Robert Jones, Llongwr

llongwr o Ddwyran, Ynys Môn

Morwr o Ddwyran, Ynys Môn oedd Robert Jones (tua 1871 – 18 Mawrth 1895), a gofnododd ei hanes mewn llythyrau at aelodau ei deulu.

Robert Jones, Llongwr
Ganwydc. 1871 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mawrth 1895 Edit this on Wikidata
Galwedigaethmorwr Edit this on Wikidata
Robert Jones, llongwr- y llun gwreiddiol ar wydr

Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed. Anfonwyd ef i weithio fel gwas ar fferm oedd yng ngolwg y môr a dywedir y byddai’n sefyll yn aml ar ben berfa i gael gwell golwg ar y llongau oedd yn hwylio heibio![1]

Yn un ar bymtheg oed gadawodd ei gartref yn y School Board House a theithio i Lerpwl i ymuno â chriw y First Lancashire.

First Lancashire golygu

Llong hwyliau oedd y First Lancashire, wedi ei hadeiladu o haearn yn Sunderland gan gwmni Osbourne, Graham ar gost o £22,000. Roedd yn 232 o droedfeddi a'i lled bron yn 37 troedfedd, 1354 o dunnelli. Lansiwyd yn 1875 a H W Owen, Lerpwl, oedd y perchenogion. Cymro oedd y capten, Robert Jones ac mae’n siwr bod hynny o gysur i fachgen uniaith Gymraeg.

Hwyliodd am Calcutta, yn yr India, ar 19 Gorffennaf 1876 ac ni ddychwelodd i Lerpwl hyd 23 Mai 1877. Anfonodd lythyr o’r India ar 14 Tachwedd y flwyddyn honno yn dweud na fyddai’n cychwyn am adref tan ar ôl y Nadolig.

Onid yw’n rhyfeddol bod y bechgyn ifanc hyn yn cyfarfod ei gilydd yn Calcutta mor bell o’u cartrefi dros 140 o flynyddoedd yn ôl! Fe hwyliodd Bob i’r India bedair gwaith ar y First Lancashire cyn bod yn ugain oed gyda’r Capten Robert Jones. Fe gymerodd yr ail fordaith i Rangoon a Calcutta o Fehefin 25, 1887 hyd 14eg o Ebrill, 1888. Rhwng y 10fed o Fai, 1888 a Chwefror 12fed, 1889 bu ar y drydedd fordaith i’r India.

 
Llun a dynnwyd oddi ar bluen o'r First Lancashire yw hwn

‘R oedd yn amlwg oddi wrth ei lythyr o Cape Town ar y bedwaredd fordaith (Ebrill 15, 1889 hyd Mai 1af, 1890) nad oedd yn hapus. Cyrhaeddodd Cape Town, De Affrig, ar y 7fed o Orffennaf, ond yn ôl ei lythyr a ysgrifennodd wythnos yn ddiweddarach, ‘roedd y llong yn dal i ddisgwyl cael mynediad i’r harbwr. Diflas iawn oedd bywyd: “Y mae rhai wrthi hi’n pysgota, a’r lleill wrthi yn golchi, a’r lleill wrthi hi yn shafio, a‘r lleill yn cysgu, a finna wrthi hi yn ysgrifennu. Y mae gen i ofn garw na ddaw hi ddim adref oddi yma.” Ymlaen i Calcutta yr aeth hi.

Yn 1891 gwerthwyd hi i gwmni y Brodyr Richardson o Abertawe, ac yna yn 1895 i gwmni o Finland. Newidiwyd ei henw bryd hynny i Endymion.

 
Y bluen wreiddiol o'r First Lancashire

Tra’n hwylio o Lerpwl i Mobile yn Ebrill 1917 fe’i trawyd gan dorpedo ar yr 16ed o’r mis a daniwyd o long danfor o’r Almaen ac fe’i suddwyd oddi ar arfordir de orllewin Iwerddon. Yn bedair ar bymtheg oed ‘roedd Bob yn amlwg wedi cael digon ar hwylio i’r India!

