Meddyg esgyrn oedd Syr Thomas Jones (1870Gorffennaf 1945). Mae Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, Ynys Môn wedi ei enwi ar ei ôl ef.

Syr Thomas Jones
Ganwyd1870 Edit this on Wikidata
Bu farwGorffennaf 1945 Edit this on Wikidata
Mae'r ysgol uwchradd yn Amlwch, Ynys Môn wedi ei henwi ar ôl y meddyg esgyrn

Bywyd Cynnar

golygu

Yn chwedegau yr 20g, yn anffodus, nemor ddim a ddysgwyd i ddisgyblion yr am y gŵr oedd a’i enw ar yr ysgol. Roedd yn aelod o deulu Meddygon Esgyrn Môn, yn fab i Mary, merch Margaret, gwraig Richard Hughes Tanrallt a chwaer i Evan Thomas, Lerpwl, y meddyg esgyrn enwog.[1]

Cafodd Thomas Jones ei eni ym Mynydd Adda, Llanddeusant yn 1870. Bu farw ei dad pan oedd Thomas yn ddwy ar bymtheg oed. Ymhen blwyddyn collodd ei frawd Owen o’r dicáu.[2] Roedd gan Thomas a Owen ful yn anifail anwes a byddent yn ei farchogaeth o amgylch y cae ond os oedd unrhyw un o’u cyfeillion yn mentro ar ei gefn, byddai’r mul yn eu taflu i’r eithin!

Cafodd Thomas ei addysg gynnar yn Ysgol Llanddeusant ac yr oedd gwaith caled yn apelio iddo a phrofodd ei hyn yn ddisgybl cydwybodol yn yr ysgol. O’r llyfr log am Hydref 1af, 1880 gwelir y cofnod a ganlyn yn llaw’r pennaeth:

Oct. 1st. 1880.

Average: 55. Attendance fair-considering weather, field work and other causes. Bills of parcels introduced to the Third Standard in the Simple Ordinary way. Those who made the greatest progress during the week were: Thos. Jones, Plas Newydd. Salina Pritchard of Maes y Felin. Thomas Jones, Mynydd Adda.

,[3]

Meddygaeth

golygu

Llwyddodd brawd arall iddo, William, oedd wedi sefydlu ei hun fel adeiladydd yn Lerpwl, i drefnu lle iddo, wedi cyfnod o hyfforddiant meddygol dan law ei gefnder Dr W.R. Parry-Jones, yn y Liverpool Institute. Aeth Thomas ymlaen i dderbyn graddau ac anrhydeddau y byd meddygol. Graddiodd o Goleg Owen, Stryd Oxford, Manceinion a thystysgrif mewn Llawfeddygaeth yn 1896. Aeth i weithio fel ‘locum’ – un sydd yn cymryd lle un arall dros dro ac astudio ar gyfer gradd M.R.C.S.(Lloegr) Member of the Royal College of Surgeons a L.R.C.P.(Llundain) Licentiate of the Royal College of Physicians of London.

Ei swydd gyntaf oedd efo’i gefnder–Dr Parry-Jones, Wrecsam; yna cafodd ei apwyntio yn lawfeddyg yn Ysbyty Penbedw ac yn ddiweddarach yn Ysbyty Bwrdeistref Broughton, yn Bootle ac yn arolygwr meddygol Cyngor Bootle. Derbyniodd wybodaeth gan ei ewythr o Lannerch-y-medd am swydd yn Amlwch. Roedd rhwng dau feddwl pa un a’i ymgeisio amdani neu peidio. Cynigwyd iddo ddwywaith ei gyflog i aros yn Bootle ond yr oedd yn awyddus i ddychwelyd i Fôn ac i briodi. Ar dafliad ceiniog, fe syrthiodd honno a’i hwyneb i fyny felly dewisodd y swydd yn Amlwch. Fe’i apwyntiwyd yn Swyddog Iechyd a Brechiadau ardal Amlwch ac i Gyngor Gwledig Twrcelyn a Chyngor Dinesig Amlwch. Roedd hefyd yn lawfeddyg Swyddfa’r Post, y Llynges yn ogystal â bod yn ganolwr meddygol i’r Prudential a chwmnïau yswiriant eraill. Ni fu’n edifar ganddo ‘r symudiad ac ar ei farw yr oedd yn cydnabod iddo fod yn eithriadol hapus yn Amlwch ar hyd ei oes. Cafodd enw da fel meddyg esgyrn ac fel meddyg teulu.

