Gwylan goesddu

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Gwylan Goesddu)
Gwylan goesddu
Rissa tridactyla

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Laridae
Genws: Rissa[*]
Rhywogaeth: Rissa tridactyla
Enw deuenwol
Rissa tridactyla



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aelod o deulu'r gwylanod (Laridae) yw gwylan goesddu sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog yw 'gwylanod coesddu' ac fe'i hadnabyddir hefyd gyda'i henw gwyddonol Rissa tridactyla; yr enw Saesneg arni yw Black-legged kittiwake. Talfyrrir yr enw Lladin ar ôl y cyfeiriad cyntaf mewn ysgrif i R. tridactyla[1] Ceir nifer o enwau eraill arni — gwylan dribys, drilyn, gwylan benwen a gwylan Gernyw.[2]

Mae'r teulu'n perthyn i urdd y Charadriiformes.[3] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru, lle mae'n nythu. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ewrop ac Affrica.

Fel rheol mae'n nythu ar glogwyni ger y môr yn rhan ogleddol Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel, yn enwedig o gwmpas Ewrop a Gogledd America. Pysgod yw ei phrif fwyd, ac anaml y'i gwelir ymhell o'r môr (ar ôl stormydd gan amlaf), yn wahanol i lawer o'r gwylanod eraill.

Ceir nythfeydd yr Wylan Goesddu ar glogwyni serth ac mewn ogofeydd. Mae'n adeiladu'r nyth ar silff gul, a gall fod mewn perygl oddi wrth y tonnau mewn storm. Ei bwyd yw pysgod bychain, megis llymrïod, corbenwaig a phenwaig bychain, a chreaduriaid di-asgwrn-cefn, sy'n cael eu cipio o wyneb y môr. Mae hefyd yn codi'r gwastraff y tu ôl i gychod pysgota. Y prif nythfeydd yng Nghaernarfon yw Ynysoedd Tudwal, Pen Cilan, Ynys Enlli, Carreg y Llam, Rhiwledyn a’r Gogarth, a cheir prif nythfeydd Môn ar Ynys Seiriol ac Ynys Lawd.[4]

Disgrifiad

golygu

Gwylan y môr mawr yw hon sy'n nythu ar glogwyni ac yn gorffwyso ar draethau a chreigiau gwastad; anaml y'i gwelir yn y mewndir.

Mae'r big yn felynwyrdd a'r coesau a'r llygaid yn ddu. Mae’r cefn llwyd, main yn drawiadol. Mae'r aderyn ifanc yn fwy di-nod, yn felynllwyd ei adenydd, yn llwyd ei war, yn frown ei goesau ac yn dywyll ei big. Yn y gaeaf, bydd gwar lwyd a chlust ddu gan yr aderyn llawn dwf. Mae'r aderyn ifanc yn hynod am fod ganddo resen igam-ogam ddu ar gefn golau, a choler ddu a phig ddu. Mae'r enw Lladin Rissa tridactyla yn cyfeirio at y nodwedd hwn hefyd.

Poblogaeth

golygu

Yr Wylan goesddu yw'r aderyn mwyaf cefnforol o'r gwylanod, gan dreulio'r rhan helaethaf o'i hamser, tu allan i'r cyfnod nythu, ymhell allan yn y môr. Mae eu hardal nythu yn ymestyn o'r Arctig yn y Gogledd i Dde Lloegr. Dyma wylan sydd wedi cynyddu mewn niferoedd yn ystod y can mlynedd ddiwethaf. Cyn y deddfau gwarchod adar, yn bennaf yn dilyn ffurfio'r RSPB yn 1889 (er bod y Ddeddf Cadwraeth Adar Môr wedi dod i rym ers 1869), lladdwyd nifer fawr o Wylanod coesddu o gwmpas arfordir Prydain fel sbort ac ar gyfer y diwydiant gwneud hetiau. Môr Hafren oedd un o'r ardaloedd gwaethaf, a honnir bod 9,000 wedi eu saethu o fewn pythefnos ar Ynys Wair (Lundy). Yn dilyn pasio nifer o ddeddfau gwellodd pethau i'r Wylanod goesddu. Er i More ddweud yn 1865 nad oedd yr Wylan goesddu yn nythu yng Nghymru, roedd hyn yn anghywir gan bod tystiolaeth bod rhai'n nythu ar y Gogarth Fawr a'r Gogarth Fach cyn belled yn ôl ag 1835 ac roedd rhai eraill yn Ynys Sgomer, Gwales (Grassholm) a Phenrhyn Cilan. Hyd yn oed erbyn canol yr 20g doedd dim mwy na dwsin o gytrefi o gwmpas arfordir Cymru, yn ôl Cyfrifiad 1959. Darganfu Coulson (1963) bod dau gytref heb eu cynnwys gan ychwanegu 250 o barau. Yn ogystal, dangosodd Coulson bod y cynnydd yn yr 20g hyd at 1959 rhwng 3% a 4%, a bod hyn wedi parhau hyd 1969 (Coulson 1983). Roedd hyn yn gwneud cyfanswm Cymru oddeutu 5,250 o barau mewn 14 o gytrefi.[5]

