Bowlio lawnt yng Ngemau'r Gymanwlad

Mae bowlio lawnt wedi bod yn rhan o Gemau'r Gymanwlad ers y Gemau cyntaf yn Hamilton, Canada ym 1930. Ni chafodd ei chwarae yn ystod Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966 gan nad oedd digon o lawntiau bowlio yn bodoli yn Kingston, Jamaica[1] ond ers 2010, mae bowlio lawnt yn un o'r 10 camp craidd sydd yn rhaid ei gynnal mewn Gemau Gymanwlad. Mae bowlio hefyd yn un o'r campau sydd â chystadlaethau i Athletwyr Elît gydag Anabledd (EAD).

Gemau golygu

Gemau Blwyddyn Dinas Gwlad Gwlad mwyaf llwyddiannus
I 1930 Hamilton   Canada   Lloegr
II 1934 Llundain   Lloegr   Lloegr
III 1938 Sydney   Awstralia   Seland Newydd
IV 1950 Auckland   Seland Newydd   Seland Newydd
V 1954 Vancouver   Canada   De Rhodesia
  De Affrica
VI 1958 Caerdydd   Cymru   De Affrica
VII 1962 Perth   Awstralia   Lloegr
IX 1970 Caeredin   Yr Alban   Lloegr
X 1974 Christchurch   Seland Newydd   Lloegr
XI 1978 Edmonton   Canada   Hong Cong
XII 1982 Brisbane   Awstralia   Yr Alban
XIII 1986 Caeredin   Yr Alban   Cymru
XIV 1990 Auckland   Seland Newydd   Awstralia
XV 1994 Victoria   Canada   Yr Alban
XVI 1998 Kuala Lumpur   Maleisia   De Affrica
XVII 2002 Manceinion   Lloegr   Lloegr
XVIII 2006 Melbourne   Awstralia   Awstralia
XIX 2010 Delhi Newydd   India   De Affrica
XX 2014 Glasgow   Yr Alban   De Affrica
XXI 2018 Arfordir Aur   Awstralia   Awstralia

Tabl medalau golygu

Wedi Gemau'r Gymanwlad 2018

 Safle  Gwlad Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Yr Alban 20 10 9 39
2   Lloegr 20 9 22 51
3   De Affrica 19 11 14 44
4   Awstralia 14 23 13 50
5   Seland Newydd 12 12 16 41
6   Cymru 5 11 14 30
7   Gogledd Iwerddon 4 5 11 20
8   Maleisia 4 4 8 16
9   Simbabwe 3 2 7 12
10   Hong Cong 3 2 6 11
11   Papua Gini Newydd 1 1 0 2
12   Canada 0 10 4 14
13   Guernsey 0 1 0 1
  Namibia 0 1 0 1
  Sambia 0 1 0 1
16   Ffiji 0 0 2 2
  Ynys Norfolk 0 0 2 2
17   Botswana 0 0 1 1
  Ynysoedd Cook 0 0 1 1
  Malta 0 0 1 1
Cyfanswm 90 90 111 291

Cyfeiriadau golygu

  1. "1966 Kingston". Inside The Games.