Brwydr Cydweli
Roedd buddugoliaeth Byddin y Cymry dros y Saeson ym Mrwydr Cydweli yn un eithriadol o bwysig.[1] Fe'i hymladwyd yn 1258 yn nhref Cydweli, Sir Gaerfyrddin.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|
Roedd yn un o gyfres o ymgyrchoedd a arweiniwyd gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn erbyn y Saeson (neu'r 'Anglo-Normaniaid') ac yn dilyn yn agos at fuddugoliaeth y Cymry ym Brwydr Coed Llathen a chipio nifer o gestyll yn ôl i feddiant Llywelyn, gan gynnwys Talacharn, Llansteffan ac Arberth. Ym Mrwydr Cydweli, arweiniwyd y Saeson gan Patrick de Chaworth. Cyfeiria'r Annales Cambriae at y frwydr hon.
Y frwydr
golyguYn dilyn llwyddiant y Fyddin Gymreig yn Nyffryn Tywi, cododd wersyll ychydig i'r de o Afon Gwendraeth Fach y tu allan i dref Cydweli ar ddull gwarchae. O'u castell yng Nghaerfyrddin, teithiodd Patrick de Chaworth a'i filwyr mewn gwrth-ymosodiad, er mwyn codi'r gwarchae ar Gastell Cydweli. Credir iddynt deithio i'r de yn agos at Allt Cunedda. Cafwyd brwydr enbyd rhwng y fan hon a gwersyll y Cymry i'r gogledd o'r castell. Ger pont Cydweli anafwyd y bradwr Maredudd ap Rhys. Roedd y Fyddin Gymreig yn rhy gryf i'r Saeson a gwelwyd nhw'n ei gwadnu hi'n ôl tuag at Caerfyrddin, yn aflwyddiannus yn eu hymdrech.
Niferoedd
golyguDywed yr Annales Cambriae i 'lawer o Gymry a Saeson gael eu hanafu a bu farw rhai ohonynt.' Gwyddom i fyddin Llywelyn ladd 3,000 o filwyr Seisnig yn Nyffryn tywi, ychydig yn gynharach.[2] Noda'r Annales hefyd i Dafydd ap Hywel o gantref Arwystli yn ne Teyrnas Powys (gorllewin canolbarth Powys heddiw) gael ei ladd ac iddo gael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur.
Adlodd
golyguNi chlywir na siw naa miw am Maredudd a Patrick tan y mis Medi dilynol, pan godon nhw fyddin fawr ger Aberteifi, lle ymladdwyd Brwydr Cilgerran ar 8 Medi 1258. Y Tywysog Dafydd ap Llywelyn oedd arweinydd Byddin Cymru y tro hwn a lladdwyd Patrick de Chaworth a llawer iawn o farchogion Seisnig eraill; llwyddodd Mareydd, fodd bynnag, i ddianc am ei fywyd i Gastell Cilgerran.[3] Ar 7 Mai fe'i cafwyd yn euog am fradwriaeth gan un o lysoedd Llywelyn a charcharwyd ef am dair blynedd. Bu farw yng Nghastell y Dryslwyn yn 1271.
Tyfodd cryfder Llywelyn ap Gruffudd dros y blynyddoedd dilynol gan gyrraedd ei anterth yn 1263.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; The Battle of Kidwelly; NGR: SN407068; Report on Historical Assessment, Prepared For Cadw by Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales.; adalwyd 28 Gorffennaf 2018.
- ↑ J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd Prince of Wales (Caerdydd, 1998), tt. 98–9.
- ↑ Smith, Llewelyn ap Gruffudd, t. 108.