Llanilltud Faerdref

tref ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf, de Cymru, yw Llanilltud Faerdref (Saesneg: Llantwit Fardre). Saif ychydig i'r de o dref Pontypridd. Heblaw pentref Llanilltud Faerdref ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Pentre'r Eglwys (Gartholwg), Efail Isaf a Thonteg. Roedd poblogaeth y gymuned yn 13,993 yn 2001.

Llanilltud Faerdref
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlIlltud Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5578°N 3.3341°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001015 Edit this on Wikidata
Cod OSST076851 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMick Antoniw (Llafur)
AS/auAlex Davies-Jones (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Davies-Jones (Llafur).[1][2]

Ceir gweddillion castell mwnt a beili o'r 12g, Tomen y Clawdd, yn y gymuned, gerllaw Tonteg. Dechreuodd diwydiant ddatblygu yma tua diwedd y 17g, ond erbyn hyn mae cyfran helaeth o'r boblogaeth yn teithio i Gaerdydd. Mae'n cynnwys rhan o Stad Ddiwydiannol Trefforest.

Sant o'r 6g oedd Illtud ac mae nifer o eglwysi yn ne Cymru wedi eu henwi ar ei ôl. Roedd ffynnon yma yn y 12ed ganrif, wedi ei enwi ar ei ôl (y fonte Sancti Ylthuti) yn Nihewyd tua milltir i'r de o'r eglwys.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanilltud Faerdref (pob oed) (15,168)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanilltud Faerdref) (2,501)
  
17.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanilltud Faerdref) (13023)
  
85.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanilltud Faerdref) (1,882)
  
30.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]