Insignia Awyrluoedd Milwrol

Bathodyn Awyrlu

Insignia Awyrluoedd Milwrol yw'r arfbeisiau syml a roddir ar gerbydau awyrluoedd er mwyn adnabod cenedl neu gangen y llu milwrol sy'n berchen ar y cerbyd neu'r awyren. Y confensiwn ers ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda'r mwyafrif o insignia, yw defnyddio bathodyn crwn a elwir yn rowndel, neu addasiad ar hynny ond ceir hefyd siapau syml, plaen eraill megis sêr, croesau, sgwariau neu drionglau.[1]

Roundel neu Insignia Awyrlu Brenhinol Canada
Rowndel Awyrlu Brenhinol Sweden

Arddangosir yr insignia fel rheol ar ochr yr awyren, ochr uchaf ac isaf yr adennydd ac ar asgell sefydlogi'r awyren ar gefn y cerbyd.

 
Awyren o wneuthuriad Nieuport 10 Ffrengig o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn dangos rowndel fawr ar yr aden.

Ffrainc

golygu

Ceir yr enghraifft gyntaf o insignia awyrlu cyn y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc fel addasiad o'r cocâd glas-gwyn-coch yn adlewyrchu lliwiau'r faner genedlaethol. Yn 1912 fe fynnodd yr Aéronautique Militaire fod rhaid i'r cerbydau ddangos yr arfbais crwn yma.[2] Dewiswyd addasiad o'r cocâd yn lliwiau cenedlaethol Ffrainc, glas-gwyn-coch. Mabwysiadwyd y syniad o'r rowndeli gan wledydd eraill yn fuan gan gynnwys Unol Daleithiau America. Gellir ystyried fod traddodiad y cocâd weriniaethol, sy'n nodwedd o aestheteg filwrol a dinesig Ffrainc, yn sail ar gyfer datblygiad y roundel fel bathodyn syml, clir hawdd ei adnabod, ar gyfer yr awyrlu Ffrengig.

Yr Almaen

golygu
 
Proffil o Albertros D.V. Ernst Udet yn dangos ffurf safonnol croes Almaenaidd yn 1916-17 gyda'r ffin wen

Mae'r Almaen yn eithriad i'r holl gynlluniau cynnar ar gyfer isignia gan iddynt beidio dilyn llwybr Ffrainc a mabwysiadu rowndel. Ystyriwyd sawl awgrym gan y lluoedd Almaenig gan gynnwys patrwm siecrcog (checkerboard) du a gwyn (noder mai patrwm siecrog yw insignia Gwlad Pŵyl hyd y dydd hwn), roundel du a gwyn a streipiau duon. Yn y pendraw, mabwysiadwyd yr 'Eisernes Kreuz' (y groes haearn) ar faes gwyn am mai dyna oedd eisoes mewn defnydd ar sawl baner a gan ei fod yn adlewyrchu perthynas yr Almaen gyda'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn dilyn cyhoeddi'r Rhyfel cafwyd gorchmynion ym Medi 1914 i baentio'r Groes Haearn gyda breichiau'n ymledu tua'r pen ar lian gwyn - fel rheol mewn siâp sgwâr - ar adennydd ac esgyll yr awyrenau. Yn ystod y Rhyfel gwelwyd addasiadau ar y cynllun yma gan wledydd oedd wedi cynghreirio â'r Almaen gan gynnwys Ymerodroaeth Awstria-Hwngari (cyfuno gyda streipiau coch-gwyn-coch ar yr adennydd nes 1916), Bwlgaria, Croasia (wedi steilio fel deilen), Hwngari (lliwiau tu chwith allan) a Slofacia (croes las gyda dot goch yn y canol).

Gyda chyfnod y Natsïaid, defnyddiwyd fersiwn mwy cymesur, sgwâr or Groes Haearn a'r Swastika Natsiaidd. Wedi'r Ail Ryfel Byd, aeth awyrlu Gorllewin yr Almaen (neu'r (Bundesrepublik Deutschland) yn ôl at ddefnyddio addasiad o'r Groes Haearn gyda ffin wen ac ochrau yn lledu. Defnyddiodd awyrlu Dwyrain yr Almaen Gomiwnyddol fathodyn trionglog yn lliwiau'r faner du-coch-melyn ac arfbais y fyddin. Wedi ail-uno'r Almaen disodlodd y Groes Haearn fathodyn yr hen Ddwyrain.

Y Deyrnas Unedig a Gwledydd y Gymanwlad

golygu
 
Darlun o'r Royal Aircraft Factory SE5 gyda bathodyn a safonwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Defnyddiodd y 'Royal Flying Corps' Brydeinig (rhagflaenydd yr RAF) faner Jac yr Undeb Prydain fel eu bathodyn cyntaf. Ond oherwydd bod hwn yn ymdebygu i Groes Haearn yr Almaen o bellter, cafwyd gwared ar yr arfer. Mabwysiadodd y Royal Royal Naval Air Service o hynny ymlaen fodrwy goch blaen ond gyda chanol wen neu hefyd cylch wen gyda ffin goch oedd yn ymdebygu bron yn union i fathodyn Denmarc, oedd yn wlad niwtral yn ystod y Rhyfel Mawr. Mabwysiadwyd wedyn rowndel debyg i un Ffrainc ond gyda'r lliwiau wedi eu gwyrdroi; o'r canol allan - coch-gwyn-glas.

