Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 ar 3 - 10 Awst 2013 ger tref Dinbych.[2]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013
 ← Blaenorol Nesaf →
Yr Orsedd yn paratoi i fynd i'r pafiliwn ar gyfer Seremoni'r Gadair (neb yn deilwng)

-

Lleoliad Tir Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych
Cynhaliwyd 3 - 10 Awst 2013
Archdderwydd Christine James
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd John Glyn Jones
Llywydd Euryn Ogwen Williams
Nifer yr ymwelwyr 153,606 [1]
Enillydd y Goron Ifor ap Glyn
Enillydd y Gadair Neb yn deilwng
Gwobr Daniel Owen Bet Jones
Gwobr Goffa David Ellis Eleri Owen Edwards
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Elen Gwenllian
Gwobr Goffa Osborne Roberts Joshua Owain Mills
Gwobr Richard Burton Steffan Parry
Y Fedal Ryddiaith Jane Jones Owen
Medal T.H. Parry-Williams Dorothy Jones
Y Fedal Ddrama Glesni Haf Jones
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Martyn Croydon
Tlws y Cerddor Ieuan Wyn
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Joshua Mills
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Josephine Sowden
Medal Aur am Grefft a Dylunio Theresa Nguyen
Gwobr Ivor Davies Iwan Bala
Gwobr Dewis y Bobl Theresa Nguyen
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Becca Voelcker
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Penseiri John Pardey
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Joe Travers-Jones
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Alwyn R. Owens
Gwefan www.eisteddfod.org.uk
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Prif Gystadlaethau
Y Gadair Lleisiau Atal y wobr
Y Goron Terfysg "Rhywun Arall" Ifor ap Glyn
Y Fedal Ryddiaith Gwe o Glymau Sidan "Sidan" Jane Jones Owen
Gwobr Goffa Daniel Owen Craciau "Seiriol Wyn" Bet Jones

Paratoi golygu

Targed y Gronfa Leol oedd £300,000 ac erbyn wythnos yr Eisteddfod, roedd y Gronfa wedi pasio £330,000.[3]

Cyngherddau'r Pafilwin golygu

Roedd y cyngerdd agoriadol yn deyrnged i gyfansoddwr lleol: Robat Arwyn ac ymhlith y perfformwyr roedd Rhys Meirion a Chôr Rhuthun. Ar y nos Sadwrn bu Côr yr Eisteddfod yn perfformio'r Meseia gan Handel a bu Elin Manahan Thomas, Gwyn Hughes Jones, Leah-Marian Jones a Gary Griffiths yn cymryd rhan gyda Nicholas Kraemer yn arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Noson Lawen oedd ar y nos Lun. Amrywiodd pris y tocynnau i'r cyngherddau fin nos rhwng £10 ac £19 yr oedolyn a'r pris i'r maes yn £18 i oedolyn.[4]

Y Lle Celf golygu

Thema'r Lle Celf oedd Ysbyty Meddwl Dinbych.

Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg golygu

Roedd oddeutu 40 o unedau gwahanol o fewn y pafiliwn, gyda "cansar" yn thema gyffredin gan nifer ohonyn nhw.

Tywydd golygu

Dyma’r pennawd a gafwyd ar un papur dyddiol poblogaidd yn y gogledd dydd Llun yr Eisteddfod yn Ninbych a’r Fro:

Flash flood alert Eisteddfod visitors, commuters and tourists face week of fierce rainstorms

Do mi gafwyd fflach-lifogydd dros y penwythnos ond rhagolygon “swyddogol” da iawn ar gyfer gweddill wythnos Eisteddfod Dinbych a’r Fro. Ond doedd hynny ddim yn ddigon da i ohebydd y papur. Roedd ymwelwyr yr Eisteddfod eleni yn wynebu cenllifau a curlaw ffyrnig drwy’r wythnos meddai. Gan na ddigwyddodd hynny, gellir gofyn beth a gymhellodd y papur i ddarogan y fath dywydd a brofodd yn anghywir?

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Torf barchus ar ddydd Sadwrn ola’ Eisteddfod Dinbych, Golwg360, 10 Awst 2013
  2. "Gwefan yr Eisteddfod". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-14. Cyrchwyd 2013-04-27.
  3. Adroddiad Gwerthuso Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau Tachwedd 2013[dolen marw]
  4. Gwefan yr Eisteddfod Archifwyd 2013-06-27 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 23 Mehefin 2013

Dolenni allanol golygu