Llanynghenedl

pentref ar Ynys Môn

Pentref bychan yng nghymuned Y Fali, Ynys Môn, yw Llanynghenedl[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng ngogledd-orllewin yr ynys ar briffordd yr A5025 gerllaw ei chyffordd gyda'r B5109, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r Fali ac i'r de o Lanfachraeth.

Llanynghenedl
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2985°N 4.5305°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Dywedir fod yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Enghenedl (amrywiad: "Ynghenedl"), ar safle eglwys hŷn yn dyddio i'r 7g.

Ceir maen hir mewn cae ger y pentref a adnabyddir fel "Maen hir Llanynghenedl".

Maen hir Llanynghenedl

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato