Beiciwr proffesiynol Cymreig yw Owain Doull (ganwyd 2 Mai 1993[1]). Bydd yn ymuno â thîm rasio lôn Team Sky ar gyfer tymor 2017 ac mae hefyd yn aelod o dîm rasio trac Prydain Fawr[2].

Owain Doull
Doull yn 2015
Gwybodaeth bersonol
Manylion timau
Tîm PresennolTeam Sky
DisgyblaethTrac a lôn
Tîm(au) Amatur
2013
100% Me
Tîm(au) Proffesiynol
2014An Post–Chain Reaction
2015–2016WIGGINS
2017–Team Sky

Magwyd Doull yng Nghaerdydd ac aeth i Ysgol y Wern ac Ysgol Gyfun Glantaf.[3]

Ar 22 Awst 2019 rhyddhawd delwedd hyrwyddo gan ei dîm INEOS ar gyfer ras Vuelta Espaňa 2019 yn dangos seiclwyr y tîm gan gynnwys Owain Doull. O dan y ddelwedd o Owain roedd baner Cymru fel eicon, ac nid baner Jac yr Undeb. Cydnabwyd a llongyfarchwyd y weithredu symbolaidd yma gan gefnogwyr Cymru ar Twitter.[4][5]

Gyrfa feicio golygu

Dechreuodd Doull feicio gyda chlwb Maindy Flyers yng Nghaerdydd[6] ac yn 2011 cafodd ei ddewis i fod yn rhan o Raglen Datblygu Olympaidd British Cycling ynghyd â'i gyd Gymry, Amy Roberts ac Elinor Barker.[7] Roedd yn aelod o dîm Cymru ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2011 yn Ynys Manaw, gan ennill medal arian yn y ras ffordd, ac, ynghyd â Dan Pearson, fedal efydd yn y ras ffordd i dimau. Yn 2012, cafodd Doull ei ddewis ar gyfer Rhaglen Academi British Cycling.[2].

 
Doull yn Tour of Britain 2014

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd ym Minsk, Belarws, yn 2013 gan orffen yn bumed yn y Ras scratch[2] ond daeth yn aelod o Dîm Ymlid Prydain Fawr gipiodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Seiclo Ewrop yn Apeldoorn, Yr Iseldiroedd ynghyd â Steven Burke, Ed Clancy ac Andy Tennant.[8]

Parhaodd Doull i fod yn aelod o'r Tîm Ymlid a chipiodd fedal aur yng nghymal Manceinion o Gwpan y Byd Seiclo Trac yr UCI[9] ym mis Tachwedd 2013 a medal efydd yn yr ail gymal yn Aguascalientes, Mecsico ym mis Rhagfyr 2013, ond llwyddodd i gipio ei fedal unigol cyntaf wrth ennill y fedal aur yn y Ras scratch.[10]

Trodd Doull yn broffesiynol ar gyfer tymor 2014 gan ymuno â thîm An Post–Chain Reaction[11] ac roedd yn aelod o dîm Cymru ar gyfer y Ras lôn yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban, ynghyd â Geraint Thomas, Luke Rowe, Jon Mould, Sam Harrison a Scott Davies.[12]

Yn 2015 Doull gwrthododd Doull gynnig i ymuno â Team Europcar[13] gan ymuno â thîm WIGGINS oedd wedi ei sefydlu gan Bradley Wiggins er mwyn paratoi beicwyr ar gyfer cystadleuaeth y Tîm ymlid yng Ngemau Olympaidd 2016.[14]

Ym mis Medi 2015 llwyddodd Doull i orffen yn drydydd yn y Tour of Britain gan ennill y ras bwyntiau ac ym mis Mai 2016, cyhoeddwyd ei fod yn ymuno â Team Sky.[15]

Yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil, roedd Doull yn aelod o dîm ymlid Prydain Fawr a lwyddodd i ennill y fedal aur a thorri record y byd yn y rownd derfynol. Fe yw'r Cymro Cymraeg cyntaf erioed i ennill medal aur Olympaidd.[16]

