Llwybr y Gogledd

llwybr cerdded yng Ngogledd Cymru

Mae Llwybr y Gogledd yn lwybr pellter hir o tua 60 milltir sy'n rhedeg rhwng Prestatyn yn y dwyrain a Bangor yn y gorllewin. Mae'n cyd-fynd yn rhannol a Llwybr Arfordir Cymru ond wedi ei sefydlu cyn y llwybr cenedlaethol, ac mae'r llwybr hwn yn gwyro oddi ar yr arfordir i ymweld â rhannau mewndirol.

Llwybr y Gogledd
Mathffordd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlwybr Clawdd Offa, Llwybr Arfordir Cymru Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd, Conwy, Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Y llwybr 60 milltir (97 km)

Does dim rhaid cerdded y llwybr cyfan ac mae nifer o bobl yn dewis cerdded rhannau unigol ohono. Mae'r rhannau mwyaf poblogaidd yn cynnwys y llwybr rhwng Prestatyn a Diserth, ar hyd hen drac rheilffordd, Pen y Gogarth a Rhiwledyn ger Llandudno, Mynydd y Dref a'i hen fryngaer Caer Seion rhwng Conwy a Bwlch Sychnant, ucheldiroedd Penmaenmawr, a Rhaeadr Abergwyngregyn.

Llwybrau lleol

golygu

Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:

  1. Taith Bryn Euryn. Saif y bryncyn calchfaen hwn (Bryn Euryn) fymryn i'r gorllewin o Landrillo-yn-Rhos, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o Fae Colwyn; cyfeiriad grid SH832798. Mae'n fryn 131 medr o uchder a goronir gan fryngaer. Mae rhan ohono'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.[1] Mae cerddwyr ar y daith hon yn pasio Llys Euryn, safle llys canoloesol a fu'n perthyn i ystad Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr.[1] Caiff y llwybr a'r bryn eu rheoli a'u cadw gan Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Conwy.[1] Ceir dau lwybr: y naill yn cylchdroi'r copa (1 filltir o hyd) a'r llall o fewn y goedwig (1.5 filltir). Mae 26 math gwahanol o löyn byw wedi'u cofnodi ar fryn Euryn.
  2. Taith Caerhun. Cychwyn y daith hawdd hon ydy Tal-y-Cafn, ar lannau Afon Conwy. Saif gweddillion Canovium ar y ffordd Rufeinig rhwng Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon) ac mae defnyddiwr y llwybr yn ei basio o fewn tafliad carreg. Eir trwy Pontwgan a phentref Tyn-y-Groes ac mae'r olygfa'n cynnwys ysblander Dyffryn Conwy ac Eryri yn y pellter. Tair milltir yw ei hyd gydag estyniad 1.5 milltir i'r cerddwr diflino. Cychwyn y daith yw Tal-y-Cafn (SH788717).
  3. Taith i Ben y Gogarth. Ceir 3 taith o Landudno i gopa Pen y Gogarth ac mae pob un wedi'u harwyddo'n glir. Ar y daith gellir gweld y dref, y bae, y Fenai ac Eryri. Mae'r dair yn cynnwys rhannau eithaf serth. Mae "Llwybr Gerddi Heulfre" (1 filltir) yn cymryd tuag awr i'w cherdded. Yr un hyd yw'r "Llwybr Igam Ogam", eithr ei bod yn cymryd hanner awr yn hwy. 1.5 milltir yw hyd "Llwybr y Dyffryn" ac fe gymrith tua'r un hyd - awr a hanner.[2]

Dolen allanol

golygu

Manylion Llwybr y Gogledd a Llwybr Arfordir Cymru, yn cynnwys mapiau o'r ddau

Cyfeiriadu

golygu