Louis MacNeice
Bardd a dramodydd o Ogledd Iwerddon yn yr iaith Saesneg oedd Frederick Louis MacNeice, CBE (12 Medi 1907 – 3 Medi 1963). Caiff ei gysylltu â W. H. Auden, Cecil Day-Lewis, a Stephen Spender, y garfan o "feirdd newydd" yn y 1930au.
Louis MacNeice | |
---|---|
Ganwyd | 12 Medi 1907 Belffast |
Bu farw | 3 Medi 1963 o niwmonia Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, llenor, dramodydd |
Cyflogwr |
|
Tad | John Macneice |
Gwobr/au | CBE |
Ganwyd ym Melffast yn fab i weinidog yn Eglwys Iwerddon, ac yn fuan symudodd y teulu i Carrickfergus, Swydd Antrim. Mynychodd ysgolion yn Lloegr ac astudiodd yng Ngholeg Merton, Rhydychen o 1926 i 1930. Cafodd swydd yn ddarlithydd ar bwnc y clasuron ym Mhrifysgol Birmingham o 1930 i 1936. Addysgodd yr iaith Roeg yng Ngholeg Merched Bedford, Llundain o 1936 i 1940.
Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Blind Fireworks, ym 1929. ym 1941 dechreuodd MacNeice ysgrifennu dramâu radio i'r BBC, gan gynnwys y ffantasi The Dark Tower (1947). Cyfieithodd hefyd sawl gwaith o'r Hen Roeg i'r Saesneg, gan gynnwys Horas ac Aeschulos.
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Frederick Louis MacNeice yn 1 Brookhill Avenue, Belffast, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, ar 12 Medi 1907. Ei rieni oedd John Frederick MacNeice (1866–1942) ac Elizabeth Margaret "Lily" MacNeice, gynt Clesham (1866–1914), y ddau ohonynt yn hanu o Swydd Galway. Roedd ganddo un brawd, William, oedd â syndrom Down, ac un chwaer, Caroline Elizabeth. Symudodd y teulu i Carrickfergus, Swydd Antrim, ym 1908, a bu John MacNeice yn rheithor yno hyd 1931. Yn sgil marwolaeth Elizabeth ym 1914, cafodd y plant eu magu gan athrawes gartref. ym 1917, priododd John ei ail wraig, Georgina Beatrice, a ddaeth yn llysfam i'r plant. Penodwyd John yn Esgob Cashel a Waterford ym 1931, ac yn Esgob Down a Connor a Dromore ym 1935.[1]
Aeth Louis i Ysgol Baratoi Sherborne yn Sherborne, Dorset, ym 1917, a chafodd gyfnod hapus yno. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Marlborough yn Marlborough, Wiltshire ym 1921. Yno fe ragorodd yn y clasuron a chwaraeodd rygbi, ac roedd yn hoff o redeg dros y twyni. Ymhlith ei gyd-ddisgyblion, a fuont yn gyfeillion iddo am oes, oedd y bardd Bernard Spencer, y darlunydd Graham Shepard, a'r hanesydd celf ac ysbïwr Anthony Blunt. Ysgrifennodd Louis nifer o gerddi yn ystod ei ddyddiau ysgol, a magodd barnau amheugar ynglŷn â chrefydd, gwyddoniaeth, a gwleidyddiaeth.[1]
ym 1926 enillodd MacNeice postmastership, gwobr academaidd unigryw i Goleg Merton, Prifysgol Rhydychen, ac astudiodd yn y coleg hwnnw o 1926 i 1930. I ddechrau, teimlodd fod y gwaith yn ddiflas, a Treuliodd ei amser rhydd yn ysgrifennu cerddi a straeon dychanol a ffantastig. Yn y pen draw, cyfarfu MacNeice â beirdd ifainc eraill yn Rhydychen, gan gynnwys W. H. Auden, Stephen Spender, a Clere Parsons. Derbyniodd radd dosbarth cyntaf yn arholiadau'r Honour Moderations ym 1928, ac ymddiddorodd yn frwd yn ail ran ei gwrs, athroniaeth y Greats. ym 1929, cyhoeddodd MacNeice ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Blind Fireworks, ac efe a Spender oedd cyd-olygyddion y cylchgrawn llenyddol Oxford Poetry am flwyddyn. ym 1930 enillodd MacNeice radd dosbarth cyntaf yn literae humaniores. Ar 21 Mehefin 1930, priododd Giovanna Marie Thérèse Babette (Mary) Ezra (1908–91).[1]
Gyrfa academaidd
golyguWedi iddo ennill ei radd o Rydychen, cafodd MacNeice swydd yn ddarlithydd ar bwnc y clasuron ym Mhrifysgol Birmingham o 1930 i 1936. Cyhoeddodd nofel, Roundabout Way (1932), dan y ffugenw Louis Malone, ac yn fuan trodd ei gefn ar y gwaith hwnnw. Ganwyd ei fab Daniel ym 1934. Daeth MacNeice yn gyfeillgar â nifer o ysgolheigion yn Birmingham, gan gynnwys E. R. Dodds, y clasurydd o fri a oedd yn bennaeth ar ei gyfadran. Cyfranodd MacNeice at gylchgronau barddoniaeth, gan gynnwys New Verse, a chyhoeddodd ei ail gyfrol o gerddi, Poems, ym 1935. Gweithiodd hefyd, gyda chefnogaeth yr Athro Dodds, ar gyfieithiad ar fydr o'r ddrama Agamemnon gan Aeschulos, a gyflawnwyd ym 1936.[1] Ac eithrio'r hwnnw, methiannau a fu ei ymdrechion cynnar ym myd y theatr, sef y dramâu Station Bell (1935) ac Out of the Picture (1937).
