Llysiau'r wennol

Planhigyn â blodau melyn sy'n enwog am briodweddau meddyginiaethol ei sudd.
Chelidonium majus
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Urdd: Ranunculales
Teulu: Papaveraceae
Genws: Chelidonium
Rhywogaeth: C. majus
Enw deuenwol
Chelidonium majus

Planhigyn blodeuol sydd hefyd yn un o symbolau cenedlaethol Tsieina yw Llysiau'r wennol sy'n enw lluosog. Mae'n perthyn i'r teulu Papaveraceae.

Mae'r teulu'n nodedig am ei briodweddau meddygol (honedig, yn enwedig yn Corea, Tsieina a Japan. Mae'n un o symbolau cenedlaethol Tsieina. Caiff ei dyfu ar gyfer gerddi oherwydd maint ei flodau unigol, ac mae'r morgrugyn yn cael ei ddenu at y neithdar sydd ar ei betalau.

Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Chelidonium majus a'r enw Saesneg yw Greater celandine.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Dilwydd, Dilwydd Felen, Llygadlym, Llygadlys, Llym y Llygad, Llys y Wennol, Llysiau'r Clefyd Melyn, Llysiau'r Llew, Llysiau'r Llygad, Llysiau'r Wennol, Melynllys, Selidon, Sudd y Defaid.

Er ei fod yn cael ei awgrymu gan yr enw cyffredin Saesneg ‘’greater celandine’’, nid yw'r planhigyn hwn yn perthyn i Ranunculus ficaria y lesser celandine sy'n perthyn i deulu gwahanol y Ranunculaceae'.[2]

Disgrifiad

golygu

Mae llysiau'r wennol yn blanhigyn llysieuol lluosflwydd talsyth sy'n cyrraedd 30-120 cm (12-47 in) o uchder. Mae'r dail glaswyrdd wedi eu rhannu (pinad), gydag ymylon llabedog a thonnog, hyd at 30 cm (12 modfedd) o hyd. Pan gaiff ei anafu, mae'r planhigyn yn arddangos latecs melyn i oren.[3][4]

Mae'r blodau'n cynnwys pedwar petal melyn, pob un tua 18 mm (0.71 modfedd) o hyd, gyda dau sepal. Mae un ffurf â blodau dwbl, sy'n digwydd yn naturiol weithiau. Mae'r blodau'n ymddangos o ddiwedd y gwanwyn i'r haf, o fis Mai i fis Medi (yn y DG), mewn brigflodyn ffurf ambarelo o tua 4 blodyn.

Mae'r hadau'n fach ac yn ddu, wedi'u cario mewn hadlestr hir, silindrig. Mae gan bob un elaiosome (tyfiant cnawdol ynghlwm wrth yr hedyn) sy'n denu morgrug i wasgaru'r hadau (myrmecochory).[5]

Cyfansoddion a ffarmacoleg

golygu

Coesyn wedi'i dorri'n yn colli sudd melyn. Mae'r planhigyn cyfan yn wenwynig mewn dognau cymedrol gan ei fod yn cynnwys ystod o alcaloidau isoquinoline; mae angen y dos cywir i'w ddefnyddio mewn meddygaeth lysieuol. Y prif alcaloid sy'n bresennol yn y perlysiau a'r gwraidd yw coptisine. Mae alcaloidau eraill sy'n bresennol yn cynnwys methyl 2'- (7,8-dihydrosanguinarine-8-yl) asetad, allocryptopine, stylopine, protopine, norchelidonine, berberine, chelidonine, sanguinarine, chelerythrine, a 8-hydroxydihydrosanguinarine. Mae Sanguinarine yn arbennig o wenwynig gyda LD50 o 18 mg y kg o bwysau'r corff (IP mewn llygod mawr). Mae deilliadau asid caffeic, fel asid caffeoylmalic, hefyd yn bresennol[6].

Mae'r latecs nodweddiadol hefyd yn cynnwys ensymau proteolytig a'r chelidostatin ffytocystatin, atalydd proteas cystein. Mae'n feddyginiaeth werin draddodiadol yn erbyn dafadennau yn Ffrainc a'r DU. Fe'i defnyddir wrth baratoi ystod o driniaethau oddi ar y silff ar gyfer dafadennau a chyflyrau croen.