Y ‘Dusty Miller’ golygu

Un o longau Caernarfon fu hi wedyn -y ‘Dusty Miller’. Fe’i hadeiladwyd yn New Brunswick ym 1869 a’r perchennog oedd John Owen, Tŷ Coch, Caernarfon. Llong gymharol fechan oedd hon i grwydro ymhell—dim ond 595 tunnel. I St John NB y teithiodd rhwng 30 Mai, 1890 a 27 Medi, 1890, gyda Chymro arall yn gapten, William Hughes. Cyn hynny mae adroddiad am y Parch Owen Williams, ysgrifennydd bad achub Abersoch, yn ennill ail ‘glasp’ ar ei fedal arian yn Hydref 1878 am ei ran yn ystod storm yn brwydro i achub y Dusty Miller rhag dyfrllyd fedd ar y ‘Causeway’ a’i chynorthwyo nes daeth cwch dynnu o Borthmadog i’r adwy. Yn Nhachwedd 1950 mae cofnodion harbwr Caernarfon yn sôn am drawst oddi ar y Dusty Miller a gollwyd yn 1897 yn cael ei ganfod yn y cei dros hanner canrif yn ddiweddarach! Am flynyddoedd lawer bu’n ddywediad lleol os byddai rhywun wedi bod yn siopa ac yn dychwelyd yn llwythog: “Mae’r Dusty Miller yn dwad!”

Rhai Teithiau Eraill Tachwedd 1890 o Benbedw i Siapan a Tsieina ar y Ning Suey gan ddychwelyd i Lundain ar y 24ain o Fawrth,1891 Ionawr 1892 o Gaerdydd i ‘Foreign Lands’ ar yr Atacama a dychwelyd i Rotterdam. Mehefin 1892 o Lerpwl i Ynysoedd Indai’r Gorllewin ar y ‘Pallas’ gan ddychwelyd i Lerpwl ar y 14eg o Fedi.

Llongwyr yn helpu llyfrgell golygu

Ymddangosodd yr erthygl isod yn rhifyn Ionawr, 1899, o Cymru’r Plant wedi ei hysgrifennu gan ‘Asiedydd’ o Langefni.

 
Y dudalen allan o Cymru'r Plant, Ionawr, 1899

GWEDDI BOB golygu

MAE llyfrgell lewyrchus yn y Dwyran, Môn. Dywed y Gweinidog,—y Parch. John Williams,—fod y llyfrgell wedi llwyddo tuhwnt i'w disgwyliad, fod ynddi gannoedd o gyfrolau gwerthfawr a'r rhai hynny wedi eu rhoddi gan mwyaf gan garedigion. Mae hanes ei dechreuad yn hynod a diddorol. Fel hyn y dechreuodd, meddai Mr. Williams. "Mae yn y Dwyran yma lawer iawn o forwyr, a rhyw noswaith yr oedd nifer ohonom yn ymddiddan am gael llyfrgell, ac yn ein plith yr oedd capten llong, yr hwn sydd aelod o'r eglwys hon.Ymhen ychydig ddyddiau aeth y capten i ffwrdd at ei long, ynghyd â phedwar eraill o'r ardal hon, y rhai sydd hefyd yn aelodau o'r eglwys." "Cychwynasant ar eu mordaith yn gysurus, ond pan yn amgylchu'r Horn cododd yn ystorm anghyffredin, chwythwyd yr hwyliau yn ddarnau, a chollasant rai o'r cychod. Erbyn hyn yr oedd pethau yn edrych yn ddifrilol; nid oedd dim yn y golwg ond dyfrllyd fedd. Gwahoddodd y capten y criw ynghyd i gael ychydig o ymgynghoriad, ac meddai,— "Wel, fy nghyd forwyr, mae hi ar ben arnom, yn ôl pob peth sydd yn ymddangos ar hyn o bryd. Nid oes dim ond un peth a fyddai yn waredigaeth i ni, a hynny ydyw i'r gwynt droi. Beth ydych chwi yn feddwl fyddai orau i ni wneud?"

