Caerllion
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd, Cymru, yw Caerllion, hefyd Caerllion-ar-Wysg (Saesneg: Caerleon). Saif ar lannau gorllewinol Afon Wysg, ger dinas Casnewydd. Ystyr Caerllion ydy 'caer y llengoedd'.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 7,971 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.615°N 2.959°W |
Cod SYG | W04000813 |
Cod OS | ST336909 |
Cod post | NP18 |
AS/au y DU | Jessica Morden (Llafur) |
- Defnyddir yr enw "Caerllion" (neu "Caerllion Fawr") weithiau i gyfeirio at ddinas Caer yn Lloegr.
Olion Rhufeinig
golygu- Prif: Caer Rufeinig Caerllion
Yn y cyfnod Rhufeinig, fel Isca Silurum, roedd Caerllion yn ganolfan i'r lleng Legio II Augusta. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r 4g. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.
Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.
Yr Oesoedd Canol
golyguTua dwy neu dair km i'r gogledd-orllewin saif Mwnt y Castell, sef hen domen mwnt a beili.
Coleg Hyfforddiant Sir Fynwy
golyguRoedd Caerllion yn leoliad i Coleg Hyfforddi Sir Fynwy a sefydlwyd yn 1914. Roedd y Coleg yn hyfforddi dynion i ddod yn athrawon. Yn 1962 agorwyd y Coleg ar gyfer myfyrwyr benywaidd. Yn 1975 daeth y Coleg yn rhan o Goleg Addysg Uwcg Gwent, ac wedi hynny, yn rhan o Brifysgol De Cymru.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Enwogion
golygu- Julius ac Aaron, merthyron Cristionogol, dienyddiwyd yn 304
- Arthur Machen (1863 - 1947), llenor
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Oriel
golygu-
Golygfa ar Gaerllion
-
Golygfa o'r olion Rhufeinig
-
Yr Amffitheatr Rufeinig
Dinas
Casnewydd
Pentrefi
Allteuryn · Basaleg · Caerllion · Langstone · Llanfaches · Llanfihangel-y-fedw · Llansanffraid Gwynllŵg · Llan-wern · Pen-hŵ · Y Redwig · Trefesgob · Trefonnen · Tŷ-du