Yn ystod y degawd (1969-79) bu cwymp yn niferoedd 3 cytref yng Nghymru (allan o ddim ond 5 cytref drwy Brydain gyfan: Sant Tudwal - 28%, Ynys Enlli -97% ac Ynys Gwales -21%. Mewn ffordd, roedd hyn yn broffwydol, oherwydd yn y 10 mlynedd ddilynol yn yr arolwg (1979) wedi'i selio ar flynyddoedd 1973-76, bu gostyngiad yn y rhan fwyaf o gytrefi Môr Iwerddon, yn groes i'r hyn ddigwyddodd ar yr ochr orllewinol, ac yn enwedig yng nghytrefi Môr y Gogledd.

Dydi Coulson (1983) ddim wedi cadw cofnodion Cymru ar wahân yn yr arolwg (1979), ond daeth i'r casgliad a ganlyn: De Cymru ac Ynys Wair 1959-69 cynnydd o 48%, 1969-79 gostyngiad o 3%; Gogledd Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr ac Ynys Manaw, 1959-69, cynnydd o 69%, 1969-79 gostyngiad o 20%.[5].

 
Nifer y parau o wylanod coesddu

Rhwng 1979 a'r Cyfrif Sea Register (1986)'doedd yna ddim gostyngiad pellach yn ymddangos yng Nghymru er bod ambell gytred yn dangos hynny (gweler y tabl). Rhudd y Gofrestr Gytrefi Adar Môr gyfansem o 9120 o barau mewn 20 o gytrefi yng Nghymru, cynnydd o 29% drwy Gymru ers 1979.

Allan o'r cyfnod nythu gwelir niferoedd uchel o'r Gwylanod coesddu sr daith ymhell allan yn y môr, Yn hwyr yn yr hydref byddant ar eu taith i'r de a gwelir hwy ymron ymhob arolwg o'r traethau gorllewinol, cymaint â 3,500 ger Ynys Enlli, cymaint ag 800 yn bwydo oddi ar Ynys Sgogwm, ac yn rhyfeddol, 30,000 y dydd ym Mhen Caer yn Nhachwedd. mae'n amlwg bod rhain wedi cychwyn ar eu taith o'r gogledd pell, yn ôl y dystiolaeth o aderyn wedi ei fodrwyo ym Mhenalun, Penfro, (4 Mawrth, 1982)a'i saeth yn Inerssvat, yr Ynys Las dri haf yn ddiweddarach, a'i bod yn cynnwys cyfran o adar o'r Arctig. Mae'r Wylan goesddu yn aderyn sy'n teithio ymhell dros y cefnforoedd, a darganfuwyd rhai o Gymru yn Heligoland, yn Ne Sbaen a Gorllewin Canada (y rhai olaf o fewn trimis i'w deor). Gwelir niferoedd o adar sydd yn eu blwydd gyntaf yn paratoi i hedfan i gytrefi Gwennol y Môr (E.I.S Reisin litt.) ar ddiwedd haf a dechrau'r hydref.

Er mai aderyn y môr yw'r Wylan goesddu, nid yw'n annhebybygol ei gweld mewn aberoedd a glannau mewndirol ar wahân pan fo tywydd eithafol. Nid yw'n hedfan i'r tir, a dim ond ychydig iawn o dystiolaeth o hynny a geir. Yr un anoddaf i'w esbonio yw 14 o adar yn Nyffryn Elan ym Mai 1976 (M. Davies, pers. comm.) Fel adar eigionol, mae'r Gwylanod coesddu, ar adgau, yn gallu cael eu heffeithio gan stormydd gaeaf a dioddef colledion enbyd. Cofnododd Thomas Pennant yn Chwefror 1776 bod miloeddwedi eu darganfod, un ai yn farw, neu ar drengi yn ardal Cricieth. Yn ystod yr 20g y gwaethaf a gofnodwyd oedd 100 wedi marw ym Morgannwg, 40 yn Sir Aberteifi a 30 yn Sir Gaernarfon. Ar yr un adeg cofnodwyd 10, un ai wedi marw, neu ar drengi mewn ardaloedd mewndirol. (McCarten 1958).[5].

Roedd 3,253 o nythod yng Ngogledd Cymru pan wnaed cyfrifiad 1969-70. Erbyn y cyfrifiad nesaf yn 1985-88 roedd y nifer wedi cynyddu i 4,259 ond dangosodd cyfrifiad yn 8.5 dangosodd cyfrifiad 1998-2002 ostyngiad o 9%, 13,880 nyth[6] [angen gwybodaeth am y de]

Mae Atlas Adfer Modrwyon Adar Ynys Enlli[7] yn disgrifio poblogaeth yr wylan goesddu ar yr ynys yn y cyfnod 1953-96 yn ansefydlog ac amrywiol. Bu 100 o barau hyd 1957, wedyn isafbwynt o 2 bar yn unig yn 1967. Gwelwyd cynnydd tua chanol y ‘70au i 150 par yn 1986 ac wedyn naid i 1887 - cynnydd o 70% mewn blwyddyn. Bu’r boblogaeth yn aros rhwng 198 a 318 par pob blwyddyn tan ddiwedd y cyfnod. [Y sefyllfa heddiw?].

Mae'r adar yn nythu ar arfordiroedd hen siroedd Morgannwg a Chaernarfon (nid Meirionnydd). Gwelir niferoedd hefyd, tra'n mudo, ymhell allan yn y môr.

Symudiadau

golygu

Nodwyd mudo mawr o wylanod coesddu yn 1999, 6000 oddiar Enlli, 2 Tachwedd, 2000 oddiar Trwyn Leinws, Môn ar y 6ed, 10,000 mewn 4 awr oddiar Strumble Head, Sir Benfro ar y 3ydd ac fe bashiodd 12,000 heibio iddo 31 Hydref 2000.

Ynys Enlli

golygu

Nid yw’r wylan goesddu yn aderyn mudol yn wir ystyr y term ac mae adferiadau adar â modrwy yn wasgarog iawn. Dengys y dystiolaeth modrwyo ar yr ynys fel a ganlyn:

  • Cyfanswm adar a fodrwywyd 1142
  • Nifer o adar a fodrwywyd ar Enlli ac a ail-ddalwyd oddiar yr ynys yn fyw neu’n farw 16 (1.4%)
  • Taith hwyaf un aderyn 2982 km. (saethwyd aderyn o oed anhysbys, mod. Enlli 8 Gorffennaf 1988, yn Nuuk, ger Godthab, yr Ynys Werdd, 15 Mawrth 1989).
  • Hoedledd hwyaf un aderyn 11bl. 2fis. 19 diwrnod (aderyn a fodrwywyd yn Northumberland 28 Mehefin 1961 a ganfuwyd yn farw ar Enlli 17 Medi 1972.

Nid oes awgrym o adar a fodrwywyd fel cywion ar Enlli (pob un namyn un) yn ail sefydlu mewn cytrefi eraill, ond mae tystiolaeth (3 aderyn) o adar a anwyd mewn cytrefi eraill yn cael eu canfod ar Enlli (2x Ynysoedd y Farne, Northumberland, 1x Ynys Canna, yr Alban, pob un yn 1991). Ni wyddys i ba raddau bu’r cynnydd ar Enlli oherwydd mewnlifiad ond mae’r tair enghraifft yma yn awgrymu peth mewnfudo.

