Athroniaeth wleidyddol

(Ailgyfeiriad oddi wrth Damcaniaethwr gwleidyddol)

Athroniaeth sy'n ymwneud â chysyniadau a dadleuon gwleidyddol yw athroniaeth wleidyddol. Mae'n astudio a thrafod pynciau megis rhyddid, cyfiawnder, hawliau a dyletswyddau, rhwymedigaethau, y gyfraith, eiddo, grym, awdurdod, systemau gwleidyddol, a natur llywodraeth, yn enwedig ei phwrpas, ei swyddogaethau a'i chyfreithlondeb.

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolun o ganghennau athroniaeth Edit this on Wikidata
Mathathroniaeth, political studies Edit this on Wikidata
Rhan oathroniaeth, political studies Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

HanesGolygu

Yr HenfydGolygu

Yr hen Roegwyr yw'r cyntaf i fyfyrio ar wleidyddiaeth, yn ôl y traddodiad Ewropeaidd. Amlinella Platon ei weriniaeth ddelfrydol, dan lywodraeth y brenin-athronwyr, yn Y Wladwriaeth. Bu astudiaeth ei ddisgybl Aristoteles ar y pwnc yn hynod o ddylanwadol.

Yr Oesoedd Canol a'r DadeniGolygu

Siapiai'r syniadaeth Gristnogol foreuol parthed gwleidyddiaeth gan ysgrifau Sant Awstin o Hippo. Yn yr Oesoedd Canol, gosododd Tomos o Acwin sail i ddealltwriaeth yr ysgolwyr o'r berthynas rhwng y ffydd a'r llywodraeth.

Yn ystod y Dadeni, y creadur Machiavelli oedd yr un i ddatgelu ac argymell gweithgareddau hunanol y tywysog pwerus yn ei glasur, Il Principe.

Yr 17g a'r OleuedigaethGolygu

Adlewyrchai agwedd sinigaidd debyg i Machiavelli gan Thomas Hobbes yn y 17g, a welodd yr unben yn "lefiathan" angenrheidiol sy'n teyrnasu - ac, os oes angen, yn gormesu - er rheoli'r wlad a galluogi cymdeithas, yr hyn sy'n wahanol i anhrefn naturiol y ddynolryw.

Ychydig wedi Hobbes, datblygodd syniadau mwy radicalaidd ym mywyd gwleidyddol. Arloesai hawliau eiddo gan John Locke, a fe ddadleuodd dros yr angen am lywodraeth deg i orfodi'r gyfraith. Yn ystod Oes yr Ymoleuo, blodeuai syniadau rhyddfrydol, chwyldroadol, a gweriniaethol. Ceisiodd Sefydlwyr yr Unol Daleithiau, gyda chymorth syniadaeth Thomas Paine, greu gwladwriaeth newydd ar sail egwyddorion democrataidd a'u dealltwriaeth o ryddid. Yr adeg hon, cyhoeddai Adam Smith ei gyfrolau athrylith ar bwnc cyfoeth cenhedloedd, gan newid cysyniad yr economi wleidyddol a chreu disgyblaeth fodern economeg. Cysyniad Jean-Jacques Rousseau o'r "cytundeb cymdeithasol" oedd sail ddeallusol y Chwyldro Ffrengig, ond bu canlyniadau'r helynt hwnnw yn achosi adlach yng Ngwledydd Prydain o blaid syniadau traddodiadol y ceidwadwyr megis Edmund Burke.

Y cyfnod modernGolygu

Yn y 19g, dadleuodd John Stuart Mill dros radicaliaeth ryddfrydol, hawliau merched, ac iwtilitariaeth. Ehangodd Karl Marx ar syniadau'r sosialaidd i greu'r athrawiaeth sy'n dwyn ei enw, Marcsiaeth, a chanddi ddylanwad sylweddol ar feysydd gwleidyddiaeth, economeg, ac hanes. Yn y 19g a'r 20g fel ei gilydd, llewyrchodd ar y cyd sawl ysgol feddwl genedlaetholgar a hefyd mudiadau o blaid heddwch, cydweithio rhyngwladol ac hyd yn oed llywodraeth fyd. Cafwyd gwrthdrawiadau enfawr yn yr 20g rhwng athroniaethau ac ideolegau gwledydd: imperialaeth, gwrth-imperialaeth, cenedlaetholdeb, comiwnyddiaeth, gwrth-gomiwnyddiaeth, cyfalafiaeth, a ffasgiaeth. Y duedd gyffredin erbyn yr 21g yw democratiaeth a seciwlariaeth, ond mae mudiadau o hyd sy'n gwrthod rhannu'r addoldy oddi ar y senedd, er enghraifft Islamiaeth. Er i ambell awdur honni diwedd i wrthdrawiadau gwleidyddol, ymddengys athroniaethau i wrthwynebu pob norm, a mudiadau i wrthsefyll pob trefn: neo-geidwadaeth, neo-ryddfrydiaeth, globaleiddio a'r mudiad gwrth-globaleiddio, gwrth-gyfalafiaeth, poblyddiaeth, rhyddewyllysiaeth a chyfiawnder cymdeithasol, gwleidyddiaeth werdd ac hawliau anifeiliaid, heddychaeth ac ymyrraeth ddyngarol, cosmopolitaniaeth, hawliau LHDT, ac ati.

CysyniadauGolygu

CyfiawnderGolygu

RhyddidGolygu

Hawliau a dyletswyddauGolygu

Awdurdod, cyfreithlondeb ac atebolrwyddGolygu

Systemau gwleidyddol a ffurfiau llywodraethGolygu

IdeolegauGolygu

Gweler hefydGolygu