" Ac meddai un o'r morwyr,—'Mi faswn i yn cynnig i Bob weddio.'Ac â hynny y cydsyniwyd, ac aeth Bob ar ei liniau i weddio, a gweddi o ddifrif ydoedd. "Y gwirioncdd ydyw hyn. Ymhen pedwar munud ar ddeg fe drodd y gwynt o'u tu, a chyrhaeddasant hwythau y porthladd a ddymunent yn ddiogel. Pa gyfrif bynnag ellir roddi am yr uchod, dyna'r ffaith." " Mor gynted ag y cawsant y lan, aethant i ymgynghori pa aberth a wnaent am y fath waredigaeth amserol. A daethant i'r penderfyniad i anfon gyda’r post cyntaf £5 at sefydlu llyfrgell yn eu cartref yn Nwyran. A dyna ddechrau'r llyfrgell." Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn. Llangefni.ASIEDYDD

Bob golygu

Yn ôl Mary Humphreys, ei brawd hi, Robert Jones, School Board House, Dwyran, oedd y gŵr. Aeth Bob i’r môr yn un ar bymtheg oed. Mae ei dystysgrifau ‘discharge’ yn sicr yn rhoi’r argraff ei fod yn grefyddol iawn ac yn llwyrymwrthodwr.

Credir mai ar yr Afon Alaw roedd Bob yn teithio ac mewn llythyr a anfonodd at ei chwaer o San Francisco o’r llong hwyliau ‘Afon Alaw’ ar Awst 14eg., 1893, ar ôl mordaith o 157 o ddyddiau. Dydi o ddim yn sôn am dywydd drwg ar y fordaith honno, yn wir i’r gwrthwyneb: “Yr oedd yn dda gennyf glywed dipyn o hanes yr hen wlad ar ôl bod mor hir ar y passage o 157 days, y mae’n dda gennyf ddweud wrthych fy mod yn gyffyrddus iawn yma, yr unig beth oedd yn fy meddwl, ofni y buasech yn poeni wrth ein gweld mor hir yr achos oedd na chawsom fawr i gyd o wynt ffafriol, gwynt croes neu ddim gwynt, ni chawsom stormydd trymion chwaith, pob peth yn well na disgwyliad.“

 
Yr Afon Alaw wrth ei hangor

Y rheswm nad yw’n sôn am y digwyddiad yn ôl Mary Humphreys oedd na fynnai i’r teulu boeni yn ei gylch. Ond, mae dirgelwch arall ynglŷn â’r fordaith. ‘R oedd Bob yn parhau yn San Francisco dros ddeufis yn ddiweddarach! Mae ail lythyr o San Francisco wedi ei ddyddio Hydref 27, 1893 o’r llong ‘Dunsyre’ ac yn sôn bod “yma 32 o ddwylaw o bob gwlad, 4 Cymro sydd yma, hynny ydyw enwau Cymraeg, nid ydwyf yn gwybod eto a fedrant y Gymraeg eto ai peidio, heddiw y daethant i’r llong.” ‘Roedd Bob yn ail swyddog ac ar gychwyn ar fordaith i Lundain ymhen tridiau—taith a gymerai rhwng pump a chwe mis yn ôl y llythyr. 'Roedd yn ddirgelwch pam roedd o’n newid llong, a hefyd y rhesymau bod y pedwar Cymro arall yn dychwelyd ar long wahanol. Yn anffodus, ‘d oes dim ateb.

