn y trafodaethau masnach o ganlyniad i Ffrangeg clapiog yr Albanwr.[2] Fodd bynnag, yn ystod ei arhosiad yno ffurfiodd y fath gyfeillgarwch â Metternich ag a ddylanwadodd yn ddirfawr ar ei syniadau gwleidyddol. Daeth i'r amlwg fel un o brif ddiplomyddion Ewrop ar ddiwedd Rhyfeloedd Napoleon, a chafodd ran bwysig wrth ffurfio'r chweched glymblaid i drechu'r Ymerawdwr Napoleon. Wedi iddo arwyddo Cytundeb Paris, ar ran y Brenin Siôr III, ym 1814, fe'i dyrchafwyd i bendefigaeth y Deyrnas Unedig gan ddwyn y teitl Is-iarll Gordon o Aberdeen. Priododd ddwywaith, yn gyntaf i Catherine Elizabeth Hamilton, merch yr Arglwydd Abercorn, o 1805 hyd at ei marwolaeth ym 1812, ac yna i Harriet Douglas o 1815 hyd at ei marwolaeth ym 1833. Ychwanegodd enw teuluol ei wraig gyntaf at ei enw ei hun ym 1818.[1] Ar ôl dychwelyd i Brydain ym 1814, treuliodd 14 mlynedd gyda'i theulu yn bennaf, yn goruchwylio'i ystadau ac yn ymddiddori ag hynafiaetheg. Penderfynodd gymryd seibiant yn ei yrfa wleidyddol, mae'n bosib, mewn ymateb i'r feriniadaeth o'i ddiplomyddiaeth.[2]

Dan lywodraeth y Dug Wellington, gwasanaethodd Aberdeen yn Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn o Ionawr i Fehefin 1828 ac yn Ysgrifennydd Tramor o Fehefin 1828 i Dachwedd 1830. Yn y cyfnod hwn llwyddodd y Groegiaid (gyda chefnogaeth Prydain, Ffrainc, a Rwsia) o'r diwedd i roi pen ar reolaeth yr Otomanaidd, a bu buddugoliaeth Rhyfel Annibyniaeth Groeg ym 1829 yn bleser i'r Groeg-garwr Aberdeen. Fodd bynnag, ni lwyddodd i atal y Rwsiaid rhag ymledu eu dylanwad yn y Môr Canoldir yn sgil dirywiad grym yr Otomaniaid.[2] Yn ystod gweinyddiaeth fer gyntaf Syr Robert Peel, o Dachwedd 1834 i Ebrill 1835, Aberdeen oedd Ysgrifennydd Rhyfel a'r Trefedigaethau. Gwasanaethodd yn Ysgrifennydd Tramor drachefn o Fedi 1841 i Orffennaf 1846, yn ail weinyddiaeth Peel, a dan ei lyw daeth Prydain ac Unol Daleithiau America i ddatrys yr anghydfodau dros y ffiniau rhwng New Brunswick a Maine (Cytundeb Webster–Ashburton, 1842) ac Oregon a Columbia (Cytundeb Oregon, 1846).[1] Llwydodd hefyd i ddod â therfyn i'r Rhyfel Opiwm Cyntaf drwy orfodi ar Ymerodraeth y Qing Gytundeb Nanjing (1842), a fyddai'n ddrwg-enwog yn hanes Tsieina fel y cyntaf o'r "cytundebau anghyfartal". Fel Syr Robert Peel, mabwysiadodd Aberdeen egwyddorion masnach rydd, ac ym 1846, gyda Peel, ymddiswyddodd yn uniongyrchol ar ôl diddymiad Deddfau'r Ŷd.

Wedi marwolaeth Peel ym 1850, cydnabuwyd Aberdeen yn arweinydd ar ymblaid y Peeliaid. Ym 1851, fe wrthwynebodd Ddeddf Teitlau Eglwysig y Prif Weinidog John Russell.[2] Ar 28 Rhagfyr 1852, yn sgil cwymp llywodraeth leiafrifol yr Iarll Derby, ffurfiodd Aberdeen Gabinet clymblaid gan gynnwys weinidogion o Peeliaid a Chwigiaid. Ym 1853, wrth i’w weinidogaeth agosáu’n anfoddog at ryfel â Rwsia dros wrthdaro buddiannau yn y Dwyrain Canol, fe wnaeth ei ddiffyg penderfyniad rwystro ymdrechion ei ysgrifennydd tramor, yr Iarll Clarendon, i gadw'r heddwch. Daeth rhyfel yn anochel ar ôl i Aberdeen a Clarendon anfon y Llynges Frenhinol i Gaergystennin ym Medi ac yna, dri mis yn ddiweddarach, i'r Môr Du. Datganodd Prydain Fawr a Ffrainc ryfel yn erbyn Rwsia ar 28 Mawrth 1854. Gwnaethpwyd y Prif Weinidog yn atebol am gymeriadau'r cadfridogion yn Rhyfel y Crimea, ac ymddiswyddodd Aberdeen felly ar 29 Ionawr 1855. Bu farw chwe mlynedd yn ddiweddarach, yn Llundain, yn 76 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) George Hamilton-Gordon, 4th earl of Aberdeen. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 John Plowright, The Routledge Dictionary of Modern British History (Llundain: Routledge, 2006), tt. 2–3.