Bwyd pennaf yr wylan goesddu yw pysgod morol ac infertebrata a gafwyd ar y môr trwy sborioni o gwmpas cychod pysgota, ac yn fwy diweddar, mewn aberoedd a phorthladdoedd. Yn y bôn ymborthwr cefnforol ydyw, un ai trwy dowcio o’r wyneb wrth arnofio, pit-patian ar wyneb y dwr wrth hedfan, plymio o’r wyneb hyd at 0.5-1m o ddyfnder, neu gipio wrth nofio ar y wyneb. Heidiau weithiau yn dilyn cychod pysgota i fanteisio ar sborion a thameidiach pysgod. Dadansoddwyd 45 stumog o gytrefi yng ngwledydd Prydain: cynhwysant bysgod, cramenogion ac anelidau a molwsciaid[8]

Yr Wylan goesddu ar Greigiau Rhiwledyn

golygu

Byr iawn, dros gyfnod nythu yn ystod misoedd Mai a Mehefin y gwelir yr Wylan goesddu ar Greigiau Rhiwledyn. O edrych ar lun y nythod mae rhywun yn rhyfeddu sut na fuasent wedi disgyn i'r traeth. Mae'n amlwg mai o wymon yr adaeiladir y rhan helaethaf o'r nythod, ond hefyd defnyddir mwd a glaswellt. Bydd yr iâr yn dodwy rhwng un a thri ŵy fel arfer, a bydd hi a'r ceiliog yn eistedd ar y nyth am rhwng 25 a 32 o ddyddiau. Gall y cywion hedfan o fewn 33 - 54 o ddyddiau. Yn ôl arolwg Parc Gwledig y Gogarth (2017) roedd 665 o barau yn nythu ar Greigiau Rhiwledyn a 327 o barau ar Ben y Gogarth.

Mae'r wylan goesddu'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Chroicocephalus bulleri Chroicocephalus bulleri
 
Chroicocephalus cirrocephalus Chroicocephalus cirrocephalus
 
Gwylan Bonaparte Chroicocephalus philadelphia
 
Gwylan Hartlaub Chroicocephalus hartlaubii
 
Gwylan arian Chroicocephalus novaehollandiae
 
Gwylan benddu Chroicocephalus ridibundus
 
Gwylan benfrown De America Chroicocephalus maculipennis
 
Gwylan benfrown India Chroicocephalus brunnicephalus
 
Gwylan ylfinfain Chroicocephalus genei
 
Gwylan yr Andes Chroicocephalus serranus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Marwolaeth

golygu

Rydym fwyaf ymwybodol o farwolaeth yr wylan goesddu pan fyddant yn marw yn lluoedd oherwydd tywydd mawr. Sonia Pennant yn ei Tour in North Wales am storm fawr Chwefror 1776 a thywydd oer yn ei ddilyn a laddodd lawer iawn o adar arfordir Cricieth gan gynnwys: y pâl, gwalch y penwaig, heligog, gwylan Goesddu (miloedd ohonynt), huganod, gwyddau gwylltion, gwyddau wyran a hwyaid copog.

Ecoleg

golygu

Addasiadau

golygu

Yn wahanol i adar eraill y clogwyni mae’r wylan goesddu yn gwneud nyth sylweddol o wymon wedi ei gasglu o wyneb y dŵr. O’r herwydd nid oes rhaid iddi greu wy ffurf gellygen fel ei chymdogion, y carfilod di-nyth, yn yr un cynefin.

Mae’r wylan goesddu yn dueddol o fynychu ardal arbennig tua gwaelod clogwyn.

Gweler hefyd

golygu
  1. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  2. '’Llyfr Adar Iolo Williams; Gwasg Carreg Gwalch.
  3. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  4. Brenchley et al Atlas Adar Nythu Gogledd Cymru
  5. 5.0 5.1 5.2 Lovegrove, R., Williams, G., a Williams, I., (1994); Birds in Wales, Cyh: T. & A.D. Poyser
  6. Brenchley, A. et. al
  7. Loxton, R.; Kittle, T.; Hope-Jones, P. (1999) Atlas of Recoveries of Birds ringed by Bardsey Observatory 1953-1996 Cyh.: Bardsey Bird and Field Observatory, Bethesda
  8. Cramp S et al Handbook of the Birds of the Western Palearctic
  Safonwyd yr enw Gwylan goesddu gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.