Un o longau Davies y Borth (R. Hughes a’i Gwmni) oedd yr Afon Alaw, yn long hwylio pedwar hwylbren a wasanaethodd o 1891 hyd 1918. Ei chwaer-long oedd yr Afon Cefni. Adeiladwyd yr Afon Alaw gan gwmni Alexander Stephen & Sons o Glasgow ar gyfer Hughes & Co o Borthaethwy, Ynys Môn,a lansiwyd hi ar 18fed o Dachwedd 1891 Fe'i henwyd ar ôl yr afon o'r un enw yng ngogledd-orllewin Môn. Roedd hi'n farc 2,052 tunnell gros, hyd 284 troedfedd, lled 42 troedfedd.Yn 1904 fe'i gwerthwyd i gwmni Cymreig arall, o Lerpwl, W. Thomas & Sons. Cafodd ei gwerthu eto ddiwedd y 1910au i Christiansand o Norwy ac yn 1915 newidiwyd ei henw i ’Storebror’. Yn 1918 suddwyd yr Afon Alaw ym Môr Iwerydd y De gan y llong ryfel Almaenaidd Wulf tra ar ei ffordd i Montevideo, yn Wrwgwái.

Mordaith olaf Bob golygu

Oedd, ‘roedd y môr yng ngwaed Bob ac ar ôl ychydig o seibiant yn Nwyran, Ynys Môn byddai’n ysu am ddychwelyd i’r môr.

Ar y 25ain o Fai, 1894, ysgrifennodd llythyr, o’i gartref yn Nwyran at ei chwaer Mary, oedd yn gweithio yng Nghaergybi ar y pryd, i ddweud wrthi ei fod ar gychwyn i Antwerp i ymuno â chriw y ’Barque Alliance’ oedd am hwylio i Rio de Janeiro a River Plate ac oddi yno i arfordir gorllewinol De America. Llong a adeiladwyd yn Lerpwl oedd hon gan R a J Evans yn 1885 a’ i pherchennog cyntaf oedd R H Roberts o 1885 hyd 1890. Yna fe’i gwerthwyd i J P Evans.

 
Llong olaf Robert Jones, Yr Alliance

Ar y 18fed o Awst,1894, anfonodd Bob lythyr arall at ei chwaer, Mary, o Rio de Janeiro yn canmol y fordaith o 44 o ddyddiau: “Tywydd braf bron ar hyd y ffordd, rhyw ambell i ddiwrnod go squally, ‘rydym mewn porthladd reit neis, y maent yn dweud bod yma 265 o fan ynysoedd i mewn yma, ac y mae ugeiniau o longau yma i gyd, llawer o longau mawrion iawn rhai yn mynd i mewn ac allan bob dydd.” ‘Doedd o ddim yn hoff iawn o’r dref: “Y mae’r ‘streets’ yn rhy gulion o lawer.” Ond ‘roedd wedi cyfarfod bachgen o Gaergybi yno oedd yn un o griw y Caradoc!

 
Llun arall ar wydr - Bob gyda rhai o'r criw

Ddeufis yn ddiweddarach, ar y 14eg o Hydref,1894, ‘roedd Bob yn dal i fod yn Rio de Janeiro ac eto yn ysgrifennu at ei chwaer i ddweud eu bod yn gadael y diwrnod canlynol. “Wel yr ydym ninnau’n troi allan yfory y 15fed o’r mis yma, yr ydym yma bellach ers 8 wythnos i dydd Iau diweddaf.” “Mae’n debyg y byddwn tua 60 diwrnod ar ein ‘passage’ i Loja ac nid ydym yn gwybod i lle awn oddi yno.”

Ar Ionawr 14eg, 1895, ‘roedd Bob yn anfon llythyr arall at ei chwaer o Chincha Islands, Periw ac yn parhau ar yr ‘Alliance’ fel ail-swyddog. “Nid oes yma ond ‘Bare Islands’, tair sydd yma ohonynt heblaw rhyw greigiau yma ac acw, ‘guano’ ydym yn gael yma neu yn fwy manwl ‘coscodia’ ydwyf yn meddwl ydyw’r enw, neu yn y Gymraeg ‘tail’. Yr ydym yn cael £1-8s-9c am bob tunnell am ddyfod ag ef i Europe ac yn cario dros 15,000 o dunelli. Yr ydym wedi dechrau llwytho ers dydd Sadwrn, sef y 12fed o’r mis ac yn disgwyl mynd oddi yma tua dechrau Chwefror.”