Mabwysiadodd nifer o wleidydd y Gymanwlad yr arfer Brydeinig o ddefnyddio rowndel gan gynnwys Canada, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd. Mae'r gwledydd hyn yn dilyn yr un drefn o ran lliwiau â'r Deyrnas Unedig: glas-gwyn-coch (gyda glas ar y tu allan) ond gyda motiff genedlaethol mewn goch yn y canol; cangarw (Awstralia), deilen masarn (Canada), aderyn ciwi (Seland Newydd).

Insignia Belarws a Rwsia - amwysedd ar wikipedia

golygu

Noder bod Rwsia a Belarws wedi arddel hen insignia yr Undeb Sofietaidd; seren goch gydag ymyl wen a ffram goch i'r ymyl. Ymddengys, er gwaethaf defnydd o ddyluniad insignia seren goch gydag ymyl wen a ffram goch, bod rowndel newydd wedi ei dderbyn gan Awyrlu Belarws yn 2012. Dyma'r dyluniad a nodir isod (yn wahanol i gofnodion wikipedia mewn ieithoedd eraill), sef seren goch, ffram werdd, gydag ymyl wen a ffram goch i hwnnw. Yn anffodus, gan fod coch a gwyrdd yn liwiau anodd eu diffinio o bellter (ac i bobl lliw-ddall) a gan bod y cyfuniad yn torri rheol 'tincture' Humphrey Lhuyd, mae'n anodd adnabod y dyluniad newydd. Ond fe ellir ei adnabod o'r ffoto yma o awyren o awyrlu Belarws oddi ar dudalen wicipedia Rwsieg ar awyrlu Belarws.

Mae sawl newid wedi bod i insignia Rwsia, yr Undeb Sofietaidd a'r Rwsia ôl-Sofietaidd. I weld rhain, ac esblygiad sawl cynllun arall ewch i'r wicipedia Rwsieg ar insignia awyrluoedd (edrychwch o dan is-bennawd 4, Эволюция опознавательных знаков).

Insignia Cyfredol Awyrluoedd Cenedlaethol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.facebook.com/photo.php?fbid=10158431561448936&set=gm.3607769729237723&type=3&theater
  2. Kershaw, Andrew: The First War Planes, Friend Or Foe, National Aircraft Markings, pages 41–44. BCP Publishing, 1971.
  3. Moroccan Air Force Insignia, on flagspot.net (FOTW)

Insignia Llywodraethol

golygu

Gwladwriaethau Heb eu Cydnabod gan y C.U.

golygu

Hen Insignia Awyrluoedd

golygu

Rowndel mewn diwylliant poblogaidd

golygu
 
arddangosfa yn Amgueddfa Foduro'r Cotswolds, 2007

Gwneuthpwyd defnydd o rowndel eiconig yr Awyrlu Frenhinol Brydeinig (R.A.F.) gan fudiad ieuenctid y Mods yn yr 1960au. Gwisgai'r Mods y bathodyn fel eu symbol ar eu siacedi 'Parker' a hefyd ar eu mopeds. Daeth yn arwydd o ail-ddiffiniad cyfoes o Brydeindod.

Cysylltiwyd y golwg yma gyda'r grŵp The Who a'r ffilm Quadrophenia a ryddhawyd yn 1979 ond a seilir yn ystod 1964, sef cyfnod aur y Mods a'r Swinging 60s. Ceir y rowndel awyrlu Brydeinig eiconig wreiddiol o'r ffilm Quadrophenia mewn arddangosfa yn Amgueddfa Foduro'r Cotswolds yn Bourton-on-the-Water.

Rowndel i Awyrlu Cymru

golygu
 
Rowndel Awyrlu Cymru

Cynigiwyd cynllun ar gyfer rowndel i 'Awyrlu Cymru Annibynnol' gan Siôn Jobbins yng Ngorffennaf 2018.[1]

Mae'r cynllun wedi ei seilio ar rowndel Awyrlu Iwerddon, gan tanlinellu cysylltiad dwy wlad Geltaidd annibynnol (petai Cymru byth yn annibynnol). Mae'r rowndel yn defnyddio lliwiau cenedlaethol baner Cymru; coch, gwyn a gwyrdd. Er mwyn osgoi camgymryd y cynllun ar gyfer un yr Iwerddon (gan bod gwyrdd yn y ddau gynllun ac oren a choch yn lliwiau tebyg) mae'r darn gwyn o'r lliwiau ar ochr chwith y rowndel lle mae'r gwyn ar ochr dde rowndel yr Iwerddon.

Mae dyluniad hefyd yn atsain o gynllun trisgell sy'n boblogaidd ymysg eiconograffeg Geltaidd.

Rhannwyd y dyluniad ar gyfrif Twitter bersonol Jobbins, @MarchGlas yn Gymraeg ar 13/7/17 ac yn Saesneg ar 18/7/17.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu