Reslo yng Ngemau'r Gymanwlad

Mae reslo wedi bod yn rhan o Gemau'r Gymanwlad ers y Gemau cyntaf yn Hamilton, Canada ym 1930. Cyflwynwyd reslo i ferched am y tro cyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd, India[1].

Mae reslo yn un o'r campau opsiynol ac nid oedd yn rhan o'r Gemau ym 1998 yn Kuala Lumpur na'r Gemau yn 2006 yn Melbourne.

Dim ond tair gwlad; Canada, Lloegr a De Affrica gymrodd rhan yn y gystadleuaeth gyntaf ym 1930 ond roedd 23 o wledydd gwahanol yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia[2]

Gemau Blwyddyn Dinas Gwlad Gwlad mwyaf llwyddiannus
I 1930 Hamilton   Canada   Canada
II 1934 Llundain   Lloegr   Canada
III 1938 Sydney   Awstralia   Awstralia
IV 1950 Auckland   Seland Newydd   Awstralia
V 1954 Vancouver   Canada   De Affrica
VI 1958 Caerdydd   Cymru   De Affrica
VII 1962 Perth   Awstralia   Pacistan
IX 1970 Caeredin   Yr Alban   Pacistan
X 1974 Christchurch   Seland Newydd   India
XI 1978 Edmonton   Canada   Canada
XII 1982 Brisbane   Awstralia   Canada
XIII 1986 Caeredin   Yr Alban   Canada
XIV 1990 Auckland   Seland Newydd   Canada
XV 1994 Victoria   Canada   Canada
XVII 2002 Manceinion   Lloegr   Canada
XIX 2010 Delhi Newydd   India   India
XX 2014 Glasgow   Yr Alban   Canada
XXI 2018 Arfordir Aur   Awstralia

Tabl medalau

golygu

Wedi Gemau'r Gymanwlad 2014

 Safle  Gwlad Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Canada 64 38 23 125
2   India 38 35 17 90
3   Pacistan 20 11 8 39
4   Awstralia 14 22 15 51
5   De Affrica 12 8 11 31
6   Nigeria 6 9 19 34
7   Lloegr 5 22 36 63
8   Seland Newydd 3 9 17 29
9   Yr Alban 1 5 15 21
10   Camerŵn 0 3 3 6
11   Cyprus 0 0 1 1
  Gogledd Iwerddon 0 0 1 1
  Cymru 0 0 1 1
  Sambia 0 0 1 1
  Simbabwe 0 0 1 1
Cyfanswm 163 162 169 494

Medalau'r Cymry

golygu

Craig Pilling oedd y Cymro cyntaf erioed i ennill medal reslo yng Ngemau'r Gymanwlad yn ystod Gemau 2014 yn Glasgow, Yr Alban.

Medal Enw Pwysau Gemau
Efydd Craig Pilling 57 kg XX

Cyfeiriadau

golygu
  1. "I look at all the girls who started wrestling with me and they all stay at home and look after their children". ESPN. 2018-04-=10. Check date values in: |date= (help)
  2. "Wrestling Daily Schedule". GC2018.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-14. Cyrchwyd 2018-04-12.