Mae'n anodd credu bod gwledydd yn mynd i ryfel oherwydd giwana! Ond, dyna ddigwyddodd rhwng 1864 ac 1866. 'The Chincha Islands War' gyda Sbaen, ac Isabella yn frenhines, oedd yn ceisio goresgyn Periw a Tsile, er mwyn cael rheoli marchnad y 'mynydd' o giwana oedd yn broffidiol iawn bryd hynny.

Aiff Bob ymlaen i sôn am yr ynysoedd. “Tua 1840 ‘roedd 6,000 yn byw ar yr ynys ond erbyn hynny (1895) dim ond tua 250. Rhai misoedd cyn hynny, ‘doedd neb yno ac felly y bu ers blynyddoedd. Erstalwm ‘roedd brenin arnynt ac ‘roedd rhaid i bob brenin roi ‘link’ ar y tshaen pan fyddai yn dechrau ei frenhiniaeth. Erbyn y brenin diwethaf ‘roedd hi’n tshaen go hir, ond torrodd rhyfel allan, a chuddiodd y brenin hwnnw hi, ac ni chafwyd byth hyd iddi. Yn ôl y sôn ‘roedd hi werth £10,000,000!”

Yna, wrth sôn am yr ynys ganol o’r dair: “Y mae yno fynwent fawr, am wn i mai mynwent fawr yw hi i gyd ac mae digonedd o esgyrn i weld hyd-ddi, llawer iawn o ‘Chinese’ gafodd eu claddu yma. Mi fyddant yn cadw y creaduriaid hynny i weithio nes y byddant yn syrthio yn farwol. Wrth drugaredd nid oes dim or ‘game’ honno rwan.”

Meddyliwch mewn difri’, ‘doedd ryfedd nad oedd neb wedi byw ar yr ynys am flynyddoedd lawer gyda’r fath arogl o’r giwana! Sut oedd bosib’ i’r llongwyr druan ddioddef yr aroglau am fisoedd mewn lle cyfyng ar y llongau? Baw adar oedd y ‘guino’ ac fel y dengys y llun ‘roedd miloedd ar filoedd o adar yno! Rhaid oedd cloddio amdano fel y dengys llun arall. Eto ceir llun yn dangos nifer o longau yn y bae yn profi pwysigrwydd y diwydiant bryd hynny.

Ond ni ddaeth Bob yn ôl i Ddwyran, Ynys Môn. Cododd storm enbyd pan oedd y llong yn hwylio heibio Horn, De America, ar Fawrth 18fed., 1895. Dringodd Bob y mast i ryddhau un o’r hwyliau, er nad oedd hynny yn rhan o waith ail swyddog. Syrthiodd o ben y mast a bu farw. Fe’i claddwyd yn y môr. Er hynny mae ei enw i’w weld ar garreg fedd y teulu ym mynwent Capel Dwyran. Fe ddychwelwyd ei gist i’r Dwyran ac mae hi’n parhau ym meddiant y teulu hyd heddiw.

Beth fu hanes yr ‘Alliance’ wedi hynny? Mae’r ‘Sydney Morning Herald’ Hydref 12, 1897, yn rhoi adroddiad amdani mewn trafferthion yn Moreton Bay ar ei ffordd i Valparaiso gyda llwyth o lo. Fe’i gwerthwyd i gwmni Artadi o Periw yn 1905 ond collwyd hi ger ‘Islas Ballestas’ mewn storm ar y 12fed o Fedi, 1917. Beth oedd ei chargo bryd hynny?

Giwana!

Gweler hefyd golygu

(yn Wikipedia)

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Herald Cymraeg (Daily Post) tair rhan: y gyntaf ar y 14eg o Fedi, 2016, yr ail ran ar 21ain o Fedi, 2016, a'r rhan olaf ar 28ain o Fedi, 2016. Hefyd, yn 'Llafar Gwlad', rhifyn Haf 2011 y cyfan gan Gareth Pritchard.