Palmarès golygu

2012
1af   Ras Ymlid Unigol, Pencampwriaeth Seiclo Trac Prydain Fawr
3ydd   Madison (gyda George Atkins), Pencampwriaeth Seiclo Trac Prydain Fawr
2013
1af   Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac Ewrop
1af   Cystadleuaeth pwyntiau An Post Rás
4ydd ZLM Tour
Cwpan y Byd Seiclo Trac
1af   Ras Ymlid Tîm, Manceinion
1af   Ras Scratch, Aguascalientes
3ydd   Ras Ymlid Tîm, Aguascalientes
2014
1af   Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac Ewrop
1af   Overall Le Triptyque des Monts et Châteaux
1af Cymal 3
2il Pencampwriaeth yn Erbyn y Cloc d23 Prydain Fawr
4ydd Ronde Van Vlaanderen Beloften
2015
1af  , Pencampwriaeth Lôn d23 Prydain Fawr
1af   Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac Ewrop
Flèche du Sud
1af   Cystadleuaeth pwyntiau
1af Cymal 3 a 4
2il   Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac y Byd
2il Le Triptyque des Monts et Châteaux
1af   Cystadleuaeth pwyntiau
2il La Côte Picarde
2il Pencampwriaeth yn Erbyn y Cloc d23 Prydain Fawr
3ydd Tour of Britain
1af   Cystadleuaeth pwyntiau
5ed Pencampwriaeth yn Erbyn y Cloc d23 y Byd
7ed ZLM Tour
10ed Tour de Normandie
10ed Ronde Van Vlaanderen Beloften
2016
2il   Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac y Byd
1af   Ras Ymlid Tîm, Gemau Olympaidd

Cyfeiriadau golygu

  1.  Colin Jackson's Raise Your Game: Owain Doull. BBC. Adalwyd ar 20 Ionawr 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Owain Doull Biography". British Cycling. britishcycling.org.uk. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2013.
  3. "Dinesydd Hydref 2015" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-03-01. Cyrchwyd 2016-08-12.
  4. https://twitter.com/ApRhydderch/status/1164285612498857985
  5. https://twitter.com/YesCymru/status/1164547845690515456
  6. "Famous Last Words: Owain Doull". Cycling weekly. cyclingweekly.co.uk. 2013-12-05. Cyrchwyd 8 December 2013.
  7. "Welsh riders confirmed as part of the Olympic Development Programme 2011". British Cycling. britishcycling.org.uk. 2010-11-25. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2013.
  8. "Welsh cycling star Owain Doull snapped up by Irish team". Wales Online. walesonline.co.uk. 2010-10-23. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2013.
  9. "UCI Track Cycling World Cup". tissottiming.com. Cyrchwyd 8 December 2013.
  10. "Track Cycling World Cup: Owain Doull wins gold in Mexico". bbc.co.uk. 2013-12-07. Cyrchwyd 8 December 2013.
  11. Stokes, Shane (2013-10-21). "Ryan Mullen and Owain Doull sign for An Post Chainreaction Sean Kelly team". VeloNation. VeloNation LLC. http://www.velonation.com/News/ID/15671/Ryan-Mullen-and-Owain-Doull-sign-for-An-Post-Chainreaction-Sean-Kelly-team.aspx.
  12. "Commonwealth Games 2014: Olympic champion Geraint Thomas and world sprint star Becky James head up Welsh cycling team for Glasgow". Wales Online. 2014-07-09.
  13. Cary, Tom (2014-12-02). "Owain Doull snubs Europcar and is expected to join Sir Bradley Wiggins' new outfit". telegraph.co.uk. Cyrchwyd 8 January 2014.
  14. Fotheringham, William (2014-01-08). "Bradley Wiggins unveils new team to be sponsored by Sky". theguardian.com. Cyrchwyd 8 January 2015.
  15. "Doull signs with Team Sky for 2017-18". CyclingNews.com. 2016-05-18. Cyrchwyd 18 May 2016.
  16. "Y fedal aur gyntaf erioed i Gymro Cymraeg". BBC Cymru Fyw. 2016-08-13.

Dolenni allanol golygu