Ganwyd iddo ef a’i wraig dri o blant: Dilys-g. 1901 ac a adnabuwyd fel Miss Jôs Doctor. Bu farw yn 2000; John Glyn-g. 1905. Meddyg a addysgwyd yn ysgol fonedd Leys yng Nghaergrawnt a Choleg Caius Caergrawnt a Choleg Ysbyty Prifysgol Llundain. Graddiodd yn MA (Cantab), MB, BCh, MRCS (Lloegr) a LRCP (Llundain). Yn 1935 fe’i apwyntiwyd i swydd Physegwr Cynorthwyol Y Dicáu Gorllewin Mynwy. William Hywel-g. 1909. Fel ei frawd yn feddyg ac wedi ei addysgu yn yr un ysgol a Choleg Downing, Caergrawnt a Choleg Ysbyty Prifysgol Llundain. Graddiodd yn MRCS (Lloegr) a LRCP(Llundain) a bu’n swyddog meddygol trigiannol Ysbyty Wembley. Roedd yn un â diddordebau eang gan gynnwys byd y ddrama ac ef oedd awdur y ddrama bortread o hanes bywyd a thrafferthion Evan Thomas, Stryd Great Crosshall, Lerpwl.

Roedd sawl gwedd i’w waith ac er cymaint y dreth ar ei amser ym maes meddygaeth, yr oedd hefyd yn ŵr cyhoeddus iawn. Cafodd ei ethol ar Gyngor Tref Amlwch yn 1898. Gweithredodd mewn sawl swydd ac ar sawl pwyllgor gan gynnwys bod yn Ustus Heddwch yn 1914, swydd a ddaliodd am dros ddeugain mlynedd. Roedd ei adnabyddiaeth o rai o’r troseddwyr yn gaffaeliad mawr iddo ar y Fainc a hwythau yn teimlo iddynt dramgwyddo fwy yn erbyn y meddyg na’r Gyfraith. Cafodd ei ethol yn aelod o bwyllgor llywodraethwyr Coleg y Normal, Bangor ac yn aelod o Lys Coleg Prifysgol Bangor, pwyllgor rheoli y Gwallgofdy yn Ninbych ac yn llywydd Pwyllgor Addysg Môn.

Addysg

golygu

Roedd wedi ei ethol yn aelod o Gyngor Sir Môn yn Chwefror 1902 ac yn gadeirydd y cyngor o Fawrth 1913 i Fawrth 1915. Fe’i gwnaed yn henadur yn 1914. Efallai mai y swydd fwyaf arwyddocaol a ddaliodd oedd cadeirydd Pwyllgor Addysg Môn. Roedd ganddo ddiddordeb mawr ym mholisïau’r Llywodraeth a’r Cyngor Sir ar gyfer Amlwch. Bu’n arwain y gad i agor ysgol Brydeinig yn Neuadd Goffa’r dref a chefnogi trosglwyddiad honno yn ysgol uwchradd. Cyn hynny yr oedd gofyn i blant o oedran uwchradd deithio i ac aros yn Llangefni am wythnos ar y tro ond pan aeth rhan o’r ysgol uwchradd honno ar dan, sefydlwyd ysgol uwchradd yn Amlwch. O dan gadeiryddiaeth Thomas Jones o’r Pwyllgor Addysg agorwyd yr ysgol gyfun gyntaf yng Nghaergybi. Roedd o’r farn fod raid i’r fam ynys roi arweiniad i weddill Cymru. Credai fod yr hyn oedd Môn yn ei wneud gyntaf yn cael ei ddilyn gan weddill Cymru wedyn.

Nid yw ysgol gyfun yn dewis ei disgyblion ar sail eu gallu felly mae pawb sydd yn cael mynediad i addysg gyfun i dderbyn yr un cyfleoedd. Cyn yr Ail Ryfel Byd yr oedd raid talu am addysg uwchradd ac yr oedd hyd at 80% yn gadael yr ysgol wedi eu penblwydd yn bedair ar ddeg. Yn dilyn y rhyfel a phasio Deddf Addysg 1944 cafwyd addysg rad i ddisgyblion ond yr oedd raid pasio’r arholiad 11+ i gael mynediad i ysgol uwchradd. Oherwydd anfodlonrwydd efo’r arholiad 11+, gwelwyd arbrofion parthed addysg gyfun yn cael eu cynnal o 1940 ymlaen. Roedd Ynys Môn yn un o’r awdurdodau addysg cyntaf i dreialu addysg gyfun yn y sector uwchradd. Agorwyd Ysgol Sirol Caergybi fel yr ysgol gyfun gyntaf yng Nghymru a Lloegr yn 1949.

Cyflwynodd dir ym Mhentref elin, Amlwch ar gyfer adeiladau’r ysgol sy’n dwyn ei enw, a honno, fel Ysgol Gyfun Llangefni, yn un ellid ei defnyddio fel ysbyty pe bai angen, a chyflwynodd wobr o £400 i’w rhannu rhwng disgyblion yn ysgolion uwchradd y sir oedd wedi eu dewis fel yr arweinyddion gorau. Swyddi eraill a ddaliodd oedd aelod a Gymdeithas Salwch Meddwl Cymru a Lloegr yn 1930 ac yn 1942 fe’i etholwyd yn gadeirydd y gymdeithas honno-y Cymro cyntaf i’w ethol i’r swydd.

Yn 1943, cafodd ei enwebu ar gyfer derbyn O.B.E. yn rhestr anrhydeddau’r brenin ond mynnodd Ardalydd Môn ar y pryd y dylai gael ei ddyrchafu yn farchog [4] ac felly bu. Bu bron iddo fethu ei arwisgiad yn y Palas, yn Llundain. Fel y teithiai o a’i wraig o Amlwch i’r Fali i ddal y trên i Lundain, torrodd y car i lawr yn Llanynghenedl. Roedd ffôn gyhoeddus yn rhywbeth prin iawn y dyddiau hynny a’r ffôn symudol yn ddim ond breuddwyd bell. Rywsut neu’i gilydd llwyddwyd i anfon neges i’r stesion yn Y Fali a gofyn iddynt ddal trên Llundain yn ôl nes i’r ddau deithiwr gyrraedd.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref Gwydn, Amlwch yn saith deg pedwar oed ddiwedd Gorffennaf 1945. Roedd wedi dioddef o gancr y gwddw ers rhai misoedd ond er gwaethaf ei waeledd yr oedd wedi ymdrechu hyd y diwedd ac yn yr wythnos cyn ei farw, gwahoddwyd pwyllgor gwaith y Cyngor Sir i’w ystafell wely i ddewis pennaeth i ysgol sirol Caergybi.

Pontiodd Thomas Jones ddau gyfnod yn ei waith a’i ddiddordebau. Er mai plentyn y 19g ydoedd, daeth ag arferion meddygaeth a syniadau addysgol yr ugeinfed ganrif i Amlwch ac i Ynys Môn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ers Lles Llawer. JR Williams. Gwasg carreg Gwalch. 2014
  2. Hanes Meddygon Esgyn Môn.H. Hughes-Roberts. Cymdeithas Eisteddfod Gadeiriol Môn 1935
  3. Llyfr Log Ysgol Llanddeusant. Archifdy Môn, Llangefni.
  4. The London Gazette. 31 Rhagfyr 1943.