Defnyddir Chelidonium i wneud Ukrain, cyffur sydd wedi'i hyrwyddo ar gyfer trin canser a heintiau firaol, ond nad yw'n hysbys ei fod yn effeithiol.

Nid yw'r perlysiau ffres yn cael ei ddefnyddio'n swyddogol mwyach. Nid oes unrhyw astudiaethau canfod dos yn bodoli a nodweddir yr astudiaethau clinigol a adroddir gan heterogenedd sylweddol.

Ac eithrio meddyginiaethau homeopathig, nid yw'r cyffur yn cael ei ddefnyddio mwyach yn y rhan fwyaf o wledydd Saesneg eu hiaith. Yn yr Almaen a'r Swistir, mae darnau o herba Chelidoni yn elfen ddadleuol o'r feddyginiaeth gastrig "Iberogast". Mae'r paratoad OTC yn gynnyrch sy'n gwerthu orau i'r cwmni Bayer, sydd bellach yn destun ymchwiliad am beidio â rhybuddio defnyddwyr rhag sgîl-effeithiau hepatotocsig posibl wrth gymryd y cyffur. Adroddwyd am ensymau afu uchel a hepatitis gwenwynig gyda marwolaeth wedi'i ddogfennu.

Mae achosion eraill nad ydynt wedi'u dogfennu cystal yn cyfeirio at weithrediad carthu llym y planhigyn gyda'r dadhydradiad canlyniadol y gall anifeiliaid farw ohono. Roedd yr arfer (sydd bellach wedi'i derfynu i raddau helaeth) o roi sudd y planhigyn yn allanol (neu drwyth ohono) ar fân anafiadau i'r croen, fel golchiad i dynnu parasitiaid, neu ar gyfer trin anhwylderau llygaid penodol yn aml yn arwain at lid a dolur a oedd yn gofyn am driniaeth bellach.

Gall sudd y planhigyn achosi cosi a phothellu ar y croen. Mae marwolaeth plentyn pedair oed, a ddatblygodd gastroenteritis gwaedlifol a methiant cylchrediad y gwaed ar ôl bwyta'r planhigyn, yn cael ei gofnodi[7]

Gwenwyno mewn anifeiliaid

golygu

Mae gan y planhigyn enw ers tro am fod yn wenwynig i anifeiliaid, ond mae'n debyg bod hyn wedi'i seilio'n bennaf ar effeithiau andwyol ei ddefnydd meddyginiaethol ac un adroddiad, yn gynnar yn y ganrif hon [20g.], o wenwyno gwartheg ym Mhrydain.' Sylwid bod buches wedi bwyta'r plamhigyn trwy gydol yr haf, a oedd yn tyfu'n doreithiog ar hyd clawdd, heb effaith andwyol. Yn yr hydref, pan oedd y capsiwlau hadau yn aeddfed, cafodd llawer o'r anifeiliaid eu gwenwyno a bu farw rhai ar ôl bwyta'r planhigyn. Roedd yr arwyddion clinigol yn cynnwys poer a throethi gormodol, syched, cysgadrwydd, rhwymedigaeth a cherdded ansad. Digwyddodd confylsiynau gwyllt pan aethpwyd at yr anifeiliaid a'u cyffwrdd. Ni effeithiwyd ar loi a sugnodd o'u mamau a wenwynwyd. Datgelodd archwiliad post-mortem lid gastroberfeddol[8] Mae'r planhigyn yn wenwynig i ieir[9]

Elfennau gwenwynig

golygu

Dywedir bod llysiau'r wennol yn cynnwys llawer o alcaloidau a allai fod yn wenwynig a'r rhai a enwir amlaf yw chelidonin ac a homochelidonin (y ddau yn gysylltiedig yn gemegol â papaverin, a geir mewn rhywogaethau Papaver), chelerythrin, sanguinarin a phrotopin. Fodd bynnag, anaml y mae'r planhigyn yn achosi gwenwyno gan ei fod yn annymunol, gyda blas chwerw ac arogl llym, ffiaidd. Mae sudd y planhigyn (latecs) yn felyn-oren ei liw, ond yn troi'n goch pan fydd yn agored i'r aer[10]

