Eluned Morgan (gwleidydd)

(Ailgyfeiriad o Eluned Morgan, ASE)
Gweler hefyd Eluned Morgan (gwahaniaethu).

Gwleidydd Llafur yw Eluned Morgan (ganed 16 Chwefror 1967) sydd yn Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ers Mai 2016. Roedd yn Aelod Senedd Ewrop dros Gymru o 1999 i 2009.

Y Farwnes Morgan o Elai
AS
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Mai 2021
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Yn ei swydd
8 Hydref 2020 – 13 Mai 2021
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Yn ei swydd
13 December 2018 – 8 Hydref 2020
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Yn ei swydd
3 Tachwedd 2017 – 13 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganAlun Davies
Dilynwyd ganEi hun fel Gweinidog
Aelod o Senedd Cymru
dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganRebecca Evans
Aelod o Dŷ'r Arglwyddi
Lord Temporal
Deiliad
Cychwyn y swydd
24 Ionawr 2011
Arglwydd am Oes
Cynrychiolaeth Senedd Ewropeaid
Aelod Senedd Ewrop
dros Gymru
Yn ei swydd
10 Mehefin 1999 – 4 Mehefin 2009
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd yr etholaeth
Dilynwyd ganJohn Bufton
Aelod Senedd Ewrop
dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru
Yn ei swydd
9 Mehefin 1994 – 10 Mehefin 1999
Rhagflaenwyd ganDavid Morris
Dilynwyd ganDiddymwyd yr etholaeth
Manylion personol
Ganwyd (1967-02-16) 16 Chwefror 1967 (57 oed)
Caerdydd
CenedligrwyddBaner Cymru Cymru
Plaid wleidyddolY Blaid Lafur
Gwefanelunedmorgan.cymru

Magwraeth golygu

Ganed hi i'r parchedig gannon Bob Morgan OBE ac Elaine Morgan, yn Nhrelái, Caerdydd, llei'i maged, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Coleg yr Iwerydd a Phrifysgol Hull. Roedd ei thâd, Bob, yn gyn arweinydd Cyngor Sir De Morgannwg.

Gyrfa golygu

Gweithiodd fel ymchwilydd i S4C a'r BBC ac fel Stagiaire yn y Senedd Ewropeaidd yn 1990. Pan oedd yn 27 oed, etholwyd hi'n Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn 1994, yr ASE ieuengaf ar y pryd.

Eluned Morgan yn cymryd cynhadledd y wasg ar y pandemig COVID_19 yn Nhachwedd 2020

Fe'i penodwyd i Dŷ'r Arglwyddi yn 2010 fel Barwnes Morgan o Drelái[1], a bu'n Llefarydd yr Wrthblaid ar Faterion Cymreig yno o 2013 i 2016.

Etholwyd Eluned Morgan yn Aelod Cynulliad dros Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2016.

Yn 2017 fe'i gwnaed yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Yn Hydref 2020 fe'i gwnaed yn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg er mwyn i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymateb i’r coronafirws a pherfformiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.[2]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Rebecca Evans
Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
2016 – presennol
Olynydd:
deiliad
Senedd Ewrop
Rhagflaenydd:
David Morris
Aelod Senedd Ewrop dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru
19941999
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Senedd Ewrop dros Gymru
19992009
gyda
Jill Evans, Jonathan Evans, Glenys Kinnock
ac Eurig Wyn (1999-2004)
Olynydd:
John Bufton
Jill Evans
Kay Swinburne
Derek Vaughan


Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu