Hanes milwrol Cymru
Hanes milwrol Cymru.
Cyfnod y Rhufeiniaid a chynt
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Y cyfnod ôl-Rufeinig a'r Oesoedd Canol Cynnar
golygu400–650 OC
golyguDatblygodd hunaniaeth genedlaethol y Cymry i wrthsefyll gwladychiad yr Eingl-Sacsoniaid ym Mhrydain Geltaidd. Mae'n debyg fod y gair "Cymry", a darddir o'r gair Lladin-Gelteg combrogi (cymdeithion), yn wreiddiol yn enw ar ddosbarth o filwyr elît, marchfilwyr yn bennaf.[1] Yn y 5g roedd rhai byddinoedd lleol yn parhau ar draws Prydain o'r oes Rufeinig-Geltaidd. Roedd y mwyafrif helaeth ohonynt yn droedfilwyr. Yng Nghymru a de-orllewin Lloegr, roedd y mwyafrif o luoedd y llwythau Celtaidd hefyd yn droedfilwyr. Roedd y marchfilwyr yn marchogaeth ceffylau bychain neu ferlod mawr, ac yn ymladd gyda gwaywffon a phicell mewn modd debycach i farchfilwyr ysgarmes cynnar y Rhufeiniaid yn hytrach na'r cataffractau diweddar.[2]
650–1067
golyguDatblygodd byddinoedd lleol yr Eingl-Sacsoniaid ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr i wrthsefyll cyrchoedd gan ysbeilwyr o Gymru.[3] Datblygodd system y cantref yng Nghymru a Chernyw. Rhannodd Cymru yn 100 o ardaloedd ffermio, a phob un yn darparu tua 100 o frwydrwyr.[4]
Oes y Tywysogion a'r Oesoedd Canol Diweddar
golygu- 1067 - Y Normaniaid yn cyrraedd ffin Cymru ac yn dechrau codi cestyll a chipio tir.
- 1090 - Y Normaniaid yn dechrau goresgyn de a gorllewin y wlad.
- 1118 - Gruffudd ap Cynan yn ehangu Teyrnas Gwynedd.
- 1137-70 - Owain Gwynedd yn teyrnasu yn y gogledd.
- 1165 - Harri II o Loegr yn arwain cyrch mawr ar Gymru ond yn cael ei drechu gan y Cymry dan Owain Gwynedd.
- 1170-97 - Yr Arglwydd Rhys yn teyrnasu yn y de.
- 1196-1240 - Teyrnasiad Llywelyn Fawr (Llywelyn ap Iorwerth), Tywysog Cymru, yng Ngwynedd.
- 1216 - Cynhadledd fawr o'r Cymry yn Aberdyfi yn cydnabod Llywelyn Fawr yn Dywysog ar Gymru.
- 1218 - Cytundeb Caerwrangon a'r brenin Harri III o Loegr yn cydnabod safle Llywelyn.
- 1240-46 - Teyrnasiad Dafydd ap Llywelyn. Gwynedd yn colli tir sylweddol yn 1240-1, ond yn ennill y tir yn ôl achos ymgyrch milwrol Dafydd yn 1244-5.
- 1246-82 - Teyrnasiad Llywelyn Ein Llyw Olaf (Llywelyn ap Gruffudd), Tywysog Cymru.
- 1258 - Llywelyn ap Gruffudd yn arglwydd ar Wynedd a Phowys ac yn mabwysiadu'r teitl 'Tywysog Cymru'.
- 1267 - Coron Lloegr yn cydnabod Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Cymru gyda Cytundeb Trefaldwyn.
- 1276-77 - Rhyfel Annibyniaeth Cyntaf Cymru.
- 1282-83 - Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru. Lladd Llywelyn ap Gruffudd a dal a dienyddio ei frawd Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Eryri dan warchae am naw mis gan y Saeson. Meddiannu Cymru gan Edward I o Loegr. Edward yn gorchymyn codi cylch o gestyll o amgylch y wlad, e.e. Castell Caernarfon a Castell Conwy.
- 1287-1288 - Gwrthryfel Cymreig dan arweiniad Rhys ap Maredudd yn y de.
- 1294-1295 - Gwrthryfel Cymreig dan arweiniad Madog ap Llywelyn ac eraill, yn y de a'r gogledd.
- 1301 - Cyhoeddi Edward, mab 17 oed Edward I, yn Dywysog Cymru yng nghastell Caernarfon.
- 1314 - Gwrthryfel byrhoedlog ym Morgannwg.
- 1316 - Gwrthryfel Llywelyn Bren yn y De.
- 1369-1377 - Y Cymry yn disgwyl gweld Owain Lawgoch yn dod o Ffrainc, fel y Mab Darogan hir-ddisgwyliedig, i ryddhau'r wlad o afael y Saeson.
- 1400 - Cychwyn gwrthryfel Owain Glyndŵr.
- 1401 - Brwydr Hyddgen; mae Glyn Dŵr yn ennill mwy o gefnogwyr.
- 1405 - y Cytundeb Tridarn rhwng Owain Glyndŵr a'i gynghreiriad Henry Percy, Iarll 1af Northumberland ac Edmund Mortimer.
- 1409 - Castell Harlech yn syrthio i'r Saeson.
- c.1415 - Diflannu Owain Glyndŵr.
- 1461 - Brwydr Mortimer's Cross gyda nifer o Gymry yn cymryd rhan ond plaid yr Iorciaid yn ennill y dydd.
- 1485 - Harri Tudur yn glanio yn Aberdaugleddau ac yn recriwtio Cymry ; trechu Rhisiart III o Loegr ganddo ym Mrwydr Bosworth
- 1498 - Gwrthryfel ym Meirionnydd.
Yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif
golygu- 1641 : Dechrau Rhyfel Cartref Lloegr, fydd yn para hyd 1660
- 1644 : Y brenin Siarl I o Loegr yn caslgu milwyr yng Nghymru
- 1648 : Cipio Castell Penfro gan luoedd y Senedd; diwedd y rhyfel cartref cyntaf; yr ail ryfel yn dechrau; Brwydr San Ffagan; Cromwell yng Nghymru
- 1649 : Dienyddio'r brenin Siarl I; arglwyddiaeth Oliver Cromwell
Y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif
golyguYr 20fed ganrif a'r 21ain ganrif
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguDarllen pellach
golygu- J. D. Davies. Britannia's Dragon: A Naval History of Wales (The History Press, 2013).
- Sean Davies. War and Society in Medieval Wales, 633-1283: Welsh Military Institutions (Gwasg Prifysgol Cymru, 2014).