Treamlod

pentref a chymuned yn Sir Benfro

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Treamlod[1] (Saesneg: Ambleston). Saif yng nghanolbarth y sir, 11 milltir i'r gogledd o dref Hwlffordd ac i'r dwyrain o'r briffordd A40. Credir fod yr enw yn deillio o dir oedd yn eiddo i ryw "Amelot", enw Hen Ffrangeg. Ail-adeiladwyd Eglwys y Santes Fair yn 1906, ond mae'r tŵr o'r 12g.

Treamlod
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth382 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,557.37 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8948°N 4.9064°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000408 Edit this on Wikidata
Cod OSSN0025 Edit this on Wikidata
Cod postSA62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Heblaw Treamlod ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys penrefi Wstog a Wallis. Mae Capel Wstog yn nodedig am mai yma, yn 1755, y cynhaliwyd gwasanaeth cymun am y tro cyntaf yn un o gapeli'r Wesleaid yng Nghymru. Y ffîn ogleddol yw hen drac sy'n arwain tua Tyddewi; arferai fod yn ffin ogleddol cantref Daugleddau, a dywed George Owen yn 1602 mai yma yr oedd ffin ieithyddol Sir Benfro. Dywed ef fod Treamlod yn ddwyieithog.

Treamlod

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 367.


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Treamlod (pob oed) (382)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Treamlod) (129)
  
34.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Treamlod) (257)
  
67.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Treamlod) (39)
  
28.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]