Pentre-poeth, Caerdydd

pentref a maestref 5 milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd

Mae Pentre-poeth (Saesneg: Morganstown) yn faestref tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o ganol Caerdydd. Mae'n rhan o gymuned Radur a Phentre-poeth. Dros yr M4 yn ne'r faestref mae Radur.[1]

Pentre-poeth
Mathpentref, maestref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 18 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRadur a Threforgan Edit this on Wikidata
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.528°N 3.264°W Edit this on Wikidata
Cod OSST1281 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMark Drakeford (Llafur)
AS/auKevin Brennan (Llafur)
Map
Ceir dalen gwahaniaethu yma, gan fod sawl lle gyda'r enw yma.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mark Drakeford (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Kevin Brennan (Llafur).[2][3]

Yr enw golygu

Defnyddir yr enw 'Treforgan' gan rai sefydliadau, ond ceir tystiolaeth sy'n awgrymu mai "Pentre-poeth" oedd y ffurf lafar gan siaradwyr Cymraeg brodorol yr ardal, ac mae'r cofnod cynharaf hefyd ychydig yn gynharach na'r cofnod cynharaf o 'Dreforgan'.[4] Nodir 'Pentre' yn 1845 a 'Phentre-poeth] yn 1850 ar gofnodion y Capel methodistaidd (gweler isod). Ni ddefnyddiwyd yr enw Treforgan (Morgan’s Town) tan 1855 neu efallai 1859.[5] Pentre-poeth sy'n cael ei ddefnyddio gan Gyngor Caerdydd.[6]

Hanes golygu

Mae hanes modern yr ardal yn cychwyn tua diwedd y 18g pan adeiladwyd dyrnaid o fythynod ar dir Morgan William (c.1765–1852) o "Fferm Tynyberllan", a chofnodir hynny yng Nghyfrifiad 1801. Ar fap y Degwm a ddyluniwyd yn y 1840au, gwelir rhagor o fythynod ar ochr orllewinol y ffordd a elwir heddiw yn "Ffordd Tŷ Nant", ynghyd â'r enw Tynyberllan. Mae' fwy na thebyg mai gwaith y tyddynwyr hyn oedd y diwydiannau glo a haearn. Gwelir yr un enwau a'r un teuluoedd ar gofrestr eglwys y plwyf rhwng 1840 a a'r 1870au, ond ni ddefnyddir yr enw "Tynyberllan", ond gyda'r enw Pentre yn 1845 a Phentre-poeth erbyn 1850.

Ceir hefyd gofnodion Capel y Methodiastiaid, sy'n dyddio i 1817.[7] Caewyd yr adeilad presennol. Fe'i codwyd yn wreiddiol yn 1842 (gweler y plac ar y wal), a hynny ar dir Morgan William(s); mae bedd Morgan ym mynwent y capel (m. 1852). Ceir dwy garreg fedd arall yno, hefyd, i gofio dau lowr a fu farw yng Nglofa'r Lan (Gwaelod-y-garth) yn 1875; Moses Llewelyn oedd un o'r rhain, bachgen 13 oed a weithiai yn y lofa fel ceidwad y drysau.[8]

Cymraeg oedd iaith y capel a'r ardal gyfan, ond erbyn 1928, gyda thwf yn nifer y tai, newidiwyd hynny a daeth y gwasanaethau Cymraeg i ben yn 1928.[9]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyngor Cymuned Radur a Phentre-poethl.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Cyfri Twitter Hanes CYmraeg Caerdydd; adalwyd 5 Rhagfyr 2018.
  5. Cyfarfodydd Dirwestol’, Y Gwladgarwr, 28 Mai 1859, t. 6.
  6. Cyngor Caerdydd, Eich Cynghorwyr yn ôl Ward.
  7. Owen John Thomas, 'Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c.1840–1901', yn Geraint H. Jenkins (gol.), Iaith Carreg fy Aelwyd (Caerdydd, 1998), t. 179.
  8. 'Tongwynlais a'r Amgylchoedd', Y Gwladgarwr, 24 December 1875, t. 6.
  9. Prys Morgan, 'Hon ydyw'r Afon ond nid Hwn yw'r Dŵr', in Hywel T. Edwards (ed.), Merthyr a Thaf (Llandysul, 2001), p. 383.