Dadra a Nagar Haveli
Mae Dadra a Nagar Haveli (Gujarati: દાદરા અને નગર હવેલી, Marathi: दादरा आणि नगर हवेली, Portiwgaleg: Dadrá e Nagar-Aveli) yn Diriogaeth Undebol yng ngorllewin India. Lleolir Nagar Haveli rhwng Maharashtra a Gujarat, tra bod Dadra yn ddarn o dir sy'n gorwedd rhai milltiroedd i'r gogledd o Nagar Haveli yn Gujarat ei hun. Silvassa yw'r brifddinas. Poblogaeth y diriogaeth yw 220,541 (2001).
![]() | |
Math |
union territory of India, district of India ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Silvassa ![]() |
Poblogaeth |
342,853, 343,709 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Dadra and Nagar Haveli and Daman and Diu ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
491 km² ![]() |
Uwch y môr |
16 metr ![]() |
Yn ffinio gyda |
Gujarat, Maharashtra ![]() |
Cyfesurynnau |
20.27°N 73.02°E, 20.20651°N 73.00811°E ![]() |
IN-DN ![]() | |
![]() | |
Gorwedd y diriogaeth ar lannau Afon Daman Ganga, gyda threfi Dadra a Silvassa ar ei glan orllewinol. Cyfyd y Ghats Gorllewinol i'r dwyrain. Y prif ieithoedd yn y dalaith yw Marathi, Hindi a Gujarati.
Yn y gorffennol bu'n wladfa Bortiwgalaidd, o 1779 hyd 1954 pan gafodd ei chynnwys yn India. Daeth yn Diriogaeth Indiaidd yn 1961 ac erbyn heddiw fe'i cynrychiolir yn Senedd India yn y ddwy siambr, y Lok Sabha a'r Rajya Sabha.