Etxepare Euskal Institutua

Sefydliad er hyrwyddo iaith a diwylliant Basgeg yn fyd-eang

Mae Etxepare Euskal Institutua ("Sefydliad Basgeg Etxepare") yn asiantaeth gyhoeddus a grëwyd gan Llywodraeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (euskadi).[1] Enwir y Sefydliad ar ôl Bernat Etxepare, awdur Linguae Vasconum Primitiae (1545), y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith Fasgeg, neu Euskara. Mae'r ymadrodd sy'n diffinio'r Sefydliad i'w weld yn y llyfr cyntaf hwnnw: "Heuscara/Ialgi hadi mundura" ("Euskara, cer allan i'r byd"). Mae'r sefydliad wedi adnewyddu'r slogan hwn bellach i: 'Euskara. Cultura. Mundura' ("Basgeg. Diwylliant. I'r byd").

Etxepare Euskal Institutua
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu29 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
Map
PencadlysDonostia Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.etxepare.eus/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo Etxepare Euskal Institutua
Clawr Lingue vasconum primitiae y llyfr printiedig yn yr iaith Fasgeg a gyhoeddwyd yn 1545. Noder i Yn y lhyvyr hwnn y llyfr gyntaf argraffiedig yn y Gymraeg, gael ei chyhoeddi yn 1546

Y nod yw hyrwyddo’r iaith Fasgeg, diwylliant a thalent greadigol yn rhyngwladol, ac adeiladu perthnasau parhaol gyda gwledydd a diwylliannau eraill yn y meysydd hyn. I'r perwyl hwn, mae Sefydliad Basgeg Etxepare yn cefnogi gweithgareddau artistig o safon a symudedd diwylliannol artistiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, yn ogystal ag addysgu diwylliant Euskara a Gwlad y Basg. Mae hefyd yn annog cydweithio â rhan-ddeiliaid rhyngwladol ym meysydd diwylliant ac addysg uwch, gan gydweithio'n agos â dirprwyaethau swyddogol Gwlad y Basg dramor.

Hanes a Sefydlu golygu

Gellir ystyried y Sefydliad fel rhan o ddiplomyddiaeth ddiwylliannol egin cenedl wladwriaeth Basgeg. Yn hynny o beth, mae hefyd yn meddu ar nodweddion strategaeth grym meddal a gysylltir â cenedl wladwriaethau sofran a mwy.

Agorodd Sefydliad Basgaidd Etxepare ei ddrysau ar 29 Hydref 2010 yn ei swyddfa yn Kale Prim yn Donostia (San Sebastián). Ym mis Medi 2015, symudodd y Sefydliad i'w leoliad parhaol yn adeilad Tabakalera yn Donostia.[2]

Cefnogir Etxepare gan Adran Addysg, Polisi Ieithyddol a Diwylliant Llywodraeth Gwlad y Basg (Senedd Euskadi). Crëwyd Sefydliad Basgeg Etxepare yn 2007 gan Gyfraith 3/2007, ar 20 Ebrill, sy'n rheoleiddio creu Sefydliad Basgeg Etxepare.

Amcanion golygu

 
Irene Larraza, Prif Weithredwr Etxepare Euskal Institutuko

Pwrpas Sefydliad Basgaidd Etxepare yw lledaenu agweddau mwyaf arwyddocaol diwylliant Gwlad y Basg. Ei phrif amcanion yw:

  • Annog a hyrwyddo cydnabyddiaeth ryngwladol i'r Fasgeg.
  • Hyrwyddo addysgu, dysgu a defnyddio'r iaith Fasgeg ledled y byd.
  • Cefnogi ymchwil ar ddiwylliant Gwlad y Basg, yn enwedig mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil lefel uchel.
  • Ysbrydoli chwilfrydedd am ddiwylliant Gwlad y Basg.
  • Codi proffil rhyngwladol prosiectau diwylliannol a grëwyd yng Ngwlad y Basg: annog ymdrechion a gweithredoedd sydd o fudd i ledaenu, gyda phwyslais ar hyrwyddo a sicrhau allfa ar gyfer ymgymeriadau diwylliannol a grëwyd yn Euskara.
  • Cydweithio â thalent, rhan-ddeiliaid a chynhyrchwyr creadigol Basgeg: cynnig cyfleoedd newydd yn seiliedig ar anghenion, mynediad agored i sefydliadau a hyrwyddwyr diwylliannol rhyngwladol; yr awduron yw'r adnodd, yr Athrofa yw'r bont.

Lledaenu Basgeg golygu

 
Bwyty Basgeg yn ninas Reno, Nevada lle ceir cymuned Basgeg hanesyddol
 
Cerddoriaeth draddodiadol y Txalaparta, un wedd ar ddiwylliant Basgeg a hyrwyddir ymysg mynegiant mwy cyfoes

Yn y gwaith o hyrwyddo'r Fasgeg, mae Sefydliad Basgeg Etxepare yn hyrwyddo gofodau ar gyfer rhyngweithio ag ieithoedd a chymunedau eraill, ac yn lansio rhaglenni rhyngwladol ar gyfer gwybodaeth ac ymchwil i’r iaith a’r diwylliant. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhwydwaith o ddarllenwyr y prifysgolion, ysgoloriaethau a gynigir i fyfyrwyr y cyrsiau hyn, cadeiriau astudiaethau Basgeg ac addysgu sy’n canolbwyntio ar hyfforddi athrawon rhyngwladol.

Mae gan yr athrofa gyfanswm o 36 o gynorthwywyr ledled y byd, yn ogystal â 9 cadair:

Cadair Bernardo Atxaga: Prifysgol Dinas Efrog Newydd
Cadair Jon Bilbao: Prifysgol Nevada - Reno
Cadair Manuel de Irujo: Prifysgol Lerpwl
Cadair Koldo Mitxelena: Prifysgol Chicago
Cadair Eduardo Chillida: Prifysgol Frankfurt Goethe
Cadair Jean Haritschelhar: Prifysgol Bordeaux Montaigne
Cadair Eloise Garmendia Bieter: Prifysgol Talaith Boise
Cadair William A. Douglass: Prifysgol Massachusetts, Amherst
Cadair Amale Artetxe: Conicet (Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gwyddonol a Thechnegol (Yr Ariannin)

Yn ogystal, mae'n cymryd rhan mewn fforymau iaith rhyngwladol lefel uchel a digwyddiadau eraill sy'n ymwneud ag ieithoedd i wneud y Fasgeg a'i realiti yn hysbys i sefydliadau cyhoeddus a dinasyddion tramor.

Mae hyrwyddo cyfieithiadau yn un o brif linellau gwaith yr Athrofa. I'r perwyl hwn, mae'n flynyddol yn cynnig grantiau ar gyfer cyfieithu gweithiau llenyddol Basgeg i ieithoedd tramor, yn ogystal â rheoli Gwobr Gyfieithu Etxepare - Laboral Kutxa am gyfieithiad gorau'r flwyddyn.

Yn yr ystyr hwn, mae ganddi hefyd weithiau teirieithog wedi'u cyhoeddi ar bapur ac ar-lein ar ddiwylliant Gwlad y Basg a chreadigaeth lenyddol.

Lledaenu diwylliant Gwlad y Basg golygu

Mae’r Sefydliad yn gyfryngwr i ddangos i’r byd y gwaith a wneir yng Ngwlad y Basg, gan ddod â lleisiau gwahanol at ei gilydd i un pwrpas.

Perthynas â sefydliadau tramor tebyg golygu

I gwrdd â'r amcan hwn, mae ganddi berthynas agos â chrewyr Gwlad y Basg a diwydiant diwylliannol Gwlad y Basg, i hyrwyddo eu creadigaethau yn y ffordd fwyaf priodol ac adeiladu pontydd pan fo angen.

Un o brif egwyddorion Etxepare Euskal Institutua yw cydweithio ag asiantau eraill. Llofnodir cytundebau gyda sefydliadau ac endidau i weithredu rhaglenni a gweithgareddau penodol. Mae'n cynnal cynyrchiadau a chyd-gynyrchiadau ym mannau diwylliannol strategol y byd, gan ymuno ag asiantau lleol. Mae hefyd yn cydweithio â gwahanol wyliau fel eu bod yn cysegru gofod i ddiwylliant Gwlad y Basg; er enghraifft, yr adran “Ffenestr Fasgaidd” sydd wedi ei chreu mewn rhai gwyliau yn America ac Ewrop neu enwi Gwlad y Basg fel y wlad wadd mewn gwyliau cerdd a theatr.

Digwyddiadau rhyngwladol golygu

Mae’r Sefydliad yn mynychu ffeiriau rhyngwladol lefel uchel – addysg, llyfrau, rhaglenni clyweled, theatr, dawns…- gan sefydlu’r amcan o roi cyhoeddusrwydd i gynyrchiadau a chreadigaethau Basgeg; trefnu apwyntiadau, meithrin perthnasoedd rhwng gwahanol asiantau a threfnu gweithgareddau i roi cyhoeddusrwydd i'n diwylliant.

Cyhoeddiadau golygu

Mae'r Sefydliad hefyd yn cyhoeddi cyhoeddiadau sy'n helpu i ledaenu a hyrwyddo: gweithiau teirieithog ar ein diwylliant a chatalogau ar greadigaeth ddiwylliannol Fasgaidd o wahanol ddisgyblaethau mewn cydweithrediad â chrewyr ac asiantau.

Rôl weinyddol strategol golygu

Mae hefyd yn rheoli grantiau ar gyfer lledaenu iaith a diwylliant Basgeg dramor – ym meysydd cerddoriaeth, celfyddydau perfformio, llenyddiaeth, plastig a’r celfyddydau gweledol - grantiau i gymryd rhan mewn ffeiriau proffesiynol, grantiau cyfieithu llenyddol a grantiau teithiau a gynigir i awduron Basgeg.

Swyddogion golygu

Swyddogion y Sefydliad yn 2017 oedd: Irene Larraza yw Cyfarwyddwr Cyffredinol y Sefydliad (sy'n cymryd drosodd gan Aizpea Goenagari a Miren Arzalluz ); Garbiñe Iztueta Cyfarwyddwr Hyrwyddo ac Ehangu Basgeg, ac Imanol Otaegi Cyfarwyddwr Hyrwyddo ac Ehangu Diwylliant Basgeg.[3]

Sefydliadau tebyg golygu

Mae Extepare Euskal Institutua yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.berria.eus/albisteak/16464/euskara-eta-euskal-kultura-nazioartean-hedatzeko-etxepare-euskal-institutua-sortuko-du-jaularitzak.htm
  2. "El "ecosistema cultural" de Tabakalera, a punto de brotar". Noticias de Navarra. 2 Medi 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-07. Cyrchwyd 7 Awst 2016.
  3. https://www.berria.eus/paperekoa/5002087/035/003/2017-12-19/miren-arzalluzek-utzi-egingo-dio-etxepare-euskal-institutua-zuzentzeari.htm