Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966 oedd yr wythfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Kingston, Jamaica, oedd cartref y Gemau rhwng 4-13 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn y Caribî yn ystod Gemau Olympaidd Rhufain ym 1960 gyda Jamaica yn sicrhau 17 pleidlais, Caeredin 12 a Salisbury, Rhodesia 5.

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1966 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Awst 1966 Edit this on Wikidata
Daeth i ben13 Awst 1966 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadKingston Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 1966 British Empire and Commonwealth Games Edit this on Wikidata
8fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig
Campau110
Seremoni agoriadol4 Awst
Seremoni cau13 Awst
VII IX  >

Cafwyd newid i'r rhestr chwaraeon am y tro cyntaf ers 1950 wrth i badminton a saethu gymryd lle bowlio lawnt a rhwyfo.

Cafodd Hen Wlad fy Nhadau ei chwarae am y tro cyntaf i gyfarch medal aur gan Gymro wrth i Arglwydd Abertawe wrthod symud o'r podiwm ar ôl i God Save The Queen chwarae hyd nes bo'r band yn chwarae'r anthem Gymreig.[1]

Chwaraeon

golygu

Timau yn cystadlu

golygu

Cafwyd 34 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1966 gyda Antigwa a Barbiwda, De Arabia a Tansanïa yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau

golygu
 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Lloegr 33 24 23 80
2   Awstralia 23 28 22 73
3   Canada 14 20 23 57
4   Seland Newydd 8 5 13 26
5 Ghana 5 2 2 9
6   Trinidad a Tobago 5 2 2 9
7   Pacistan 4 1 4 9
8   Cenia 4 1 3 8
9   India 3 4 3 10
10   Nigeria 3 4 3 10
11   Cymru 3 2 2 7
12   Maleisia 2 2 1 5
13   Yr Alban 1 4 4 9
14   Gogledd Iwerddon 1 3 3 7
15   Ynys Manaw 1 0 0 1
16   Jamaica 0 4 8 12
17   Bermiwda 0 1 0 1
18   Bahamas 0 1 0 1
19   Gaiana 0 1 0 1
20   Wganda 0 1 0 1
21   Papua Gini Newydd 0 0 3 3
22   Barbados 0 0 1 1
Cyfanswm 110 110 120 340

Medalau'r Cymry

golygu

Roedd 54 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Lynn Davies Athletau Naid hir
Aur Arglwydd Abertawe Saethu Reiffl 303
Aur Kum Weng Chung Codi Pwysau Pwysau plu
Arian Clive Longe Athletau Decathlon
Arian Horace Johnson Codi Pwysau Pwysau canol
Efydd Ieuan Owen Codi Pwysau Pwysau ysgafn
Efydd Robert Reynolds Ffensio Epeé

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
Rhagflaenydd:
Perth
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Caeredin