Rhinweddau meddyginiaethol

golygu

Yn wahanol i Papaveryn eu stigmáu coesog a'u hadau arilaidd (hedyn â chwpan yn amgau rhan ohono). Presennol yn ynysoedd Prydain yn y cyfnod rhyngrewlifol diwethaf (Ipswichaidd) ond yn gyffredinol ystyrir yn gyflwynedig gan ddyn yn ystod y cyfnod presennol (Canoloesol, ond o bosib cyfnod y Rhufeiniaid). Defnyddiwyd ar gyfer ei briodweddau meddyginiaethol o latecs neu sug oren cyrydol wedi ei hir-ddefnyddio mewn anhwylderau llygaid ac ar gyfer canserau yn Rwsia, wedi'u cymysgu'n glasurol â ffenigl, wermod, mêl a diferyn o laeth dynol. Mae'n sicr yn effeithiol wrth drin dafadennau, corn, lliw haul, brychni haul ac anhwylderau croen eraill.

Meddygaeth lysieuol draddodiadol

golygu

Yn draddodiadol fe ddefnyddir rhannau uwch y ddaear a gwreiddiau llysiau'r wennol i drin anhwylderau'r corff. Mae'r rhannau uwchben y ddaear yn cael eu casglu yn ystod y tymor blodeuo a'u sychu ar dymheredd uchel. Mae'r gwreiddyn yn cael ei gynaeafu yn yr hydref rhwng Awst a Hydref a'i sychu. Defnyddir y rhisom ffres hefyd. Mae gan y planhigyn flas poeth a chwerw. Gwneir paratoadau alcoholig a phoeth (te). Mae gan Sanguinaria canadensis o'r UD gyfansoddiad cemegol tebyg ac mae'n cael ei ddefnyddio fel celandine mwy.

Cyn belled yn ôl â Pliny yr Hynaf a Dioscorides (y ganrif 1af CE) mae'r perlysieuyn hwn wedi'i gydnabod fel cyfrwng dadwenwyno defnyddiol. Mae'r gwraidd wedi'i gnoi i leddfu'r ddannoedd. Dywed Llysieulyfr John Gerard (1597) fod "sudd y llysieuyn yn dda i finiogi'r golwg, oherwydd mae'n glanhau ac yn bwyta pethau llysnafeddog sy'n hollti pelen y llygad ac yn rhwystro'r golwg ac yn enwedig yn cael ei ferwi â mêl mewn brasen llestr." (cyfeieithiad)[11]

Arferid ei ddefnyddio gan rai pobl Romani fel gloywr traed; mae llysieuwyr modern hefyd yn defnyddio ei briodweddau ysgarthol[12]. Argymhellodd y llysieuydd modern Juliette de Baïracli Levy lysiau'r wennol wedi'i wanhau â llaeth i'r llygaid, a'r latecs ar gyfer cael gwared â dafadennau. Roedd Chelidonium yn hoff berlysieuyn gan y llysieuydd Ffrengig Maurice Mességué. Mae Chelidonium majus wedi cael ei ddefnyddio'n draddodiadol i drin afiechydon llidiol amrywiol gan gynnwys dermatitis atopig. Fe'i defnyddir yn draddodiadol hefyd wrth drin cerrig bustl a dyspepsia.

Fe'i defnyddiwyd unwaith hefyd i drin anhwylderau'r afu, oherwydd tebygrwydd y sudd i'r bustl.

Dosbarthiad a chynefin

golygu

Mae llysiau'r wennol yn frodorol yn y rhan fwyaf o ranbarthau Ewrop. Fe'i darganfyddir hefyd yng Ngogledd Affrica, ym Macaronesia, Algeria a Moroco. Yng Ngorllewin Asia fe'i ceir yn y Cawcasws, Armenia, Azerbaijan, Georgia, Kazakhstan, Mongolia, Siberia, Iran a Thwrci.[13]

Mae llysiau’r wennol yn tyfu ledled y rhan fwyaf o Brydain ac eithrio rhannau o'r Alban, mewn cloddiau a gwrychoedd, ond fe'i darganfyddir yn aml ger hen adeiladau, lle mae'n debyg ei fod wedi goroesi o amseroedd cynharach pan gafodd ei dyfu fel planhigyn meddyginiaethol[14]

Ecoleg

golygu

Mae'n cael ei ystyried yn blanhigyn ymledol ymosodol mewn rhannau o Ogledd America, ac yn blanhigyn ymledol mewn ardaloedd eraill. Yn Wisconsin, er enghraifft, mae'n blanhigyn cyfyngedig. Gellir ei reoli yn bennaf trwy ddadwreiddio neu chwistrellu'r planhigyn cyn iddo wasgaru ei hadau (ond ni anogir chwystrellu yn erbyn 'chwyn' yn gyffredinol yn Ewrop onibai bod rhaid.

