Ymateb rhyngwladol i ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza 2010
Mae llawer o wledydd wedi beirniadu Israel am ymosod ar gwch dyngarol yn cludo cymorth i Gaza ar 31 Mai 2010 gan ladd o leiaf 10 o sifiliaid. Er enghraifft, ar 05 Mehefin, penderfynodd gweithwyr porthladdoedd Sweden atal pob cwch o Israel rhag mynd a dod, sy'n golygu na fydd nwyddau o Israel yn cael eu prynu yn y wlad.[1] Dywedodd Prif weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdogan, The insolent, irresponsible and impudent attack by Israel, which went against law and trampled human honour underfoot, must definitely be punished.[2]
Enghraifft o'r canlynol | reaction |
---|---|
Yn cynnwys | National reactions to the Gaza flotilla raid |
Mae'r erthygl hon yn cofnodi'r ymateb rhyngwladol i ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza 2010.
Cyrff rhyngwladol
golygu- Galwodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-moon am "ymchwiliad llawn i ddadlenu'n union sut y digwyddodd y gyflafan yma."
- Dywedodd Navanethem Pillay, sef Uwch-gomisiynydd dros Iawnderau Dynol y Cenhedloedd Unedig, "Mae'n rhaid i mi ddatgan fy sioc o'r adroddiadau fod cymorth dyngarol wedi gorfod wynebu trais y bore 'ma."[3]
- Dywedodd Robert H. Serry, Cydgysylltydd Dros Heddwch y Dwyrain Canol ar ran y Cenhedloedd Unedig, "Mae trasiedïau fel hyn yn siŵr o barhau os nad ydy Israel yn gwrando ar y gymuned ryngwladol..."[4]
- Camodd yr Unol Daleithiau i fewn i'r trafodaethau gan atal y Cenhedloedd Unedig rhag fynnu bod unrhyw ymchwiliad i'r mater yn annibynnol ("impartial") a'u hatal rhag "condemnio'r gweithredoedd a arweiniodd i'r lladd."
Gwrthwynebiadau drwy Ewrop
golyguAelodau o'r Undeb Ewropeaidd
golygu- Galwodd Llywydd Senedd Ewrop, sef Jerzy Buzek, yr ymosodiad yn ymosodiad na ellir mo'i gyfiawnhau ac yn "clear and unacceptable breach of international law, especially the fourth Geneva Convention".
- Fe ddylai Israel, yn ôl Uwch Gynrychiolydd yr Undeb Ewropeaidd dros faterion tramor a pholisiau diogelwch (High Representative of the Union for Foreign Affairs and Security Policy), sef Catherine Ashton, ymchwilio'n drylwyr i sut y lladdwyd y sifiliaid ar y llynges ddyngarol.
- Dywedodd Ysgrifennydd Tramor Gwlad Belg, Steven Vanackere, fod Israel wedi "gorymateb".[6]
- Mae Ysgrifennydd Tramor Denmarc Lene Espersen wedi galw llysgennad Israel i'w swyddfa ac wedi gofyn iddo roi esboniad dros yr hyn a ddigwyddodd.[7]
- Roedd Alexander Stubb, Ysgrifennydd Tramor Ffindir mewn cryn "sioc" ar ôl y digwyddiad a galwodd yntau am eglurhad llawn gan Israel o'r hyn a wnaethent.[8]
- Dywedodd Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, fod Israel wedi defnyddio gormod o rym yn erbyn y llynges ddyngarol.[9]
- Ysgrifennydd Tramor ac Ewropeaidd Ffrainc ydy Bernard Kouchner, a dywedodd ei fod wedi cael "sioc dybryd" ac "na ellir cyfiawnhau trais fel hyn, ac mae Ffrainc yn ei gondemnio."[10]
- Yn yr Almaen, dywedodd Canghellor y wlad, Angela Merkel, fod ymateb Israel wedi bod yn llawer rhy lawdrwm.[11]
- Dywedodd Ysgrifennydd Tramor yr Almaen (Guido Westerwelle) hefyd ei fod yn "poeni'n arw" am y sefyllfa ac o'r marwolaethau pan ymosododd comandos Israel ar y llynges ddyngarol o chwech cwch a oedd ar ei ffordd i Gaza.[12]
- Mae ymarfer milwrol ar y cyd rhwng Groeg ac Israel ("Minoas 2010") wedi ei stopio gan Groeg yn ôl Ysgrifennydd Tramor y wlad, sef Dimitris Droutsa. Roedd dwy long wedi eu cofrestru yng Ngroeg sef yr Eleftheri Mesogeios a'r "Sfendoni".
- Iwerddon. Dywedodd y Taoiseach Brian Cowen fod y "the blockade action (gan Israel) was a violation of international law." Dywedodd hefyd fod ymosodiad Israel wedi bod yn llawer rhy drwm.[13]
- Yr Eidal. Condemniodd Ysgrifennydd Tramor yr Eidal, Franco Frattini, y llofruddiaethau gan Israel gan ddweud fod yr hyn maen nhw wedi'i wneud yn weithred enbyd iawn. "I deplore in the strongest terms the killing of civilians. This is certainly a grave act". Galwodd hefyd am ymchwiliad llawn.[14]
- Condemniodd Dirprwy Brif Weinidog Lwcsembwrg "yr Israeliaid hynny sy'n gyfrifol am ymosod ar y llynges ddyngarol hon". Galwodd hefyd am ymchwiliad rhyngwladol i'r mater yn hytrach nac ymchwiliad gan Israel.[15]
- Disgrifiwyd ymosodiad Israel gan David Cameron fel gweithred "annerbyniol", a galwodd ar Israel "i ymateb yn adeiladol i'r feirniadaeth rhyngwladol".[16]
- Meddai Nick Clegg: "Whilst, of course, Israel has every right to defend itself and its citizens from any attack, it must now move towards lifting the blockade in Gaza as soon as possible."[17]
- Galwodd William Hague, yr Ysgrifennydd Tramor, ar i Israel agor ei ffiniau i gymorth dyngarol.[18]
- Dywedodd Fiona Hyslop Ysgrifennydd Materion Allanol Senedd yr Alban, "The use of violence against a humanitarian convoy carrying medicine and other aid is being spoken out against right across the world. The blockade of Gaza is causing untold suffering to ordinary Palestinians and must be brought to an end."
Gwledydd nad ydynt yn Aelodau o'r Undeb Ewropeaidd
golygu- Condemniodd Ysgrifennydd Tramor Gwlad yr Iâ, sef Össur Skarphéðinsson gweithredoedd Israel gan ddweud fod deddfau rhyngwladol yn cael eu torri gan Israel ac nad ydy Gaza, mewn gwirionedd, yn ddim byd ond carchar enfawr i'r Palesteiniaid.[19]
- Dywedodd Prif Weinidog Norwy, Jens Stoltenberg, fod "ymosodiad milwrol ar sifiliaid yn gwbwl annerbyniol."[20]
- Mynegodd llefarydd ar ran Ysgrifennydd Tramor Rwsia ei "bryder a'r gondemniad o weithred Israel" a dywedodd fod "defnyddio arfau ar sifiliaid yn ogystal â chymeryd drosodd cychod, fel hyn, a hynny mewn dyfroedd rhyngwladol, yn mynd yn groes i arferiad derbyniol a rhyngwladol."[21]
Gwledydd Pro-Israel
golygu- Roedd Prif Weinidog Israel, sef Benjamin Netanyahu, yng Nghanada pan saethodd ei filwyr sifiliaid y llynges ddyngarol. Dywedodd ei fod yn "cefnogi'n llwyr" gweithred ei filwyr a gohiriodd ei ymweliad i'r Unol Daleithiau - ble roedd i gyfarfod Arlywydd y Wlad, Barack Obama.[22]
- Dywedodd Llysgennad Israel yng ngwledydd Prydain sef Ron Prosor, said "It’s obvious — and I won’t beat around the bush on this — that this wasn’t successful and I think it clearly took up an issue that should have been solved differently."[23]
Y cyfryngau
golygu- Galwodd y Financial Times gweithred milwyr Israel yn "brazen act of piracy" ac aeth yn ei flaen i ddweud, "Israel claims the activists had links with extremist groups and that some attacked Israeli soldiers with knives and sticks (and in some accounts the odd light firearm). Even if true, this would not justify the illegal capture of civilian ships carrying humanitarian aid in international waters, let alone the use of deadly force." [24]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.freegaza.org/
- ↑ Times Online. Adalwyd ar 06/06/2010[dolen farw]
- ↑ "UN rights chief shocked at Gaza aid flotilla violence". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2010-05-31.
- ↑ La ONU condena el asalto israelí a la flota humanitaria en Gaza, El Mercurio.
- ↑ Press TV
- ↑ World shocked after Israeli attack, (in Dutch), De Tijd, 31 May 2010
- ↑ "Papur Newydd Denmarc". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-08. Cyrchwyd 2010-05-31.
- ↑ Stubb Shocked at Gaza Aid Flottila Raid, YLE.fi, 31-05-2010
- ↑ Israeli commandos storm aid flotilla; 10 killed, gan Amy Teibel a Tia Goldenberg, The Associated Press, 31 Mai 2010.
- ↑ "Newyddion Ffrainc". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-03. Cyrchwyd 2010-05-31.
- ↑ [1]
- ↑ "Ymateb Ysgrifennydd Tramor yr Almaen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-31. Cyrchwyd 2010-05-31.
- ↑ Newyddion 'RTÉ News' - Deaths as Israel boards Gaza-bound ships (31 Mai 2010)
- ↑ Papur Newydd Ha'aretz Daily Newspaper
- ↑ ""Je condamne fermement les responsables du raid contre la flottille" (Ffrangeg), Le Quotidien, 31 Mai 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2010-05-31.
- ↑ "British PM tells Netanyahu Israeli raid was 'unacceptable'", YnetNews.
- ↑ "Herald of Scotland". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-04. Cyrchwyd 2010-06-02.
- ↑ "Israeli raid on Gaza flotilla"; BBC News; 31 Mai 2010
- ↑ "Össur fordæmir framferði Ísraela"
- ↑ ""Outrage over Israeli attack," Al Jazeera
- ↑ "Russia condemns Israel over Gaza flotilla attack", RIA Novosti, 31-05-2010
- ↑ Teitl: "More Than 10 Dead After Israel Intercepts Gaza Aid Convoy; 31 May 2010; Wall Street Journal
- ↑ Papur The Hindu
- ↑ "Israel is lost at sea" (Financial Times, 31 Mai, 2010)