Illtud

sant Cymreig o'r 6g
(Ailgyfeiriad o Illtyd)

Sant Cymreig cynnar oedd Illtud, weithiau Illtyd (Lladin: Hildutus) (bu farw c. 530). Ef oedd sylfaenydd mynachlog Llanilltud Fawr, ac ystyrir ef yn ffigwr allweddol yn hanes tŵf Cristnogaeth yng Nghymru fel olynydd Dyfrig. Ymddengys ei fod yn enedigol o dde Cymru neu o Lydaw.

Illtud
Sant Illtud. Ffenestr gwydr lliw yn Eglwys y Drindod, Y Fenni.
Ganwyd480 Edit this on Wikidata
Bu farw540 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcrefyddwr, mynach, henuriad Edit this on Wikidata
Swyddabad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl6 Tachwedd Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiadau golygu

Ceir y cyfeiriadau cynharaf at Illtud ym Muchedd ei ddisgybl, Samson o Dol, a ysgrifennwyd yn y 7g. Dywedir yma fod Illtud yn ddisgybl i Sant Garmon, ac mai ef oedd y mwyaf dysgedig o'r Brythoniaid, yn hyddysg yn yr efengyl, y traddodiad Lladinaidd clasurol a thraddodiadau ei bobl ei hun. Dywedir mai ef oedd abad ei fynachlog ym Morgannwg. Ymddengys o'r hanesion yma ei fod wedi bod yn briod ar un adeg, a bod ganddo gefndir milwrol.

Mae'r fersiwn cynharaf o Fuchedd Illtud yn llawer diweddarach, yn dyddio o tua 1140. Lluniwyd y fuchedd yma gan awdur Normanaidd, ac nid ymddengys fod llawer o sail hanesyddol iddi. Dywedir ei fod yn ŵr priod cyn ei droedigaeth, ac iddo yrru ei wraig i ffwrdd. Ymddengys fod hyn yn rhan o ymgyrch y Normaniaid yn erbyn yr arfer Cymreig o offeiriad priod. Dywedir iddo hwylio i Lydaw gyda llongau yn llawn o rawn pan oedd newyn yno. Yn ôl y fuchedd yma, roedd Illtud yn fab i uchelwr o Lydaw o'r enw Bican Farchog, oedd yn berthynas i Arthur. Roedd Sant Sadwrn yn frawd iddo. Dywedir i Illtud ddechrau ei yrfa fel milwr, ac iddo ef a'i ŵyr ymosod ar abaty Sant Cadog Llancarfan. Fel cosb, llyncwyd pob un heblaw Illtud ei hun gan y ddaear, a chafodd Illtud droedigaeth a mynd yn fynach.

Daeth ei fynachlog yn Llanilltud Fawr yn ganolfan ddysg eithriadol o bwysig. Ymhlith disgyblion Illtud rhestrir Dewi Sant, Pol Aurelian, Samson, Gildas, Derfel Gadarn, Seiriol, Baglan a Pedrog.

Lleoedd golygu

Ceir nifer fawr o eglwysi wedi eu cysegru i Illtud yng Nghymru, yn enwedig yn y de gan gynnwys: Llanilltud Fawr, Llantrisant (Morgannwg), Llanhiledd, Llanilltud Faerdref, Llanilltud Gŵyr ac Oxwich. Tu allan i Forgannwg ceir Llanelltyd, Meirionnydd

Ceir Bedd Gŵyl Illtud yng nghymuned Glyn Tarell, Powys; carnedd gron sy'n dyddio o Oes yr Efydd efallai. Yn yr un ardal o Frycheiniog ceir Pyllau Illtud, Tŷ Illtud a Mynydd Illtud hefyd.

Yn Llydaw mae ei enw ar bentref Lannildud ac ar yr Aber Ildut. Ei ddydd gŵyl yw 6 Tachwedd.

Llefydd a alwyd ar ôl Illtyd golygu

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Eglwys Sant Illtud
 
51°24′29″N 3°29′16″W / 51.408°N 3.4877°W / 51.408; -3.4877 Llanilltud Fawr Q7593396
2 Eglwys Sant Illtud
 
51°42′39″N 3°08′00″W / 51.7108°N 3.13324°W / 51.7108; -3.13324 Llanhiledd Q17722544
3 Eglwys Sant Illtud
 
51°43′31″N 3°00′25″W / 51.7252°N 3.00707°W / 51.7252; -3.00707 Goetre Fawr Q17743437
4 Eglwys Sant Illtud
 
51°26′46″N 3°22′38″W / 51.446°N 3.37724°W / 51.446; -3.37724 Llancarfan Q17744259
5 Eglwys Sant Illtud
 
51°30′51″N 3°26′01″W / 51.51413°N 3.433668°W / 51.51413; -3.433668 Llanhari Q29500240
6 Eglwys Sant Illtud
 
51°34′15″N 3°19′36″W / 51.570798°N 3.326609°W / 51.570798; -3.326609 Llanilltud Faerdref Q29502481
7 Eglwys Sant Illtyd
 
51°33′15″N 4°09′32″W / 51.554083°N 4.1587923°W / 51.554083; -4.1587923 Pen-rhys Q16987334
8 Eglwys Sant Illtyd
 
52°45′30″N 3°54′07″W / 52.7583°N 3.90187°W / 52.7583; -3.90187 Llanelltud Q17737987
9 Eglwys Sant Illtyd
 
51°30′31″N 3°34′58″W / 51.5086°N 3.58264°W / 51.5086; -3.58264 Pen-y-bont ar Ogwr
Pen y Bont
Q17737993
10 Eglwys Sant Illtyd
 
51°40′03″N 3°47′30″W / 51.6674°N 3.79159°W / 51.6674; -3.79159 Tonna, Castell-nedd
Castell-nedd
Q17740687
11 Eglwys Sant Illtyd
 
51°41′16″N 4°16′29″W / 51.6877°N 4.27475°W / 51.6877; -4.27475 Pen-bre a Phorth Tywyn Q17741817
12 Eglwys Sant Illtyd
 
51°35′36″N 4°05′06″W / 51.5932°N 4.08511°W / 51.5932; -4.08511 Llanilltud Gŵyr Q17743803
13 Eglwys Sant Illtyd
 
52°02′41″N 4°41′29″W / 52.04485°N 4.69128°W / 52.04485; -4.69128 Q114773998
14 Eglwys Sant Illtyd, Sant Gwynno a Sant Dyfodwg
 
51°32′30″N 3°22′35″W / 51.5416°N 3.37645°W / 51.5416; -3.37645 Llantrisant Q17743292
15 Eglwys Sant Rhidian a Sant Illtyd
 
51°36′32″N 4°10′20″W / 51.609°N 4.17231°W / 51.609; -4.17231 Llanrhidian Isaf Q17743885
16 Llanilltud Faerdref
 
51°33′28″N 3°20′03″W / 51.5578°N 3.3341°W / 51.5578; -3.3341 Rhondda Cynon Taf Q3406126
17 Llantriddyd
 
51°26′49″N 3°22′34″W / 51.447°N 3.376°W / 51.447; -3.376 Bro Morgannwg Q21999685
18 Llwybr Sant Illtyd
 
Sir Gaerfyrddin Q16897101
19 Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd 51°31′04″N 3°06′53″W / 51.5178°N 3.1147°W / 51.5178; -3.1147 Tredelerch Q13132694
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Llenyddiaeth golygu

Mewn llenyddiaeth, mae Illtud yn gymeriad yn y ddrama Buchedd Garmon gan Saunders Lewis, lle mae ef a Paulinus yn teithio i Gâl i ofyn i Garmon ddod draw i wlad y Brythoniaid.

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: