William Morgan Williams

meddyg a bardd
(Ailgyfeiriad o Fferyllfardd)

Roedd Dr William Morgan Williams (3 Mehefin 18329 Mawrth 1877) a adweinid wrth yr enw barddol Fferyllfardd yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd.

William Morgan Williams
FfugenwFferyllfardd Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Mehefin 1832 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 1877 Edit this on Wikidata
Llansanffraid Glan Conwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, bardd Edit this on Wikidata

Bywyd Cynnar golygu

Ganwyd Fferyllfardd ym Mhentre-poeth, Pwllheli ar y 3ydd o Fehefin, 1832, yn fab i William Williams, (Gwilym Heli) crydd, a oedd ei hun yn dipyn o fardd gwlad. Dangosodd William Morgan diddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.[1]

Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon[2]

Hyfforddiant a gwaith meddygol golygu

Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwydd a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle y bu'n gwasanaethu hyd weddill ei oes.[3]

Y Bardd golygu

 
Nid Ydwyf Fi Fy Hun enghraifft o ganu Fferyllfardd[4]

Yn ei ddydd cyfrifwyd Fferyllfardd fel un o fawrion y byd barddonol Cymraeg, yn yr un dosbarth a beirdd megis Ceiriog, Trebor Mai a Gwilym Cowlyd. Roedd yn aelod o Orsedd Geirionydd ac yn mynychu Arwest Glan Geirionydd, ond prin a erys dim o'i waith sydd wedi goroesi ac sydd wedi profi i fod o werth oesol. Bellach mae Fferyllfardd yn cael ei gofio'n bennaf am ddigwyddiad yn Eisteddfod Gadeiriol Môn Porthaethwy 1873, a achosodd ysgytiad yn y byd eisteddfodol, pan gyhuddwyd bardd y gadair o ennill drwy dwyll.[5]

Testun cystadleuaeth y Gadair oedd Distawrwydd. Roedd Thomas Tudno Jones (Tudno), John Owen Griffith (Ioan Arfon) a John James Hughes (Alfardd) yn beirniadu'r gystadleuaeth. Cafwyd chwe ymgais, ac yn ôl y beirniaid yr oedd pob un ohonynt yn ddigon da i deilyngu'r wobr. Dyfarniad y beirniaid oedd mai awdl gan un yn dwyn y ffugenw Salis oedd yn rhagori ac yn haeddu'i gadeirio[6] . Canwyd y corn a safodd Dr William Morgan Williams ar ei draed i gydnabod mae ef oedd Salis. Cafwyd gwrthwynebiad gan ddau o'r beirniaid, Ioan Arfon ac Alfardd, i gadeirio'r buddugol gan eu bod wedi derbyn llythyr gan fardd arall, William E Williams (Gwilym Alltwen), yn honni mae Gwilym Cowlyd oedd gwir awdur y gerdd a'i fod wedi ei gynnig ar werth; gan mae Fferyllfardd a safodd ar ei draed ac nid Gwilym Cowlyd, roedd yn amlwg bod Fferyllfardd wedi twyllo trwy brynu'r gerdd gan Cowlyd.

Gwadodd Gwilym Cowlyd a Fferyllfardd y cyhuddiadau, gan gyfaddef bod Gwilym Cowlyd wedi bwrw golwg dros y gerdd ar gais ei gyfaill, ac wedi awgrymu ambell sylw er mwyn cywreinio'r gerdd, ond mai gwaith gwreiddiol Fferyllfardd ydoedd.

