Hanes Asia
Gellir ystyried hanes Asia fel casgliad hanesyddol o nifer o ardaloedd arfordirol unigryw, megis Dwyrain Asia, De Asia a'r Dwyrain Canol a oedd yn cael eu cysylltu gan baith eang mewndirol Ewrasiaidd. Roedd cyrion arfordir Asia yn gartref i rai o wareiddiadau cynharaf y byd, gyda phob un o'r dair ardal yn datblygu gwareiddiadau cynnar o amgylch dyffrynoedd ffrwythlon ger afonydd. Roedd y dyffrynoedd hyn yn ffrwythlon am fod y pridd yno yn cynnwys llawer o opiwm. Gwelwyd sawl tebygrwydd rhwng gwareiddiadau ym Mesopotamia, Dyffryn Indus a Tsieina ac chredir eu bod yn rhannu technoleg a syniadau ymysg ei gilydd megis mathemateg a'r olwyn. Mae'n bur debygol fod elfennau eraill fel ysgrifennu wedi datblygu ymhob ardal. Datblygodd dinasoedd, taleithiau ac ymerodraethau yn yr iseldiroedd hyn.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cb/Silkroutes.jpg/220px-Silkroutes.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/25/East-Hem_1200ad.jpg/220px-East-Hem_1200ad.jpg)
Bu nomadiaid yn byw ar ardal y paith am gryn o dipyn o amser cyn hyn, ac o'r diffeithdir hyn gallent gyrraedd pob ardal yng nghyfandir Asia. Gwelwyd yr enghraifft gynharaf a wyddir amdano o symud allan o'r diffeithdir hwn gan yr Indo-Ewropeiaid a ledaenodd eu hieithoedd i'r Dwyrain Canol, India ac, yn achos Tochareg, i ffiniau Tsieina. Roedd yn amhosib mynd i ran ogleddol y cyfandir, a oedd yn cynnwys rhannau helaeth o Siberia, oherwydd y fforestydd trwchus a'r twndra. Prin oedd y boblogaeth yn yr ardaloedd hyn.
Cadwyd y canol a'r cyrion ar wahan gan fynyddoedd ac anialdir. Ffurfiai'r Cawcasws, yr Himalaya, Anialwch Karakum ac Anialwch Gobi rwystrau na fyddai marchogion yn medru croesi'n hawdd. Tra bod trigolion y dinasoedd yn fwy datblygedig o safbwynt technolegol a diwylliannol, ni allent wneud llawer o safbwynt milwrol i amddiffyn eu hunain rhag marchogion y paith. Fodd bynnag, nid oedd digon o ardaloedd glaswelltog yn yr iseldiroedd i gynnal byddin mawr o farchogion. O ganlyniad, trechodd y nomadiaid daleithiau yn Tsieina, yr India a'r Dwyrain Canol ac fe'u gorfodwyd i addasu i gymdeithasau lleol.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3b/Asia_1892_amer_ency_brit.jpg/220px-Asia_1892_amer_ency_brit.jpg)
1.83 Miliwn CC
golyguMae archeolegwyr wedi darganfod teclynau carreg ym Maleisia a ddyddiwyd yn 1.83 miliwn o flynyddoedd oed.[2]
9000 CC tan 4500 CC
golyguGwelodd Gorllewin Asia'r newidiad cyntaf i'r ffordd Neolithig o fyw (ffermio mewn un man).
Ystyrir teml yn ne-ddwyrain Twrci yn Göbekli Tepe sydd wedi cael ei ddyddio i 10000 CC, fel dechreuad y diwylliant "Neolithig 1". Datblygwyd y safle hon gan helwyr nomadaidd am nad oedd tai parhaol yn yr ardal. Safle'r deml hon yw'r man addoli hynaf a grëwyd gan ddyn.
Tua 9000 CC, gwelwyd y diwylliant Neolithig datblygedig cyntaf yn y Cilgant Ffrwythlon. Tua 8000 CC ymddangosodd tref gyntaf y byd, Jerico yn y Lefant (y Llain Orllewinol bresennol). Fe'i hamgylchynwyd gan fur garreg a marmor a thrigai poblogaeth o 2000-3000 o bobl yno. Roedd yno dŵr carreg uchel yno hefyd.[3] Mae Jbeil (Byblos), yn y Libanus bresennol, hefyd yn safle cynnar arall. Datblygodd diwylliant Neolithig Jericho yn uniongyrchol o'r diwylliant Epipaleolithic Natufiaidd yn yr ardal, lle'r oedd y bobl yn arloesol o ran tyfu grawnfwydydd gwyllt, a esblygodd dros amser i ffermio gwirioneddol. Erbyn 8500–8000 CC lledodd cymunedau amaethyddol i Anatolia, Gogledd Affrica a gogledd Mesopotamia.
Ar safle cynhanesyddol Beifudi ger Yixian yn nhalaith Hebei, Tsieina, ceir creiriau o ddiwylliant o'r un cyfnod a'r diwylliannau Cishan a Xinglongwa o tua 7000–8000 CC, diwylliannau neolithig i'r dwyrain o Fynyddoedd Taihang, a lenwodd y bwlch archeolegol rhwng dau diwylliant Gogledd Tsieina. Cloddiwyd dros 1,200 medr sgwâr ac mae'r casgliad o ddarganfyddiadau neolithig yn cynnwys dau gyfnod gwahanol.
Tua 5500 CC, ymddangosodd y diwylliant Halafiaidd yn y Levant, Libanus, Palesteina, Syria, Anatolia a gogledd Mesopotamia, a oedd yn dibynnu ar amaethyddiaeth tir sych.
Yn ne Mesopotamia roedd gwastadiroedd llifwaddod. Oherwydd y prinder glaw, roedd system dyfrhau yn angenrheidiol. Datblygodd diwylliant Ubaid o 5500 CC.
Yr Oes Efydd
golyguDechreuodd y cyfnod calcolithig tua 4500 CC, yna dechreuodd yr Oes Efydd tua 3500 CC, gan gymryd lle'r diwylliannau neolithig.
Roedd Tsieina a Fietnam hefyd yn ganolfannau gwaith metal.
Yr Oes Haearn
golyguRheolodd y brenhinlin Achaemenid o'r Ymerodraeth Persaidd, a sefydlwyd gan Cyrus Fawr, ardal o Wlad Groeg a Thwrci i'r afon Indus a Chanol Asia o'r 6ed tan y 4g CC. Trechodd Alexander Fawr yr ymerodraeth hwn yn ystod y 4g CC. Yn ddiweddarach, byddai'r Ymerodraeth Rhufeinig yn rheoli rhan o Orllewin Asia. Dominyddai brenhinlinoedd y Seleucid, Parthian a Sassanian o Bersia Orllewin Asia am ganrifoedd. Dylanwadwyd ar nifer o wareiddiadau hynafol gan yr Heol Sidan, a gysylltai Tsieina, India, y Dwyrain Canol â Ewrop. Roedd y crefyddau Hindwaeth a Bwdaeth, a ddechreuodd yn yr India, yn ddylanwad pwysig ar dde, dwyrain a de-ddwyrain Asia.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Teithwyr yr Heol Sidan Adalwyd ar 20-05-2009
- ↑ (Saesneg) Malaysian scientists find stone tools 'oldest in Southeast Asia' Google. Adalwyd ar 20-05-2009
- ↑ Jericho. Britannica. Adalwyd ar 20-05-2009