Louis Mountbatten, Iarll 1af Mountbatten o Fyrma

Swyddog llynges britisg a gwladweinydd diweddarach (1900 - 1979)

Uchelwr, morwr, a gwladweinydd Prydeinig oedd Albert Victor Nicholas Louis Francis Mountbatten, Iarll 1af Mountbatten o Fyrma (25 Mehefin 190027 Awst 1979) a oedd yn aelod o'r teulu brenhinol, aelod o Dŷ'r Arglwyddi (1946–79), rhaglyw a llywodraethwr cyffredinol olaf India (1947–48), Prif Arglwydd y Môr (1955–59), a Phennaeth y Staff Amddiffyn (1959–65).

Louis Mountbatten, Iarll 1af Mountbatten o Fyrma
Iarll Mountbatten o Fyrma yn ei wisg lyngesol (1976).
Ganwyd25 Mehefin 1900 Edit this on Wikidata
Castell Windsor Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 1979 Edit this on Wikidata
o ffrwydrad Edit this on Wikidata
Mullaghmore Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol, diplomydd, swyddog yn y llynges Edit this on Wikidata
SwyddLlywodraethwr Cyffredinol India, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Chief of the Defence Staff, First Sea Lord, Lord Lieutenant of the Isle of Wight, Governor of the Isle of Wight Edit this on Wikidata
TadTywysog Louis o Battenberg Edit this on Wikidata
MamViktoria o Hessen-Darmstadt Edit this on Wikidata
PriodEdwina Mountbatten, Iarlles Mountbatten o Fyrma Edit this on Wikidata
PlantLady Pamela Hicks, Patricia Knatchbull, 2il Iarlles Mountbatten o Fyrma Edit this on Wikidata
Llinachteulu Mountbatten Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Gwasanaeth Nodedig, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Prif Gadlywydd Lleng Teilyngdod, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Urdd seren Romania, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of the Nile, Order of the Star of Nepal, Knight of the Garter, Cydymaith Urdd y Baddon, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Urdd Teilyngdod, Member of the Royal Victorian Order, Marchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd, Knight Grand Commander of the Order of the Star of India, Knight Grand Commander of the Order of the Indian Empire, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Knight of the Order of Saint John, Medal Rhyfel Prydain, Medal Victoria, 1939–45 Star, Burma Star, Medal jiwbilî Arian Brenin Siôr, King George VI Coronation Medal, Queen Elizabeth II Coronation Medal, Urdd y Dannebrog, Urdd Brenhinol y Seraffim, Medal Gwasanaethau Difreintiedig, Medal Ymgyrch 'Asiatic-Pacific', Croix de guerre, Urdd yr Eliffant Gwyn, Urdd Sior y Iaf, Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Urdd Aviz, Urdd Solomon, Urdd y Coron, Order of the Cloud and Banner, Mentioned in Despatches, Cadlywydd Urdd Sant Ioan, Urdd y Gardas, War Cross, Africa Star Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Windsor, Lloegr, yn or-ŵyr i'r Frenhines Fictoria. Ymunodd â'r Llynges Frenhinol ym 1913 a gwasanaethodd ar wahanol longau a chyda sawl dyletswydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r cyfnod rhwng y rhyfeloedd, gan gynnwys yn gadweinydd i Edward, Tywysog Cymru ym 1921. Priododd ag Edwina Ashley ym 1922, a chawsant ddwy ferch. Dyrchafwyd Mountbatten yn gapten ym 1932.

Yn nghyfnod dechreuol yr Ail Ryfel Byd, Mountbatten oedd capten HMS Kelly, gyda rheolaeth dros 5ed lyngesan y llongau distryw, a chafodd ran mewn sawl ymgyrch bwysig ar y môr. Daeth gludydd awyrennau dan ei orchymyn ym 1941. Yn Ebrill 1942 fe'i penodwyd yn bennaeth dros gydymgyrchoedd ac yn is-lyngesydd dros dro, ac felly'n aelod de facto o benaethiaid y staff milwrol. Gwasanaethodd yn bencadlywydd y Cynghreiriaid yn Ne-ddwyrain Asia o 1943 i 1946, ac arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn Ymerodraeth Japan i ail-gipio Byrma.

Wedi'r rhyfel, fe'i penodwyd yn Rhaglyw India, gyda mandad i oruchwylio'r trawsnewid o India Brydeinig i annibyniaeth. Aeth i India ym Mawrth 1947 i baratoi'r cynllun o rannu'r diriogaeth yn ddwy—India a Phacistan—proses a ddaeth i fod yn Awst 1947. Gwasanaethodd yn Llywodraethwr Cyffredinol India am flwyddyn arall, gyda'r gwaith o ddwyn perswâd ar y tywysogion yn yr is-gyfandir i ymuno ag un o'r ddwy wladwriaeth newydd. Gwnaed Mountbatten yn is-iarll ym 1946, ac yn iarll ym 1947.

Wedi iddo ddychwelyd i Loegr, gwasanaethodd Mountbatten yn Bedwerydd Arglwydd y Môr (1950–52), yn ben-lyngesydd Fflyd y Môr Canoldir (1952–54), ac yn Brif Arglwydd y Môr (1955–59). Yn ei gyfnod yn Bennaeth y Staff Amddiffyn a chadeirydd Pwyllgor Penaethiaid y Staff Milwrol ym 1959–65, cafodd ran flaenllaw wrth foderneiddio'r Lluoedd Arfog Prydeinig. Fe'i penodwyd hefyd i swyddi seremonïol, gan gynnwys Arglwydd Raglaw Ynys Wyth. Yn ystod ugain mlynedd olaf ei oes, efe oedd un o aelodau hŷn y teulu brenhinol, yn "hoff ewythr" y Frenhines Elisabeth II ac yn gynghorwr i Charles, Tywysog Cymru.

Fe'i llofruddiwyd yn 79 oed gan Fyddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon (yr IRA) ym 1979, wedi i fom yn ei gwch ffrwydro pan oedd ar ei wyliau yn Swydd Sligo, Iwerddon, gan ladd yr Arglwydd Mountbatten a thri pherson arall. Câi Mountbatten ei ystyried yn ffigur hynod o ddylanwadol yn hanes brenhinol, milwrol, ac ymerodrol y Deyrnas Unedig yng nghanol yr 20g. Wedi ei farwolaeth, difrodwyd ei enw o ganlyniad i gyhuddiadau o gamdrin bechgyn yn rhywiol, a defnyddio'i safle i gyflawni'r troseddau hynny.

Teulu a bywyd cynnar

golygu

Ganed Albert Victor Nicholas Louis Francis Mountbatten ar 25 Mehefin 1900 yn Nhŷ Frogmore, plasty gwledig yn eiddo Ystad y Goron, nid nepell o Gastell Windsor, yn Windsor, Berkshire, yng nghyfnod Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Ei rieni oedd Ludwig (Louis, fel y'i adwaenir yn Lloegr), Tywysog Battenberg (1854–1921; mab y Tywysog Alexander, mab Ludwig II, Uchel Ddug Hesse) a Victoria, Tywysoges Hesse a'r Rhein (1863–1950; ferch y Dywysoges Alice, ferch Fictoria, brenhines y Deyrnas Unedig). Aelod o deulu brenhinol y Deyrnas Unedig oedd Louis yr ieuaf felly, a'i rieni bedydd oedd ei hen nain y Frenhines Fictoria a'i ewythrod Niclas II, tsar Rwsia (a oedd yn briod i Alix/Alexandra, chwaer y Dywysoges Victoria) a Franz Joseph, Tywysog Battenberg (brawd Louis yr hynaf). Priododd y Tywysog Louis â'r Dywysoges Victoria ym 1884 (dywed i deisen Battenberg gael ei dyfeisio i ddathlu'r uniad), a chawsant bedwar plentyn: y Dywysoges Alice (1885–1969; mam y Tywysog Philip, Dug Caeredin), Louise (1889–1965; gwraig Gustaf VI Adolf, brenin Sweden), George (1892–1938; a fyddai'n olynu ei dad yn Ardalydd Aberdaugleddau), a Louis yr ieuaf, a elwir hefyd yn Louis, Tywysog Battenberg am y 17 mlynedd gyntaf o'i oes. Gwasanaethodd Louis yr hynaf yn y Llynges Frenhinol ers ei ieuenctid, gan gynnwys y cyfnod o 1912–14 yn swydd Prif Arglwydd y Môr, a fe'i dyrchafwyd yn arglwydd tymhorol ym 1917, gan ddwyn y teitl Ardalydd Aberdaugleddau.

Aeth y Tywysog Louis yr ieuaf i Goleg y Llynges Frenhinol yn Osborne, Ynys Wyth, ym 1913, gan ddilyn ei dad a'i frawd drwy ymuno â "Gwasanaeth Hynaf" y lluoedd arfog. Gwasanaethodd yn ganol-longwr ar y cadgriwser HMS Lion a'r llong frwydro HMS Queen Elizabeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwelodd ymladd ar y Lion yn Awst 1916. Yn nhymor yr haf 1917 gorchmynnodd y Brenin Siôr V i'r teulu brenhinol roi'r gorau i'w enwau Almaenig, ac o'r herwydd seisnigodd y Tywysog Louis yr hynaf ei gyfenw o Battenberg i Mountbatten. Yn Nhachwedd 1917, yn sgil dyrchafu Louis yr hynaf yn arglwydd, cafodd Louis yr ieuaf deitl cwrteisi fel mab iau i ardalydd, ac felly yr Arglwydd Louis Mountbatten (yn fyr, yr Arglwydd Louis) fyddai ei deitl hyd at 1946. Erbyn diwedd y rhyfel, penodwyd Mountbatten yn brif lefftenant (hynny yw, yn ddirprwy i'r capten yn unig) ar y slŵp HMS P. 31.

Wedi'r rhyfel, astudiodd Mountbatten lenyddiaeth Saesneg am dau dymor yng Ngholeg Crist, Caergrawnt, mewn rhaglen addysg ar gyfer is-swyddogion y llynges. Gwasanaethodd ar y cadgriwserau HMS Renown ac HMS Repulse, a chyd-deithiodd ag Edward, Tywysog Cymru (yn ddiweddarach y Brenin Edward VIII) ar daith frenhinol i Awstralia ym 1920, a fe'i penodwyd yn gadweinydd (aide-de-camp) i Dywysog Cymru ar daith arall i India a Japan ym 1921–22. Cafodd ei drosglwyddo i'r llong frwydro HMS Revenge yn y Môr Canoldir ym 1923.

Priodas a phlant

golygu

Priododd ag Edwina Ashley (1901–60; merch y gwleidydd Ceidwadol Wilfrid Ashley) ym 1922, a chawsant ddwy ferch, Patricia (1924–2017) a Pamela (g. 1929). Bu farw Edwina, Iarlles Mountbatten o Fyrma, yn ei chwsg ar daith i Ogledd Borneo ym 1960 yn ei swydd fel prif uwcharolygydd Brigâd Ambiwlans Sant Ioan.

Marwolaeth

golygu

Bu farw'r Arglwydd Mountbatten yn 79 oed ar 27 Awst 1979 ym Mae Donegal, ger Mullaghmore, Swydd Sligo, yng Ngweriniaeth Iwerddon. Y diwrnod hwnnw, ffrwydrodd bom yng nghwch pysgota Mountbatten gyda saith teithiwr: yr Arglwydd ei hun, ei ferch Patricia Knatchbull, ei wyrion Nicholas a Timothy Knatchbull, ei fab-yng-nghyfraith John Knatchbull, Doreen Knatchbull (mam John), a bachgen o'r enw Paul Maxwell. Bu farw Mountbatten, Nicholas Knatchbull, a Paul Maxwell yn y dŵr, a bu farw Doreen Knatchbull o'i hanafiadau trannoeth. Yn Nhachwedd 1979, cafwyd aelod o'r IRA o'r enw Thomas McMahon yn euog o'r pedair llofruddiaeth, a chafodd ei ddedfrydu i garchar am oes yng Ngweriniaeth Iwerddon. Fe'i rhyddhawyd ym 1998 dan delerau Cytundeb Belffast.

Cyfeiriadau

golygu