ym 1935 ffoes ei wraig, i fyw tali gyda myfyriwr ôl-raddedig Americanaidd. Ceisiodd MacNeice ymdopi â'r gwrthodiad hwn drwy deimlo rhyddid newydd yn ei fywyd personol. Ysgrifennodd yn ei hunangofiant, "I suddenly realized I was under no more obligations to be respectable".[2] Teithiodd i Sbaen gydag Anthony Blunt yng ngwanwym 1936, ac yn yr haf derbyniodd swydd darlithydd yn yr iaith Roeg yng Ngholeg Bedford, Llundain. Yn y cyfnod hwn, bu hefyd yn ymweld â Gwlad yr Iâ gydag Auden, a mi oedd y daith honno yn ffrwyth y gyfrol Letters from Iceland (1937) ganddynt. Cafodd ei gyflwyno i Nancy Culliford Sharp (1909–2001), gwraig yr arlunydd Syr William Coldstream, trwy Auden, ac ym 1937 cychwynnodd MacNeice a Sharp ar garwriaeth.[1]
Yn Llundain, ymdrwythodd MacNeice ym mywyd diwylliannol y brifddinas. Yn ogystal â'i ddarlithoedd a'i ddyletswyddau i'r coleg, treuliodd ei amser yn mynd i bartïon, arddangosiadau preifat, a chyfarfodydd gwleidyddol. Un o'r adain chwith ydoedd, er nad oedd yn cytuno â sosialaeth chwyldroadol nac yn hoff o'r Blaid Gomiwnyddol. Llwyddiant a fu'r perfformiad o'i Agamemnon gan y Group Theatre. Cyhoeddodd sawl llyfr yn y cyfnod hwn: y casgliadau o farddoniaeth The Earth Compels (1938) ac Autumn Journal (1939); y gweithiau rhyddiaith I Crossed the Minch (1938) a Zoo (1938), y ddau wedi eu darlunio gan Nancy Sharp; a'r astudiaeth feirniadol Modern Poetry (1938). Yn ôl nifer, Autumn Journal ydy campwaith MacNeice, a gymharai'n aml â The Prelude gan William Wordsworth. Cerdd hir ddramataidd ydyw sy'n rhagweld y dinistr i ddod ar ddiwedd y 1930au, a hefyd yn adlewyrchu teimladau'r bardd yn sgil diwedd ei berthynas â Sharp.[1]
Teithiodd MacNeice i Sbaen unwaith eto ym 1939, ar ddiwedd Rhyfel Cartref Sbaen, ac ymwelodd hefyd ag Unol Daleithiau America ac Iwerddon. Penderfynodd adael ei swydd yng Ngholeg Bedford a cheisio cychwyn bywyd newydd yn yr Unol Daleithiau gyda'r awdur Eleanor Clark (1913–96), a fu'n ei chwrdd yn Efrog Newydd. Darlithiodd ym Mhrifysgol Cornell am flwyddyn, cyn iddo benderfynu dychwelyd i Loegr rhag ofn yr oedd yn "colli hanes" adeg yr Ail Ryfel Byd.[3] Wedi iddo ddioddef o lid y berfeddlen, cyrhaeddodd Loegr yn Rhagfyr 1940. Gwrthodwyd iddo ymrestru â'r lluoedd arfog oherwydd nam ar ei olwg.[1]
Y BBC
golyguYmunodd ag adran rhaglenni nodwedd y BBC ym Mai 1941 fel sgriptiwr a chynhyrchydd radio. Dan arweiniad y cynhyrchydd Laurence Gilliam, gweithiodd MacNeice ar sawl rhaglen gan gynnwys The Stones Cry Out a Alexander Nevsky, a'r dramâu radio Christopher Columbus (1944). He Had a Date (1944), a The Dark Tower (1947). Yn ystod cyfnod y rhyfel, cyhoeddodd MacNeice ragor o gasgliadau o gerddi—The Last Ditch (1940), Selected Poems (1940), Plant and Phantom (1941), Springboard (1944), Prayer Before Birth (1944)—a'r astudiaeth feirniadol The Poetry of W. B. Yeats (1941). Priododd yr actores a chantores Antoinette Millicent Hedley "Hedli" Anderson (1907–90) ar 1 Gorffennaf 1942, a chawsant ferch, Corinna, ym 1943.[1]
Wedi'r rhyfel, parhaodd MacNeice i weithio ar raglenni radio, a daeth yn gyfeillgar â sawl bardd arall oedd yn recordio yn stiwdios y BBC, gan gynnwys W. R. Rodgers a Dylan Thomas. Teithiodd i nifer o wledydd ar orchwyl i'r BBC, gan gynnwys yr Eidal, India, Pacistan, y Traeth Aur, a De Affrica, yn ogystal â dychweliadau i'r Unol Daleithiau ac Iwerddon. Addasodd Faust ar gyfer y radio i nodi deucanmlwydd ers genedigaeth Goethe ym 1949. Aeth i Athen yn Ionawr i Fedi 1950 fel cyfarwyddwr y Sefydliad Prydeinig ac o Fedi 1950 i Fawrth 1951 fel dirprwy gynrychiolydd i'r Cyngor Prydeinig. Cyhoeddodd y cyfrolau o farddoniaeth Holes in the Sky (1948), Collected Poems, 1925–1948 (1949), Ten Burnt Offerings (1952), Autumn Sequel (1954), a Visitations (1957) yn y cyfnod hwn, yn ogystal â'r stori i blant The Sixpence That Rolled Away (1956).[1]
Derbyniodd MacNeice ddoethuriaeth er anrhydedd oddi wrth Prifysgol y Frenhines, Belffast ym 1957, a fe'i urddwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) ym 1958. Ymwahanodd MacNeice a'i ail wraig Hedli ym 1960. Dechreuodd ar berthynas gyda'r actores Mary Wimbush (1924–2005). Gadawodd ei swydd lawn-amser gyda'r BBC ym 1961.[1]
Diwedd ei oes
golyguY gyfrol olaf o farddoniaeth a gyhoeddwyd ganddo yn ystod ei oes oedd Solstices (1961). Dewiswyd MacNeice i draddodi darlithoedd Clark ym 1963.
Aeth MacNeice i Swydd Efrog i wneud rhaglen ar gyfer y radio o'r enw Persons from Porlock. Fel rhan o'r cynhyrchiad, bu'n rhaid i'r peirianwyr recordio dan ddaear, a mynnodd MacNeice eu hebrwng, a fe gafodd oerfel. Bu farw o niwmonia firaol yn Ysbyty Sant Leonard yn Shoreditch, Llundain, ar 3 Medi 1963. Cynhaliwyd ei angladd yn Llundain ar 7 Medi, a chladdwyd ei ludw ym Mynwent Eglwys Carrowdore, Swydd Down.[1]
Cyhoeddwyd sawl gwaith ganddo wedi ei farwolaeth, gan gynnwys y casgliadau o gerddi The Burning Perch (1963) a Star-gazer (1963), y casgliad o'i ddarlithoedd Clark Varities of Parable (1965), a'i hunangofiant The Strings Are False (1965, a ysgrifennwyd ganddo ym 1941).
Arddull a chynnwys ei farddoniaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 Davin, D. M., and Jon Stallworthy. "MacNeice, (Frederick) Louis (1907–1963), writer." Oxford Dictionary of National Biography. 28 Jun. 2019. https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-34808.
- ↑ Louis MacNeice, The Strings are False, golygwyd gan E. R. Dodds (Llundain: Faber and Faber, 1965), t. 152.
- ↑ Louis MacNeice, Selected Prose of Louis MacNeice, golygwyd gan Alan Heuser (Rhydychen: Clarendon Press, 1990), t. 83.
Darllen pellach
golygu- Barbara Coulton, Louis MacNeice in the BBC (Llundain: Faber and Faber, 1980).
- Jon Stallworthy, Louis MacNeice (Llundain: Faber and Faber, 1995).