Y Tadau Methodistaidd (llyfr)
Mae Y Tadau Methodistaidd: eu llafur a'u llwyddiant gyda gwaith yr Efengyl yn Nghymru, Trefydd Lloegr, America ac Awstralia: ynghyd a nifer mawr o ddarluniau o bersonau a lleoedd nodedig yn llyfr mewn dwy gyfrol gan y Parch John Morgan Jones, Caerdydd [1] a William Morgan, Dowlais. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf ym 1895 a'r ail gyfrol ym 1897 gan wasg Lewis Evans, Abertawe.
Cynnwys
golyguPrif gynnwys y llyfr yw bywgraffiadau am y Cymry bu'n fwyaf dylanwadol wrth sefydlu enwad Y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys penodau am gefndir a phrif ddigwyddiadau yn hanes cynnar yr enwad. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[2]
Cyfrol I
golyguMae'r gyfrol gyntaf yn agor gyda phennod am sefyllfa foesol Cymru adeg cychwyn Methodistiaeth. Mae'r ail bennod yn rhoi bywgraffiad o Griffith Jones, Llanddowror a'i waith pwysig gyda'r ysgolion cylchynol ac argraffu Beiblau a llyfrau crefyddol fforddiadwy i'r werin. Mae'r drydedd bennod yn sôn am Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr, gan nodi mae nid rhywbeth a ddeilliodd yn uniongyrchol o Loegr yw Methodistiaeth Cymru. Mae'r bennod yn nodi bod Howell Harris a Daniel Rowland, Llangeitho wedi bod yn efengylu yng Nghymru dwy flynedd cyn sefydlu'r Clwb Sanctaidd yn Rhydychen gan Charles Wesley, George Whitefìeld a'r Cymro John Gambold.[3]
Wedi pennod yn rhoi bywgraffiad Daniel Rowlands ddaw nifer o benodau yn ymdrin â bywyd a gwaith Howell Harris. Mae'r penodau hyn yn dibynnu yn drwm ar ddyddiaduron Harris a chanfuwyd gan John Morgan Jones yng Ngholeg Trefeca wedi iddynt fod ar goll neu'n anghofiedig am ddegawdau. Yng nghanol y penodau am Harris ceir hefyd penodau yn trafod twf yr achos yn ystod ei wyth mlynedd gyntaf, sefydlu'r Gymdeithasfa (corff rheoli) a phennod yn trafod cynghorwyr cynnar yr enwad:[4]
- Richard Tibbot , Llanbrynmair
- Lewis Evan, Llanllugan
- Herbert Jenkins, Mynyddislwyn
- James Ingram, Trefeca
- James Beaumont, Maesyfed
- Thomas James, Cerigcadarn
- Morgan John Lewis
- David Williams, Llysyfronydd
- Thomas Williams, Bethesda'r Fro
- William Edward, yr Adeiladydd
- William Richard
- Benjamin Thomas
- John Harris, St. Kennox
- John Harry, Treamlod
- William Edward, Rhydygele
Mae penodau eraill yn rhoi bywgraffiadau William Williams, Pantycelyn; Peter Williams; David Jones, Llan-gan; William Davies, Castell-nedd; Dafydd Morris, Twrgwyn a William Llwyd o Gaio. Mae pennod hefyd am yr ymraniad yn yr enwad rhwng cefnogwyr Howell Harris a chefnogwyr Daniel Rowlands
Cyfrol II
golyguMae cyfrol dau yn agor gyda hanes cychwyniad Methodistiaeth yng Ngwahanol rannau o Wynedd (h.y. gogledd Cymru). Mae'r gyfrol yn cynnwys penodau bywgraffiadol am:[5]
- John Evans, o'r Bala
- Robert Roberts, Clynnog
- Robert Jones, Rhoslan, a Robert Dafydd, Brynengan
- John Roberts, Llangwm
- Thomas Foulkes, Machynlleth; Dafydd Cadwaladr; John Jones, Bodynolwyn; Evan Evans, Waunfawr a John Griffith Ellis, Llŷn
- William Thomas, Y Pîl a Siencyn Thomas, Penhydd
- Christopher Basset, Thomas Gray, ac Edward Coslet
- John Williams, Pantycelyn (mab William Williams, y pêr ganiedydd); John Evans, Cilycwm a Morgan Rhys
a thair pennod yn trafod bywyd a gwaith Thomas Charles o'r Bala. Fel rhan o'r ymdriniaeth a Thomas Charles ceir pennod yn ymdrin â'r penderfyniad gan y Methodistiaid i dorri ffwrdd o fod yn gymdeithas grefyddol o fewn Eglwys Loegr. Wedyn ddaw tair pennod yn trafod yr offeiriaid Methodistaidd a ymadawodd ag Eglwys Loegr a'r rhai a arhosodd yn eu hen eglwys.
Mae'r llyfr yn dod i ben gyda chwaneg o bennod fywgraffiadol am
- Ebenezer Morris, olynydd Daniel Rowlands yn Llangeitho
- Thomas Jones, Dinbych
- John Elias
- Ebenezer Richard, Tregaron (tad Henry Richard AS, "Yr Apostol Heddwch.")
Darluniau
golyguYn ogystal â hanes yr enwad a bywgraffiadau ei sylfaenwyr mae'r llyfr yn frith o ddarluniau a ffotograffau. Ceir lluniau o wrthrychau'r erthyglau, lluniau o'u cartrefi a'u capeli a lluniau o'u beddau. Ceir hefyd lluniau o lefydd o bwys yn hanes datblygiad Methodistiaeth Gymreig. Dyma ddetholiad o rai ohonynt.
-
Eglwys Llanddowror
-
Methodistiaid Lloegr bu'n weithgar yng Nghymru
-
Wynebddalen llyfr emynau cyntaf Pantycelyn
-
Capel Alpha, Llanfair-ym-Muallt
-
Robert Dafydd, Brynengan
-
Cefn Nannau; cartref John Roberts, Llangwm.
-
Bedd Ebenezer Morris ym Mynwent Troedyraur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "JONES, JOHN MORGAN (1838 - 1921), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-15.
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2020-01-15.
- ↑ Jones, John Morgan; Morgan, William (1895). Y tadau methodistaidd : eu llafur a'u llwyddiant gyda gwaith yr Efengyl yn Nghymru, Trefydd Lloegr, America ac Awstralia : ynghyd a nifer mawr o ddarluniau o bersonau a lleoedd nodedig. Robarts - University of Toronto. Copi o'r gyfrol gyntaf ar Internet Archive: Abertawe : L. Evans.
- ↑ Nodyn: Pregethwyr lleyg oedd y cynghorwyr, ond gan ei fod yn anghyfreithiol i ddyn heb ei ordeinio'n weinidog pregethu, rhoi "gair o gyngor" am grefydd oedd y cynghorwyr
- ↑ Jones, John Morgan; Morgan, William (1897). Y tadau methodistaidd : eu llafur a'u llwyddiant gyda gwaith yr Efengyl yn Nghymru, Trefydd Lloegr, America ac Awstralia : ynghyd a nifer mawr o ddarluniau o bersonau a lleoedd nodedig. Copi o'r ail gyfrol ar Internet Archive: Abertawe : L. Evans.