Cynddeiriogwyd y gynulleidfa gan y ddadl a'r oedi yn y brif seremoni gan floeddio Chair! Chair! Chair! (yn Saesneg, mae'n debyg) er mwyn annog yr eisteddfod i fwrw ymlaen i gadeirio'r bardd buddugol. Penderfynodd pwyllgor yr eisteddfod bod cyhuddiad o dwyll yn fater difrifol a gofynnwyd i Richard Davies Aelod Seneddol Sir Fôn i ffurfio pwyllgor i ymchwilio i'r cyhuddiad. Wedi tair awr o hel tystiolaeth a thrafod, penderfynodd y pwyllgor, yn unfrydol o blaid dyfarnu'r gadair i Fferyllfardd. Ond, oherwydd bod awr y cadeirio wedi mynd heibio, ni chafodd Fferyllfardd ei gadeirio, yn hytrach cyflwynwyd y gadair iddo yn ystod cyngerdd yr hwyr, gan roi'r awgrym nad oedd yn llawn haeddu ei gadeirio; a bu trafod yn y wasg am haeddiant Fferyllfardd am flynyddoedd wedyn; gyda rhai yn awgrymu bod yr anghydfod wedi arwain at farwolaeth y bardd yn ŵr weddol ifanc yn 44 oed.

Ymateb Fferyllfardd ei hun i'r anghydfod oedd mai dyma:

... yr insult mwyaf melltigedig a gafodd unrhyw ymgeisydd erioed mewn Eisteddfod ... Ni fuaswn yn gyrru fy awdl i'r gystadleuaeth oni bae fod gennyf feddwl uchel am Ioan Arfon a Thudno, am Alfardd nis gwyddwn ddim, ond gwn yn awr:

Maddeuaf, meddai awen,
I hogyn bach gwan ei ben

.

I ddangos nad oedd ganddo unrhyw embaras o'i gyfraniad i'r Eisteddfod enwodd mab a anwyd iddo ychydig fisoedd ar ôl yr eisteddfod yn Ambrose Salis Williams.[7]

Bywyd personol golygu

Priododd Dr William Morgan Williams a Catherine Hughes, Glan y Môr, Llandrillo yn Rhos yn Eglwys y plwyf Llandrillo ar 24 Ionawr 1868, roedd y briodferch yn ferch i John Hughes, llafurwr o'r un plwyf [8]. Cawsant bedwar o blant dau fab a dwy ferch.

 
Bedd Fferyllfardd ym mynwent Eglwys St Ffraid Llansanffraid Glan Conwy

Bu farw Fferyllfardd o drawiad ar y galon ar 9 Mawrth 1877 yn 44 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys y plwyf Llansanffraid Glan Conwy gyda pheth rhwysg. Roedd Arwestwyr Glan Geirionydd wedi paratoi sashes galarwisgol drudfawr ar gyfer yr amgylchiad, a gwisgwyd hwynt yn yr orymdaith gan Gethin, Gwilym Cowlyd, Tudno, Scorpion, Iscoed, Elfyn, Dewi Crwst, a Dr Hughes, pa rai a drefnwyd i ragflaenu'r elor, fel prawf bod ei gyfeillion barddonol yn driw i'r geirwiredd ei fod yn fardd haeddiannol o glod.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. "MARWOLAETH DR. W. MORGAN WILLIAMS (FFERYLLFARDD)", Llais Y Wlad, 16 Mawrth 1877; adalwyd 18 Chwefror 2014
  2. Carnarvon Traders CHEMISTS & DRUGGISTS (APOTHERCARIES)[dolen marw]; adalwyd 18 Chwefror 2014
  3. "Ymweliad a Llandudno. Adgofion Dyddorol", Y Werin, 7 Mawrth 1896; adalwyd 18 Chwefror 2014
  4. Llais y Wlad, 30 Hydref 1874; adalwyd 17 Chwefror 2014
  5. Cyffro yn yr Eisteddfod; adalwyd 18 Chwefror 2014
  6. "Eisteddfod Gadeiriol Môn", Y Dydd, 15 Awst 1873; adalwyd 19 Chwefror 2014
  7. "Family Notices", Welsh Coast Pioneer, 27 Mehefin 1907; adalwyd 19 Chwefror 2014
  8. Cofrestr Priodas Llandrillo yn Rhos 1868 (Yng ngofal Archifdy Sir Ddinbych)
  9. "Y Claddedigaeth", Llais y Wlad, 16 Mawrth 1877; adalwyd 19 Chwefror 2014