Profiadau personol

golygu
  • Cofio fy nain yn Nyffryn Ardudwy yn rhoi y sug ar ddafaden oedd gefn fy llaw ac fe ddiflanodd y ddafad ar ôl spel. Dan Morris (FB)[15]
  • Llysiau'r wennol......dilwydd, llygadlym, sudd y defaid, selidon (yr ola yn adlewyrchiad o'r enw gwyddonol, Chelidonium majus, chelidon yw'r enw Groegaidd am wennol.[16][17]
  • Ebrill 30ain. Llysiau'r wennol (Chelidonium majus). Planhigyn cyffredin iawn ar ymylon ffyrdd a chloddiau neu gysgod waliau. Caiff yr enw gan eu bod, yn draddodiadol yn blodeuo tua'r un adeg a dyfodiad y wennoliaid (chelidonyw'r gair Groegaidd am [[gwennol]|wennol]). Mae'r sudd melyn llachar sydd yn ymddangos wrth dorri coes y planhigyn i fod yn llesol yn erbyn defaid ar y croen. Enwau eraill Cymraeg...... dilwydd, llygadlym, sudd y defaid. Perthyn i deulu'r pabi[18]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Cooper, MR a Johnson AW (1984) Poisonous plants in Britain and their effects on animals and man, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Reference Book 161, HMSO
  3. Reader's Digest Field Guide to the Wild Flowers of Britain. Reader's Digest. 1981. p. 30. ISBN 978-0-276-00217-5.
  4. Stace, C. A. (2019). New Flora of the British Isles (Fourth ed.). Middlewood Green, Suffolk, U.K.: C & M Floristics. ISBN 978-1-5272-2630-2.
  5. Reader's Digest Field Guide to the Wild Flowers of Britain. Reader's Digest. 1981. p. 30. ISBN 978-0-276-00217-5.
  6. Hahn, R.; Nahrstedt, A. (1993). "Hydroxycinnamic Acid Derivatives, Caffeoylmalic and New Caffeoylaldonic Acid Esters, from Chelidonium majus*,1". Planta Medica. 59 (1): 71–5. doi:10.1055/s-2006-959608. PMID 17230338.
  7. Cooper, MR a Johnson AW (1984) Poisonous plants in Britain and their effects on animals and man, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Reference Book 161, HMSO
  8. Cooper, MR a Johnson AW (1984) Poisonous plants in Britain and their effects on animals and man, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Reference Book 161, HMSO
  9. Niering, William A.; Olmstead, Nancy C. (1985) [1979]. The Audubon Society Field Guide to North American Wildflowers, Eastern Region. Knopf. p. 671. ISBN 0-394-50432-1
  10. Cooper, MR a Johnson AW (1984) Poisonous plants in Britain and their effects on animals and man, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Reference Book 161, HMSO
  11. Grieve, Maud (1971). A Modern Herbal: The Medicinal, Culinary, Cosmetic and Economic Properties, Cultivation and Folk-lore of Herbs, Grasses, Fungi, Shrubs, & Trees
  12. Howard, Michael (1987-05-21). Traditional Folk Remedies. Century Paperbacks. Ebury Press. pp. 146–147. ISBN 978-0-7126-1731-4
  13. "Chelidonium majus". Germplasm Resources Information Network (GRIN). Agricultural Research Service (ARS), United States Department of Agriculture (USDA). Retrieved 10 August 2020.
  14. Cooper, MR a Johnson AW (1984) Poisonous plants in Britain and their effects on animals and man, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Reference Book 161, HMSO
  15. https://www.facebook.com/groups/CymunedLlenNatur/permalink/1010680959127207/
  16. Enwau Cymraeg ar Blanhigion, Dafydd Dafis & Arthur Jones (1995)
  17. Iwan Roberts FB
  18. Iwan Roberts FB[1]
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: