Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970

Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970 oedd y nawfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caeredin, Yr Alban oedd cartref y Gemau rhwng 16-25 Gorffennaf. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yng Nghaeredin yn ystod Gemau Olympaidd Tokyo ym 1964 gyda Caeredin yn sicrhau 18 pleidlais a Christchurch, Seland Newydd 11.

Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1970 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd16 Gorffennaf 1970 Edit this on Wikidata
Daeth i ben25 Gorffennaf 1970 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadCaeredin, Meadowbank Stadium Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 1970 British Commonwealth Games Edit this on Wikidata
RhanbarthCaeredin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
9fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig
Campau121
Seremoni agoriadol16 Gorffennaf
Seremoni cau25 Gorffennaf
VIII X  >

Dyma oedd y Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system fesur metric a'r Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system camera i benderfynnu canlyniad rasys yn hytrach na'i gael fel cymorth i'r swyddogion. Dyma hefyd oedd y Gemau cyntaf i Frenhines Elizabeth II ei mynychu yn ei rôl fel pennaeth y Gymanwlad.

Ar ôl colli Gemau 1966, daeth bowlio lawnt yn ôl i'r Gemau yn lle saethu a daeth Ved Prakash o India y person ieuengaf erioed i ennill medal aur yn y Gemau wrth gipio medal aur yn y reslo yn 14 mlwydd oed.

Chwaraeon

golygu

Timau yn cystadlu

golygu

Cafwyd 42 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad Brydeinig, 1970 gyda'r Gambia, Guernsey, Grenada, Malawi a Gwlad Swasi yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau

golygu
 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Awstralia 36 24 22 82
2   Lloegr 27 25 32 84
3   Canada 18 24 24 66
4   Yr Alban 6 8 11 25
5   Cenia 5 3 6 14
6   India 5 3 4 12
7   Pacistan 4 3 2 9
8   Jamaica 4 2 1 7
9   Wganda 3 3 1 7
10   Gogledd Iwerddon 3 1 5 9
11   Seland Newydd 2 6 6 14
12   Cymru 2 6 4 12
13 Ghana 2 3 2 7
14   Nigeria 2 0 0 2
15   Maleisia 1 1 1 3
16   Hong Cong 1 0 0 1
17   Trinidad a Tobago 0 4 3 7
18   Sambia 0 2 2 4
19   Singapôr 0 1 1 2
20   Barbados 0 1 0 1
  Tansanïa 0 1 0 1
22   Ffiji 0 0 1 1
  Gambia 0 0 1 1
  Gaiana 0 0 1 1
  Ynys Manaw 0 0 1 1
  Malawi 0 0 1 1
  St Vincent 0 0 1 1
Cyfanswm 121 121 133 375

Medalau'r Cymry

golygu

Roedd 118 aelod yn nhîm Cymru.

Daeth Lynn Davies y Cymro cyntaf i ennill dwy fedal aur yn y Gemau wrth ennill y naid hir am yr ail Gemau yn olynol.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Lynn Davies Athletau Naid hir
Aur Mike Richards Nofio 200m ar ei gefn
Arian Mike Richards Nofio 100m ar ei gefn
Arian Martyn Woodruffe Nofio 200m pili pala
Arian David Davies Bocsio Pwysau is-welter
Arian Anthony Davies Bocsio Pwysau is-bry
Arian Ieuan Owen Codi Pwysau Pwysau ysgafn
Arian Terry Perdue Codi Pwysau Pwysau uwch-drwm
Efydd Peter Arthur Codi Pwysau Pwysau is-drwm
Efydd Martyn Woodruffe Nofio 200m medley unigol
Efydd Kevin Moran
Martin Richards
Martyn Woodruffe
a Nigel Johnson
Nofio 4 x100m medley
Efydd John Hatfield
a John Beswick
Beicio 2000m tandem

Dolenni allanol

golygu
Rhagflaenydd:
Kingston
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Christchurch